Prif Gynnwys
Hylo, a chroeso i WISE, sy’n sefyll am “Welsh Initiative for Supported Employment”
Mae cymorth yn golygu bod WISE yn gallu rhoi’r cymorth sydd ei angen arnoch chi i gael a chadw swydd.
Mae gwaith yn golygu bydd WISE yn edrych am waith go iawn i chi. Byddwch chi’n cwrdd â’ch ymgynghorydd gwaith y tro cyntaf rydych chi’n dod i WISE, gwaith y person hwnnw yw trefnu’ch hyfforddiant yn y gweithle.
Byddan nhw’n siarad â chi mewn ffordd gyfeillgar, a byddwch chi’n cael y cyfle i sôn am:
Unrhyw waith neu hyfforddiant rydych chi wedi’i wneud, beth wnaethoch chi yn yr ysgol neu’r coleg, a pa fath o waith hoffech chi wneud.
Mae’r wybodaeth hon yn eu helpu nhw i adeiladu darlun ohonoch chi a pa fath o waith bydd yn eich siwtio orau.
Ar bob cam o’r wasanaeth gewch chi gan WISE byddan ni’n gofyn i chi beth ydych chi am wneud, a pa fath o waith ydych chi am anelu amdano. Ar ôl pob lleoliad, chi fydd yn penderfynu beth i’w wneud nesa. Bydd eich ymgynghorydd gwaith yn rhoi cyngor ar swyddi addas, ond chi fydd yn gwneud y penderfyniad.
Bydd hi o gymorth os ydych chi’n meddwl o flaen llaw pa waith hoffech chi wneud, a rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi cyn bo hir.