Prif Gynnwys
Rhan 1
Dyma i chi brif adeilad Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg, sef 24, Heol Walter, Abertawe
Mae'r Consortiwm yn gyfundrefn ddi-elw sy'n darparu gofal a chynhaliaeth i bobl ag anabledd dysgu sy am fyw yn ardaloedd Abertawe, Castell Nedd a Phorth Talbot
Mae'r Consortiwm yn sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn tai cyffredin mewn strydoedd cyffredin
Os 'dych chi'n derbyn cymorth gan y Consortiwm, mae 'da chi'r un hawliau â phawb arall yn ein cymdeithas.
Bydd staff y Consortiwm yn gweithio ar y cyd 'da'ch teulu, pobl fel eich Gweithwyr Cymdeithasol neu Nyrsys Cymdeithasol, i sicrhau eich bod chi'n derbyn y cyngor a chymorth gorau posib.
Mae gan y Consortiwm bobl sy'n cwrdd i benderfynnu sut i redeg y gyfundrefn. Y rhain yw'r Bwrdd Rheoli.
Mae’r Bwrdd Rheoli’n cyflogi Rheolwyr Uwch. Maen’ nhw wedi’u lleoli yn Heol Walter, ac ar eu hysgwyddau nhw mae’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau’r Consortiwm.
Enw’r rhai sy’n rhoi cymorth i chi gael byw yn eich cartref eich hun yw Gweithwyr Cynorthwyol, neu Weithwyr Allweddol.
Bydd Gweithiwr Allweddol eich hun ‘da chi i ddarpau cymorth a chynhaliaeth.
Mae ‘da’ch Gweithiwr Allweddol oruwchwyliwr ‘dyn ni’n ei alw’n Cydlynnydd Gwasanaeth, a swydd hwnnw yw sicrhau eich bod chi’n hapus ‘da’r cymorth ‘dych chi’n ei dderbyn yn eich cartref.
Bydd y bobl sy’n eich cynorthwyo bob amser yn sicrhau eich bod chi’n cael eich dweud yn y cymorth a’r gwasanaethau ‘dych chi’n eu derbyn gan y Consortiwm.
Mae ‘na ffyrdd eraill o gael eich dweud hefyd.
- 'Dych chi'n gallu mynychu Grwp Tenantiaid y Consortiwm sy'n cwrdd yn fisol yn swyddfeydd y Consortiwm yn Abertawe. 'Dych chi'n gallu dod i Glwb Cymdeithasol y Consortiwm.
- ‘Dych chi’n gallu ymuno â’r Consortiwm a dod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i gwrdd â Thenantiaid, staff a phobl eraill sy’n gweithio ‘da’r Consortiwm.
- ‘Dych chi’n gallu helpu cynhyrchu cylchlythyr y Consotiwm.
- ‘Dych chi’n gallu helpu’r Consortiwm wrth iddyn nhw ddewis staff newydd.
- ‘Dych chi’n gallu cwyno os nad ‘dych chi’n hapus am rhywbeth.