Prif Gynnwys
Hylo, a chroeso i SPS – Gwasanaeth Cyfranogiad Abertawe.
Mae’r Gwasanaeth yn cael ei rheoli gan Mencap Cymru. Rydyn ni’n cael ein cytundebu gan Dinas a Sir Abertawe i gynnal oedolion ag anabledd dysgu a’u perthnasau a gofalwyr, fel bod gyda nhw ddweud yn y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn, ac i gymryd rhan mewn cynllunio’r wasanaeth. Beth mae hyn yn ei olygu yw ein bod ni’n cynnal defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau i gael dweud mewn nifer o ffyrdd.
Fel bod pobl ag anabledd dysgu’n gallu siarad am a rhannu eu barn ar y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn, mae’r Wasanaeth Cyfranogiad yn galluogi a chynnal cyfarfodydd pwyllgorau defnyddwyr a phwyllgorau gwasanaeth eang i ddigwydd. Mae cyfarfodydd yn helpu pobl i siarad am bob math o faterion sy’n cael effaith ar wasanaethau, ac yn eu helpu bod yn rhan o redeg y gwasanaethau hynny.
Mae llawer o’r bobl mae’r Wasanaeth Cyfranogi’n eu helpu hefyd yn cymryd rhan yn y Grŵp Cynrychioli Craidd i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae aelodaeth y grŵp yn fwy llydan gan ei fod yn cynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau sy ar gael gan ddarparwyr eraill a Phobl Abertawe Cyntaf.
Un o brif swyddogaethau y Wasanaeth Cyfranogiad ydy cynnal dylanwad y Grŵp Craidd, ac i gael eu dweud yng Nghrŵp Cynllunio Gwasanaethau Anabledd Dysgu yn Neuadd y Sir. Yn y grŵp cynllunio hwn yw lle mae gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr iechyd a gwasanaethau fel SPS, WISE, Doorways, cynnal byw, Pobl Cyntaf yn rhannu gwybodaeth, cynllunio am y dyfodol, ac yn trafod adroddiadau a pholisïau sy’n affeithio ar bobl ag anabledd dysgu, eu perthnasau a’u gofalwyr.
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cael dweud yn y grŵp hwn.
Mae’r Wasanaeth hefyd yn cynnal ac yn hwyluso cyfarfodydd rhwng perthnasau a gofalwyr a Dinas a Sir Abertawe, yn galluogi iddyn nhw gymryd rhan a chael eu dweud yn y pethau hynny sy’n effeithio arnyn nhw. Er enghraifft, rydyn ni’n trefnu cyfarfod agored blynyddol gydag Is-gyfarwyddwr a staff y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydyn ni’n helpu perthnasau a gofalwyr cael eu dweud ar bolisïau, adroddiadau a grwpiau gweithio.
Mae’r Wasanaeth hefyd yn gwneud y pethau hyn:
- Rydyn ni'n cynnal grwp eiriolaeth Pobl Abertawe Cyntaf iddyn nhw gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau i aelodau;
- Rydyn ni’n gallu helpu chi ffeindio gwybodaeth ar anabledd dysgu, neu roi syniad i chi o ble i gael y wybodaeth.
Os ydych chi am gymryd rhan, rhoi sylwadau neu gael eich dweud, yna ffoniwch ni, neu gyrrwch e-bost aton ni.