Prif Gynnwys
Hylo, hoffwn i ddweud ychydig bach am y Tîm Cymorth Cymunedol.
Mae’r Tîm yn cynnwys staff gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithio i Ddinas a Sir Abertawe a staff iechyd Ymddiriedolaelth CIG Bro Morgannwg. Rydyn ni wedi’n lleoli yn Nhŷ Herbert, ar y Parc Menter ger Gwesty Ramada Jarvis.
Yn y Tîm mae gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, therapydd lleferydd ac iaith, therapydd galwedigaethol, ffisiotherapyddion a seicolegyddion.
Mae’r Tîm yn gweithio’n agos iawn gyda seiciatrydd ymgynghorol y Gwasanaethau Anabledd Dysgu, a hefyd gyda’r Tîm Ymateb Cymunedol.
Rydyn ni’n gweithio gydag oedolion gydag anabledd dysgu i’w helpu gydag adnabod eu hanghenion a’r ffyrdd o fodloni’r anghenion hyn. Os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r gwasanaethau sy’n cael eu crybwyll ar y wefan hon, bydd gyda chi nyrs neu weithiwr cymdeithasol, sy’n cael ei alw’n rheolwr gofal. Byddwch wedi cael asesiad cyn derbyn unrhyw wasanaethau, ac mae’r rhain yn cael eu cynnal gan reolwr gofal.
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, neu am wybod os ydych chi’n gymwys i dderbyn unrhyw wasanaethau, ffoniwch Abertawe 614100, sef 614100, yn ystod oriau gwaith, a gofynnwch am y swyddog dyletswydd. Gallwch hefyd ebostio, neu ysgrifennu aton ni drwy ddefnyddio’r cyfeiriad hwn.
Diolch yn fawr iawn