Prif Gynnwys
Hylo, a chroeso i Drysau Gorllewin Morgannwg.
Mae Doorways yn cynnal oedolion sydd ag anabledd dysgu.
Mae Doorways yn helpu pobl i fyw ar eu pennau eu hunain gyda’i Gwasanaeth Cynnal Cartref.
Rydyn ni’n helpu gyda pethau fel:
Siopa, talu biliau, trefnu arian, deall llythyrau, atgofion i gymryd tabledi ac atgoffa pobl bod gyda nhw apwyntiad meddygol.
‘Yn gyffredinol beth bynnag sydd eisiau i helpu pobl byw yn llwyddiannus ar eu pennau eu hunain’.
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth asesu sgiliau sy’n cymryd tua deg wythnos – mae’n dangos beth mae pobl yn gallu gwneud, a’r pethau fydd angen help a chymorth arnyn nhw i’w gwneud.
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth ‘Dod i’ch nabod chi’ sy’n paratoi pobl ar gyfer y newidiadau yn eu bywydau wrth symud i mewn i lety newydd gyda phobl eraill.
Sut ydych chi’n derbyn cymorth gan Doorways?
Os oes gyda chi anabledd dysgu, siaradwch â’ch rheolwr gofal, sef eich gweithiwr cymdeithasol neu nyrs gymuned – gallwch chi ffonio nhw ar 01792 614100.
Os ydych chi am wybod fwy am Doorways Gorllewin Morgannwg, ffoniwch ni ar 01792 476132