Prif Gynnwys
Hylo, a chroeso i Wasanaethau Anabledd Dysgu Dinas a Sir Abertawe. ‘Dyn ni’n darparu gwasanaethau dydd a phreswyl i oedolion sydd ag anabledd dysgu, ac sy’n byw yn Abertawe.
‘Dyn ni yma i’ch helpu chi i fyw bywyd mor llawn ag sy’n bosib yn y gymuned.
Mae gyda ni lawer o wasanaethau ar draws Abertawe sy’n eich helpu chi i ddatblygu’ch sgiliau, i chi gael y cyfle i weithio a byw yn fwy annibynnol. ‘Dyn ni hefyd yn eich helpu chi gyda chynnal eich iechyd, eich lles corfforol a meddyliol a’ch iechyd.
Mae ein gwasanaethau dyddiol yn darparu llawer o weithgareddau - o hyfforddiant ar gyfer gwaith i addysg a gweithgareddau hamdden yn y gymuned. ‘Dyn ni hefyd yn darparu gweithgareddau therapiwtig a chymorth gydag anghenion gofal personol.
Mae gyda ni ri chartref egwyl sy’n cynnig arhosiadau byr ond ystyrlon tra bod eich rhieni neu ofalwyr yn cymryd egwyl.
Mae ein huned preswyl yn darparu llety argyfwng i chi mewn cyfnodau o anhawster.
Os ydych chi’n byw gartref neu’n annibynnol, efallai cawn ni ddarparu cymorth parhaol i’ch helpu chi ddatblygu eich sgiliau fel y cewch chi aros yn eich cartref.
Mae gan ein Timau Cymorth Cymunedol weithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol a therapyddion sy’n gallu’ch helpu chi i ddefnyddio’n gwasanaethau, cynnig cyngor ar fudd-daliadau a’ch helpu chi gydag unrhyw addasiadau i’ch cartref.
Y peth pwysicaf yw bod y staff o fewn y Gwasanaeth yn hyfforffedig ac yn sensitif i’ch anghenion, a byddan nhw’n siarad â chi i sicrhau eich bod chi’n derbyn y mwyaf o’r gwasanaeth.