Prif Gynnwys
Fideo yw hwn am Leoliad Oedolion â Theulu
Mae Joe yn byw gartref gyda’i frawd, o’r enw Peter
Mae gan Joe ei ‘stafell wely ei hun, lle mae’n hoffi paratoi at gael band Jazz.
Mae Joe yn hapus iawn gyda’i frawd Peter, ond weithiau mae’n dda iddo gael hoe, ac mae’n dda i Peter gael un hefyd.
Heddiw mae Peter yn cymryd Joe i gwrdd â theulu. Efallai y byddan nhw’n darparu Lleoliad Oedolion â Theulu iddo.
Mae rhai yn mynd i aros gyda theulu am noson neu ddwy, ac yna mae’n teimlo fel gwyliau pan ddôn nhw adref eto.
Dyma Gordon a Pat, sy wedi pasio pob prawf at fod yn ddarparwyr Lleoliad Oedolion â Theulu.
Efallai bydd Joe yn dod i aros â Pat a Gordon o dro i dro. Bydd gan Joe’ stafell wely i gadw’r pethau mae’n dod o’i gartref.
Mae’n bwysog bod Joe yn hapus yn ei Leoliad Oedolion â Theulu, felly maen nhw’n eistedd i drafod pethau fel beth mae Joe yn hoffi’i wneud a bwyta.
Mae Pat yn dweud ‘Reit, ‘te Joe, beth wyt ti’n ei hoffi i frecwast?’. Mae Joe yn ymateb ‘colli pwysau’, ac mae Peter yn dweud ‘Creision ŷd colli pwysau, Special K, ond dydy e ddim yn hoffi pethe iach!’
Mae Gordon yn gofyn ‘Ydy Joe yn mynd i unrhyw glybiau?, ac mae Joe yn dweud ‘Ydw’.
Mae Lleoliad Oedolion â Theulu yn gynllun gwych, ac mae’n golygu cymaint i’r bobl sy’n ei ddefnyddio, ac i’r gofalwyr hefyd.