AM WISE
CEFNDIR
Sefydlwyd WISE yn 1985 gan grwp o rieni a gredai mewn rhoi’r cyfle i bobl gydag anableddau dysgu i weithio.
Mae WISE yn elusen gofrestredig, yn gwmni cyfyngedig ac yn gwmi cydweithredol cymunedol. Mae’r math o gyflogaeth gyda chefnogaeth a gynigir gan WISE wedi’i diffinio gan y Gymdeithas dros Gyflogaeth gyda Chefnogaeth:" gwaith go iawn mewn lleoliad integredig gyda chefnogaeth barhol a ddarperir gan asiantaeth sy’n arbenigio mewn dod o hyd i gyflogaeth i bobl gydag anableddau dysgu ".
CYLLID
Yn derbyniodd yr asiantaeth gyllid oddi wrth Ewrop a Strategaeth Cymru Gyfan.
Ers 1985 mae’r cyllid wedi dod o gontractau a gynhaliwyd gydag ardannau Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot.
Mae WISE hefyd yn gweithredu contractau gyda’r Gwasanaeth Cyflogi a SEPACS (asiantaeth y Gwasanaeth Cyflogi), tra bod Cronfa Gymunedol, Plant mewn Angen, TSB, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, Cronfa Cyfleoedd Newydd as Amcan 1 yn cyllido prosiectau ychwanegol.STRWYTHUR
Rheolir y mudiad gan Bwyllgor Rheoli sy’n gyfrifol am benderfyniadau
polisi yn gyffredinol. Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr sy’n bennaeth ar y tim staff yw rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd. Mae tueddiad i swyddogaethau staff fod yn arbenigol gan fod yr Ymgynghorwyr Cyflogaeth yn cario baich achosion o bobl sy’n chwilio am waith tra bod yr Hyfforddwyr Swydd yn cyflawni’r hyffordiant yn y gweithle.AMCANION
Bwriadai WISE ddarparu digon o ddealltwriaeth a phrofiad o waith i bobl sy’n chwilio am waith i’w galluogi i wneud dewisiadau deallus. Byddant hefyd yn derbyn y gefnogaeth a’r hyfforddiant arbenigol y bydd eu.
hangen arnynt i lwyddo yn y gwaith. Mae’r Asiantaeth hefyd yn cydnabod bod ganndi ddyletswydd i gyflogwyr, ac felly’n bwriadu eu darparu gyda gweithwyr sy’n addas ac wedi’u hyfforddi i safonau’r cwmni.PROSIECTAU
Yn ychwanegol i’r gwasanaeth sylfaenol, mae WISE yn rhedeg prosiectau a allai amrywio yn ô l y cyllid sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys y
- Prosiect Gwaith Ysgol,
- WAVE (Mynediad WISE i Wirfoddoli ac Addysg) a
- Sgiliau Sylfaenol - Gweler y taflenni gwybodaeth sydd ar wahân
Y GWASANAETH
Mae gan bob person sy’n chwilio am waith angehenion gwahanol. Mae’r Ymgynghorwyr Cyflogaeth yn darparu cyfarwyddyd galwedigaethol ac yn cytuno ar gynllun gweithredu gyda’r person sy’n chwilio am waith.
Fe allai hwn gynnwys cwrs paratoi ac un neu fwy o leoliadau profiad gwaith. Bydd rhai pobl sy’n chwilio am waith yn barod i fynd at gyflogaeth yn uniongyrchol.Wedi i ni ddod o hyd i gyflogwr a ganddo swydd wag neu leoliad i’w cynnig, bydd yr hyfforddwr swydd yn dysgu’r swydd ac yna’n hyfforddi’r person sy’n chwilio am swydd yn uniongyrchol nes bod y person hwnnw wedi cyflawni perfformiad annibynnol o’r swydd. Bydd yr hyfforddwr swydd yn lleihau ei gyfraniad hyfforddi a chefnogaeth yn raddol a gyda chaniatad y cyflogwr.
Gall y bobl sy’n chwilio am swyddi hefyd dderbyn hyfforddiant i deithio i’r gweithle.
Nid yw’r hyfforddiant a’r gefnogaeth yn dod i ben pan fydd y person sy’n chwilio am swydd wedi dod o hyd i waith. Bydd yr Ymgynhgorydd Cyflogaeth yn monitro ac ar gael ar unrhyw adeg i ddatrys unrhyw broblemau, gan gynnwys unrhyw anawsterau gyda budd-daliadau lles.
Bydd yr hyfforddwr swydd yn dychwelyd i’r gweithle os bydd angen hyfforddiant pellach ar unrhyw adeg. Mae’r gwasanaeth parhaol hwn yn hybu cynhaliaeth y swydd a datblygiad gyrfa.
Am wybodaeth bellach ar WISE cysylltwch â ni:
Cyfeiriad : WISE, 17 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SG Ffon: 01792 538538 e-bost: admin@wisewales.org.uk Neu ewch i’n gwefan: www.wisewales.org.uk