Siarter wrth edrych am waith
Fe fydd WISE yn:
Groesawgar
- Bydd y staff bob amser yn boleit.
- Pe bai gennych apwyntiad, cewch eich gweld ar bryd.
- Os ‘dych chi’n dod i’n gweld ar hap, un ai cewch chi gyfweliad o fewn awr, neu gewch chi apwyntiad i’n gweld ni nes ymlaen.
- Atebwn eich galwad ffôn o fewn 30 eiliad.
Breifat
- ‘Dyn ni’n cynnal cyfweliadau mewn ystafelloedd preifat.
- Mae’ch gwybodaeth yn gyfrinachol. Dim ond staff fydd yn ei gweld.
Eich helpu
- Byddwn ni’n dweud wrthych am waith, budd-daliadau ac amdanon ni.
- Cewch wybod enw’ch Ymgynghorydd Gwaith
- ‘Dych chi’n gallu ei weld drwy ofyn am gyfweliad.
- Byddan nhw’n cysylltu ‘da chi‘n rheolaidd ynghlyn â chwilio am waith.
Gwrando arnoch chi
‘Dyn ni yma i’ch helpu chi, felly dwedwch wrthyn ni beth ‘dych chi eisiau. Ond hefyd, dwedwch os yw pethe wedi mynd o’u lle. Byddwn ni’n gwrando arnoch chi ar bob cyfrif:
- Pan ‘dych chi’n cwrdd â ni yn y lle cyntaf ‘dyn ni am wybod beth ‘dych chi eisiau.
- Ar ôl i chi weithio rhywle, ‘dyn ni am wybod am y profiad, a beth hoffech chi’i wneud nesa’.
- Efallai cewch lythyr gan WISE yn gofyn sut mae WISE wedi’ch helpu chi.
Os yw pethe’n mynd o’u lle
Gwnewn ein gorau glas i’ch helpu, ond os oes gennych gwyn neu achwyn am aelod o’n staff, gwnewch hyn:
- Yn gyntaf, siwaradwch gyda’r aelod o staff. Efallai mai camddealltwriaeth sy wedi bod.
- Os nad ydy hyn yn eich helpu, ysgrifennwch at Gyfarwyddwr WISE. Dylech chi fwrw popeth ar bapur pe bai modd.
- Os nad ydy hyn yn helpu, siaradwch â’r Pwyllgor Rheoli.
- Cewch gymryd rhywun gyda chi i’ch helpu.
- Rhaid i chi fwrw’r cwyn ar bapur.
- Bydd y Pwyllgor yn penderfynnu ar beth i’w wneud, ac yn danfon llythyr o fewn 4 diwrnod.
Am ragor o wybodaeth am WISE:
WISE, 17 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SG
Ffôn: 01792 538538ebost: admin@wisewales.org.uk
neu ewch i’n gwefan: www.wisewales.org.uk
