Cyfeiriad: 17 Mansel Street, Swansea, SA1 5SG Ffôn 01792 538538 Ebost: admin@wisewales.org.uk

Am Fenter Cynnal Cyflogaeth Cymru (WISE yn Saesneg)

Gwybodaeth am Fenter Cynnal Cyflogaeth Cmyru (WISE yn Saesneg)

Ein nodau ni

Ein nodau ni

‘Dyn ni am ddod o hyd i waith cyflogedig ar eich cyfer. Gwnawn gynllun i’ch helpu ddod o hyd i waith. Nôd y cynllun yw dod o hyd i waith cyflogedig. Bydd camau ar hyd y ffordd, sef eich

nodau chi.

Eich nodau chi

 

 

 

 

Eich nodau chi

Eich nôd chi yw cael swydd, ac efallai cewch chi gamau ar hyd y ffordd. Efallai bydd angen hyfforddiant neu brofiad gwaith.

Paratoi ar gyfer gwaith

 

 

 

 

Paratoi ar gyfer gwaith

Mae gan WISE gyrsiau i baratoi pobl ar gyfer gwaith. Maen nhw’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi wrth edrych am waith. Maen’ nhw hefyd yn dangos beth fydd pobl yn disgwyl yn yn gweithle.

Wave logoWAVE logo

 

 

 

Cyrsiau Eraill

Mae WISE yn gallu rhoi gwybodaeth am gyrsiau eraill sy’n gallu’ch helpu chi ennill sgiliau newydd.

Profiad Gwaith

 

 

 

 

Profiad Gwaith

Mae ‘na dri math o brofiad gwaith:

Blas ar waith – os nad ‘dych chi’n rhy siwr o’r math o beth hoffech chi’i wneud.

Profiad Gwaith – ‘dych chi’n gwybod beth hoffech chi’i wneud, ond mae angen profiad a geirda gan gyflogwr. Hefyd, mae WISE yn darganfod mwy am eich sgiliau.

Treialu Gwaith – mae gan gyflogwr swydd wag, ond maen’ nhw am weld os ‘dych chi’n gallu gwneud y gwaith yn gyntaf.

Cymorth ar Brofiad Gwaith

Cymorth ar Brofiad Gwaith

Cymorth ar Brofiad Gwaith

‘Dych chi’n gallu cael cymorth gan hyfforddwr WISE wrth i chi wneud eich profiad gwaith. Bydd y person hwnnw yno i’ch dysgu sut i wneud y gwaith, a bydd e/ hi yno cyhyd ag sydd eisiau.

Chewch chi ddim cyflog ar brofiad gwaith, ond bydd WISE yn darparu arian ar gyfer costau teithio a bwyd.

Gwaith

Gwaith

Gwaith

Daw’r amser pan fyddwch yn gwybod beth ‘dych chi am ei wneud, bydd gyda chi brofiad a bydd gyda chi eirda gan gyflogwr. Bydd eich Ymgynghorydd Cyflogaeth yn edrych am waith cyflogedig drosoch chi, neu waith gwirfoddol os taw hynny yw eich nôd. ‘Dych chi’n dod o hyd i waith drwy darllen hysbysebion neu siarad gyda chyflogwyr.  

Mae’n gallu cymryd ychydig bach o amser i ni ddod o hyd i swydd i chi. Bydd eich Ymgynghorydd Cyflogaeth yn eich helpu chi gyda ffurflenni cais, a bydd e/ hi’n mynd i gyfweliadau gyda chi.

Bydd yr Hyfforddwr yn eich helpu ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen yn y swydd. Os ydy’r swydd yn newid o gwbl, bydd yr Hyfforddwr yn dod nôl i’ch hlpu chi eto.

Gwaith a Budd-daliadau

Gwaith a Budd-daliadau

Gwaith a Budd-daliadau

Mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod pa fudd-daliadau ‘dych chi’n eu derbyn achos mae ‘na wahanol rheolau i’w dilyn. Bydd WISE yn gallu dweud wrthych chi sut y bydd gweithio effeithio’ch budd-daliadau. Efallai bydd modd i chi weithio a chadw rhai o’ch budd-daliadau.

Mae’r system budd-daliadau’n gymhleth iawn, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cael gair gyda’ch Ymgynghorydd Cyflogaeth cyn dechrau gwaith neu ymuno â chwrs. 

Bydd eich Ymgynghorydd Cyflogaeth yn rhoi cyngor, ond chi a’ch rhieni/ gofalwyr bydd yn dewis.

Chi a WISE

Chi a WISE

Chi a WISE

Chi a WISE

Gan fod cymaint o bobl yn edrych am waith, ‘dydy WISE ddim yn gallu addo ffeindio gwaith i chi, ond bydden nhi’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu chi.

Bydd eich Ymgynghorydd Cyflogaeth yn cael gair bob hyn a hyn i roi gwybod i chi beth sy wedi bod yn digwydd.  ‘Dych chi’n gallu helpu drwy ddweud beth sy wedi bod yn digwydd yn eich bywyd chi.  Gadewch i ni wybod os ‘dych chi’n:

Mae WISE yn gallu’ch helpu chi gael swydd. ‘Dyn ni wedi helpu dros 1000 o bobl dod o hyd i waith.

Cyflogwyr

Cyflogwyr

Dyma’r bobl sy’n talu i chi weithio drostyn nhw. ‘Dyn ni ddim yn gallu helpu pobl heb gymorth cyflogwyr, felly maen bwysig iawn i chi gyflawni anghenion y cyflogwyr.