Ebrill 2003 i Fawrth 2004
Mae’r adolygiad hwn yn dweud wrthych chi beth wnaeth Walsingham y llynedd

Sue yn gofyn cwestiwn mewn cyfarfod Walsingham
Mae Walsingham yn cynorthwyo pobl ag anabledd dysgu fel eu bod nhw’n gallu byw bywydau llawn.
‘Dyn ni’n darparu llety, gofal a gwasanaethau cynorthwyol i bobl ag anabledd dysgu dros 18 mlwydd oed. Mae gan rai o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo anabledd dysgu, ond bod gan rhai ohonynt anabledd gorfforol a namau synhwyraidd.
Yn 2003/2004, roedd 47 o wasanaethau yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 275 o bobl ag anabledd dysgu. Roedd 467 o aelodau staff gyda ni.
Mae ‘na sail Cristnogol i’n gwasanaethau. Rydym yn ystyried pawb fel aelodau cyfartal ein cymdeithas. Rydym yn parchu’r ffaith bod gan y bobl rydym yn eu cynorthwyo a’r bobl sy’n gweithio i Walsingham lawer o wahanol daliadau.
Beth yw Adolygiad Blynyddol Walsingham?
Mae Adolygiad Blynyddol Walsingham yn dweud wrthych chi beth wnaethon ni y llynedd.
Mae ganddo eiriau a lluniau sy’n hawdd i chi eu deall.
‘Dych chi’n gallu dweud wrthyn ni os ‘dych chi eisiau’r adolygiad ar CD.

‘Dyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r adolygiad. Dwedwch wrthyn ni sut y gallen ni ei wneud yn well y flwyddyn nesaf.
Contact Walsingham
Cyfeiriad:
Walsingham House, 1331-1337 High Road, Whetstone, London, N20 9HR Ffon: 020 8343 5600 Ffacs: 020 8446 9156 Minicom: 020 8446 0790 Ebost: enquiries@walsingham.com
WGwefan: www.walsingham.com
Pauline yn siarad ar y ffôn
Dweud wrth bobl am ein gwaith
Mae Christiana Horrocks, Cadeirydd Walsingham, yn dwued:
“Mae’n bwysif bod Walsingham yn dweud wrth bobl am eu gwaith. Mae’n helpu pobl cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Y llynedd, rhoeson ni wybod i bobl am ein gwaith mewn nifer o ffyrdd.
Cawson ni ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Abertawe. Daeth llawer o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo, eu teuluoedd a’u ffrindiau i’r cyfarfod. Daeth pobl o’r awdurdodau lleol a llefydd eraill i’r cyfarfod hefyd.
Nawr mae ‘da ni wefan ein hunain. Mae’n rhoi gwybodaeth am ein gwasanaethau. ‘Dych chi’n gallu ffeindio’r wefan yma: www.walsingham.com.
‘Dyn ni wedi dechrau gwefannau i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo, ac i’n staff. Mae ganddi lawer o wytbodaeth, ac mae’n helpu pobl cyfathrebu â’i gilydd.
Gofynnwch i ni os ‘dych chi am gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith.”
Gwella fyw fwy
Mae Mark Snell, Prif Weithredwr Walsingham, yn dweud:
“’Dyn ni wedi gweithio’n galed iawn eleni i wella ar beth ‘dyn ni’n ei wneud. Mae’r staff a’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo wedi’n helpu ni wneud hyn.
Mae prosiect Ein Llais wedi helpu pobl dweud wrthyn ni beth maen’ nhw eisiau gan Walsingham. Rhoddodd Y Lotri Mawr arian i ni wneud hyn.
Rhodddodd prosiect arall (The Feeling Valued – Giving Value) gyfle i’n staff dweud wrthyn ni pa fath o brofiad oedd hi i weithio i Walsingham. Dywedon nhw sut y gallen ni’u helpu nhw gwneud eu gwaith yn well, a sut y gallen ni wella’r gwasanaethau ‘dyn ni’n eu darparu. Cawson ni arian gan Adran Masnach a Diwydiant y Llywodraeth i wneud hyn.
Mae’r proiectau hyn yn gwneud ein gwasanaethau’n well, ac mae’n gwella bywydau’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo, a’n staff.
Yn olaf, dechreuon ni wasanaethau newydd yn Brent (Llundain), Croydon (Llundain) ac Abertawe (Cymru). ‘Dyn ni’n croesawu’r staff a’r defnyddiwr gwasanaeth.”
Ein gwasanaethau llety, gofal a chynorthwyo
Mae Walsingham yn darparu llety, gofal a gwasanaethau cynorthwyol i bobl ag anabledd dysgu dros 18 mlwydd oed.
‘Dyn ni’n darparu dau wahanol fath o wasanaeth. Y rheswm am hyn yw bod anghenion pobl ag anabledd dysgu yn amrywio. Mae’r gwasanaethau i gyd yn sicrhau bod pobl yn byw eu bywydau’n llawn.
Dyn ni’n rhedeg gwasanaethau gofal preswyl. Mae pobl yn byw mewn tai arferol gyda lolfa, ystafell fwyta, cegin, ystafelloedd ‘molchi a gardd. Mae gan bop person ei ystafell wely ei hun.
‘Dyn ni’n rhedeg gwasanaethau cynorthwyo byw. Mae gan bobl fwy o reolaeth dros eu bywydau nhw eu hunain. Maen’ nhw’n gyfrifol am wneud pethe fel prynu bwyd a thalu am eu rhent. Mae rhai yn byw ar eu pennau eu hunain, tra bod eraill yn byw gyda chyfeillion.
Mae ein gwasanaethau’n newid
‘Dyn ni wedi dechrau gwasanaethau newydd yn 2003/2004. ‘Dyn ni hefyd yn gweithio’n galed i wella’n gwasanaethau eraill.
Mae’r llun yn dangos bod Walsingham wedi darparu fwyfwy o wasanaethau i bobl ag anbledd dysgu ers i ni ddechrau ym 1986.
Brent (Llundain)
Dechreuon ni redeg 2 wasanaeth i 14 o bobl yn Brent. Roedd cyfundrefn o’r enw Dignity Care yn rhedeg y gwasanaethau ar un adeg. Gofynon nhw i ni gymryd drosodd oherwydd roeddyn nhw’n hoffi’r ffordd roedden ni’n rhedeg pethe.
Croydon (Llundain)
Mae gwasanaethau cynorthwyol ‘da ni yn Croydon. ‘Dyn ni’n cynorthwyo 7 person mewn tri thy. Maen’ nhw’n gadael i ni wybod faint o gymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac ar gyfer beth. Maen’ nhw nawr yn byw yn fwy annibynnol, ac maen’ nhw wedi dysgu llawer o sgiliau newydd. ‘Dyn ni am ymestyn y gwasanaeth hwn yn 2004/5.
Abertawe (Cymru)
Mae gwasanaethau cynorthwyol ‘da ni yn Abertawe. Dechreuodd y gwasanaeth oherwydd roedd pobl am fyw bywyd mwy annibynnol. Mae 6 pherson yn cael eu cynorthwyo, a hynny mewn tri thy.
Maen’ nhw’n dysgu sgiliau newydd, fel siopa, coginio a glanhau. Mae gan rai ohonyn nhw anifeiliaid anwes.
Walsingham (Norfolk)
Dechreuon ni redeg y gwasanaeth hwn yn 2002. Gweithion ni’n galed iawn ar y cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd y bobl ‘dyn ni’n eu helpu yn symud i dai llai erbyn Mawrth 2005. ‘Dyn ni’n cael cyfarfod bob mis fel bod pawb yn cael ei ddweud.
Workington (Cumbria)
Cynllunion ni wasanaeth newydd yn Workington gyda chyfundrefn o’r enw Cumbria Care. Symudodd rhai allan o hostel mawr i mewn i dai llai erbyn diwedd 2004. Bydd y gwasanaeth newydd yn eu cynorthwyo. Cronfa arian o’r enw Independent Living Fund fydd yn talu am eu cymorth.
Vijaya yn gwneud pwdin
Jocelyn yn gwneud te
Am Chris
Mae Chris yn byw yn Cumbria. Symudodd e o dy wedi’i rannu llynedd i mewn i fynglo ei hun. Mae nawr yn defnyddio un o’n gwasanaethau cynorthwyol
Mae Christopher yn dwued:
“R’on i am gael fy lle fy hun am achau. Ar ôl misoess o baratoi, gan gynnwys cyfweld â staff fy hun, symudais i mewn i’r bynglo.
Mae gen i 2 ‘stafell wely, cegin, lolfa, ‘stafell molchi a gerddi neis. Dw i’n teimlo’n annibynnol nawr. Dw i’n helpu gyda’r gwaith ty a’r coginio
Bob dydd dw i’n dewis beth i’w wneud. Dw i’n joio mynd i siopa a chael coffi pan dw i allan. Dw i’n mynd i ddosbarthiadau hefyd. Gyda’r nos, os nad oes unrhywbeth arall ‘da fi i’w wneud, dw i’n gwilio’r operâu sebon ar y teledu! Hefyd, dw i wedi cael fy nghar cyntaf!
Dw i’n hoffi dangos fy ffrindiau o gwmpas y ty. Dw i wrth fy modd yn byw ar fy mhwn fy hun.”
Cynnwys y bobl 'dyn ni'n eu cynorthwyo
Mae Walsingham am gynnwys y bobl sy’n cael eu cynorthwyo mewn pethau pan maen’ nhw am ei wneud, ac i gael eu dweud.
‘Dyn ni am i bobl cael eu dweud am eu bywydau. ‘Dyn ni’n eu cynorthwyo i ddweud beth maen nhw’n hoffi, a beth sy’n gâs ‘da nhw.
‘Dyn ni am ffeindio ffyrdd i helpu’n staff wrando ar y rheini ‘dyn ni’n eu cynorthwyo.
‘Dyn ni am ddarparu gwybodaeth sy’n llawn geiriau a lluniau sy’n hawdd i bobl eu deall.

Cael eich dweud
‘Dyn ni am i bobl gael eu dweud iddyn nhw reoli eu bywydau eu hunain. Yr enw am hyn yw eiriolaeth. Weithiau mae’n anodd iawn i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo cael eu dweud. ‘Dyn ni am eu helpu dweud yr hyn maen’ nhw am ei ddweud.

Llongyfarchiadau i David ac Alison o Abertawe briododd ym mis Ionawr 2004! Mae David ac Alison yn cael cymorth gan Walsingham. D’wedon nhw eu bod nhw am briodi – rhoeson ni gymorth iddyn nhw wneud hyn.
Prosiect Ein Llais
Cafodd Walsingham, Elizabeth FitzRoy Support a Freeways Trust arian gan Gronfa’r Lotri Mawr i redeg prosiect o’r enw Our Voices. Llynedd, rhoddodd y prosiect hwn gymorth i bobl i gael eu dweud.
Sefydlodd Prosiect Our Voice grwpiau lleol oedd yn rhoi siawns i bobl siarad am bethe oedd yn bwysig iddyn nhw.
Cafodd syaff hyfforddiant fel rhan o’r Prosiect i weithio gyda phobl heb y gallu i siarad. Dysgodd y staff sut i fynegi barn y bobl roedden nhw’n eu helpu.
‘Dyn ni’n gwneud llawer o bethe eraill fel bod pobl yn cael eu dweud.
Mae rhai pobl yn mynd i grwp eiriolaeth i ddysgu sut i gael eu dweud. Mae rhai yn cael eiriolwr i siarad ar eu rhan.
Mae ‘na gyfarfodydd ty i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. Mae pobl yn dweud beth maen’ nhw’n hoffi ac yn ei gasàu am y lle maen’ nhw’n byw ynddo.

‘Dyn ni hefyd yn rhedeg cynadleddau ar gyfer y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. Maen’ nhw’n sôn am y pethe sy’n bwysig iddyn nhw.
Am Paul
Mae Paul yn mynd i grwp eiriolaeth. Mae’n dweud:
“Mae’r grwp yno i gynorthwyo pobl sy ddim yn teimlo’n hyderus iawn. Mae’r grwp yn gwrando ar bwth sy ‘da fi i ddweud, a dw i’n cael cymorth i wneud beth dw i am wneud. Mae’r grwp yn helpu ni i wrnado ar bobl eraill. ‘Dyn ni wedyn yn sylweddoli bod problemau ‘da phobl eraill hefyd.
‘Dyn ni’n rhoi cyngor o’n profiadau ni ein hunain, ond mae popeth yn gyfrinachol – mae popeth yn aros o fewn y grwp.
‘Dyn ni wedi cwrdd llawer o weithiau am gyfarfodydd grwp neu i gymdeithasu. Dw i’n mwynhau’r cyfarfodydd ac yn edrych ymlaen at bob cyfarfod.”
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Mae Walsingham yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn. ‘Dyn ni’n dweud wrth bobl beth sy wedi bod yn digwydd yn y flwyddyn flaenorol. Mae pobl yn dweud os ydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith da ai peidio.
Roedd cyfarfod 2003 yn Abertawe ym mis Gorffennaf. Aeth llawer o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo, a’u teuluoedd, i’r cyfarfod.
Gofynnodd y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo lawer o gwestiynau, a d’wedon nhw beth oedden nhw am i ddigwydd eleni. Dyma beth d’wedon nhw:

- Roedd rhai pobl am gael barbeciw yn eu tai. Ar ôl y cyfarfod, gwnaethon ni’n siwr bod y rhain ar gael.
- Roedd rhai pobl yn siarad yn erbyn staff yn ‘smygu yn eu tai. Ar ôl y cyfarfod, creuon ni reol newydd i ddwedu pwy oedd yn gallu ‘smygu yn nhai’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo.
- Roedd rhai pobl am siarad am fwy o bethe yn eu cyfarfodydd ty. ‘Dyn ni wedi bod yn gweithio gyda staff i sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn gweithio’n well.
’Dyn ni hefyd yn dechrau grwpiau sy’n trafod pethe sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu rhedeg gan: West Cumbria People First, All Wales People First, POhWER yn Hertfordshire a Advocacy Partners yn Llundain.
Bydd y cyfarfod nesa ar 6ed Hydref 2004 yn Hertfordshire. Croeso cynnes i bawb!
Am Steven
Mae Steven yn derbyn cymorth gan Walsingham. Aeth e i’r Cyfarfod Blynyddol. Dywedodd e:
“Siaradon ni mewn grwp gyda menyw o’r enw Marie. Ron ni’n trafod y pethe ron ni am ddigwydd i’r gwasanaeth.
Roedd Michael eisiau gwneud rhagor o arddio. Roedd rhywun arall eisiau bys iddyn nhw gael fynd allan fwy. Gofynodd rhywun arall am ragor o arian iddo fe a’r staff.
Roedd un arall am fynd i Barbados ar ei wyliau. Roedd Alison yn gofyn am lai o waith papur i’r staff. Ron i eisiau cael ty llai, ac edrych ar ôl fy arian fy hun.
Ar ôl siarad am bethe pwysig, d’wedodd Mark Snell (Prif Weithredwr Walsingham) wrthyn ni sut oedd Walsingham yn gwario’i arian bob blwyddyn.
Wedyn cawson ni bwffe a disgo. Bwyton ni, yfon ni a dawnsion ni tan ganol nos. Roedd y diwrnod yn lwyddiant.”
Cynhadledd i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo

Cynhaliodd Walsingham gynhadledd i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo yng Ngogledd Lloegr. Cyfarfod mawr yw cynhadledd, lle mae pobl yn dod at ei gilydd i siarad am bethe.
Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn Cumbria ym mis Mawrth 2004. Daeth llawer o bobl i’r gynhadledd, a chawson nhw hwyl. Dywedodd pobl beth oedden nhw’n ei feddwl am ein gwaith.
Dywedodd y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo eu bod nhw’n cael eu dweud – am y pethe sy’n digwydd yn eu bywydau, am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn a’r ffordd mae Walsingham yn gweithio. Maen nhw’n meddwl y dylai Walsingham wneud mwy i sicrhau eu bod nhw’n cael eu dweud.
Dywedodd rhai nad oeddyn nhw’n gwybod beth oedd Walsingham. Dysgon ni lawer yn y gynhadledd.
Talodd ein prosiect Our Voice am y gynhadledd. Cafodd y gynhadledd ei rhedeg gan gyfundrefn o’r enw West Cumbria People First.
Byddwn yn cynnal rhagor o gynadleddau i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. ‘Dyn ni’n cynllunio cynadleddau yn Hertfordshire, Cymru a Llundain ar gyfer 2004, a chynhadledd Our Voice yn 2005.
Am Linda
Mae Linda’n derbyn cymorth gan Walsingham. Aeth hi i’r gynhadledd. Dywedodd hi:
“Roedd rhaid i Angie a finnau godi am 6 o’r cloch i fod yn barod i deithio i’r gynhadledd. Cawson ni daith dda, ond roedd hi’n pan gyrhaeddon ni yno.
Yn y bore siaradon am bethe ‘dyn ni’n hoffi’u gwneud. Siaradon ni am ein swyddi, ein tâl, a pam ‘dyn ni am i rywun siarad droston ni. Wedyn siaradon ni am Walsingham a beth maen nhw’n gallu gwneud i ni. Siaradon ni am ddechrau grwp eiriolaeth, lle bydd siawns i ni rhannu’n problemau, a darganfod sut i gael cymorth i wneud pethe ‘dyn ni am eu gwneud.
Roedd ‘na ddisgo a bwffe gyda’r nos, a chawson ni gyd hwyl. Roeddwn i wedi blino, felly es i i’r gwely’n gynnar. Roedd y gwesty’n hyfryd.
Y diwrnod nesaf, arhosais i ar gyfer y cyfarfod brecwast. Siaradodd David o People First am y pethe oedd wedi digwydd yn y gynhadledd, a sut i ddechrau grwp eiriolaeth.”
Yn cael eich cynnwys yn ein gwaith
Mae Walsingham eisiau cymorth y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo i gymryd rhan yn ein gwaith. Mae hyn yn ein helpu ni wella. Hefyd, mae gan bobl fwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain os ydyn nhw’n cymryd rhan yn ein gwaith.
Dewis staff newydd
Cyfranodd llawer o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo tuag at ddewis staff newydd i weithio i Walsingham.
Yn Abertawe, cyfranodd llawer o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo tuag at ddewis staff newydd i weithio i Walsingham, a hynny yn ystod diwrnodau agored ac mewn cyfweliadau. Helpon nhw ffeindio allan os oedd y bobl yn gallu gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu. Hefyd, cawson nhw eu dweud wrth benodi’r staff.
Dywedodd un person ‘dyn ni’n ei gynorthwyo: “Dw i’n hoffi cymryd rhan. Mae’n hwyl cael gweithio gyda’r rheolwyr.”
Am Chris
Mae Chris yn byw yn Hertfordshire. Mae’n derbyn gwasanaethau gan Walsingham. Mae e’n helpu dewid staff newyyd. Mae e’n dweud:
“Dw i wedi cyfrannu tuag at benodi staff newydd. Mwynheuon ni wneud hynny. Meddylion ni am gwestiynau i ofyn i’r bobl oedd yn ceisio am swydd i weithio ‘da ni.
Hefyd, ron i’n mwynhau gwrando ar y cwestiynau eraill yn y cyfweliad, a sut ôn nhw’n cael eu hateb.”
Hyforddi staff
Cyfranodd rhai o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo tuag at hyfforddi staff yn 2003/4. Mae hyn yn helpu’r staff wneud eu gwaith yn well.
Mae Jimmy’n derbyn gwasanaethau gan Walsingham. Mae’n hyfforddi’n staff.
Mae’n dweud y dylai staff ddysgu sut mae’n teimlo i fod mewn cadair olwyn. Mae’n dweud wrthyn nhw sut oedd ei fywyd cyn i Walsingham ei gynorthwyo. Mae’n dweud wrthyn nhw sut mae ei fywyd nawr.
Mae Jimmy’n mwynhau hyfforddi staff. Y pethe mae’n hoffi orau yw “gwneud ffrindiau a chael trafodaethau. Hefyd, dw i’n cael fy nhalu”. Mae’n dweud “Dw i’n teimlo’n dda pan mae pobl yn gwrando arna i”.
Mae’r staff yn dweud eu bod nhw’n ffeindio cyfraniadau Jimmy’n ddiddorol. ‘Dyn ni’n gobethio y bydd Jimmy’n hyfforddi rhagor o staff.
Ysgrifennu ein cylchlythyr
Mae rhai o’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo yn helpu rhoi cylchlythyr Walsingham at ei gilydd.
Enw’r cylchlythyr yw Our News. Mae’n cael ei gynhyrchu 3 gwaith y flwyddyn. Mae’r cylchlythyr ar gyfer y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo yn mynd i gyfarfodydd ac yn dweud beth maen nhw am ei weld yn Our News. Maen nhw’n defnyddio cardiau i sicrhau bod pawb yn deall beth sy’n digwydd. Os nad ‘dyn nhw’n deall rhywbeth, maen nhw’n dal cerdyn coch i fyny. Os ‘dyn nhw am ofyn cwestiwn, maen nhw’n dal cerdyn gwyrdd i fyny.
Am Paul
Mae Paul yn helpu rhoi Our News at ei gilydd. Mae’n dweud:
“Bob pedwar mis mae grwp ohonon ni o wahanol wasanaethau Walsingham yn dod at ein gilydd. Yn gyntaf ‘dyn ni’n cael diod, rhywbeth i’w fwyta ac yn sgwrsio. Wedyn ‘dyn ni’n eistedd lawr i benderfynnu beth fydd yn Our News y tro nesaf. Mae’n dda a weithiau mae’n ddoniol. ‘Dyn ni’n cael amser da.”
Ein gwaith gyda grwpiau a phrosiectau
Mae Walsingham yn cydweithio gyda llawer o grwpiau a phrosiectau i wneud pethe’n well i bobl ag anabledd dysgu.
Grwp Kingsholm
Mae Walsingham yn rhan o Grwp Kingsholm, gyda Real Life Options, Kingwood Trust, TACT, Gwasanaethau Cymdeithasol St Anne a Wilf Ward Family Trust. Maen nhw i gyd yn cynorthwo pobl ag anabledd dysgu.
Mae’r Grwp yn ceisio darganfod beth sy’n bwysig i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. Hefyd, mae’n gofyn os ydy’r aelodau’n gwneud gwaith da ac yn darparu’r gwasanaethau iawn.
Yn 2003/4, gofynnon ni i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo nifer o gwestiynau. Gofynon ni am y cymorth oedd ei nagen i wneud y pethe hyn:- Gwneud dewisiadau am beth i wneud gyda’u bywydau.

-
Gwneud i bethe ddigwyd
- Cael perthynas da gyda’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw.
Dywedodd pob person pa gymorth oeddyn nhw eisiau i wneud y pethe hyn. Yn y dyfodol byddwn yn dal i siarad â’r bobl hyn i sicrhau ein bod ni’n gwneud gwaith da.
Mae Prosiect Our Voices yn talu am ein syniad cyntaf yn 2004, sef gweithio ar bethedyn ni ddim yn eu gwneud yn rhy dda.
Gary yn gweithio mewn archfarchnad
Mae Vernon yn hoffi pysgota
Prosiect Teimlo’n werthfawr – Rhoi Gwerth
Dechreuodd Walsingham y prosict hwn ym mis Tachwedd 2003. Rhoddodd Adran Masnach a Diwydiant y Llywodraeth £50,000 tuag at gost y prosiect.
Fel rhan o’r prosiect ‘dyn ni’n gwrando ar ein staff. ‘Dyn ni am iddyn nhw gael eu dweud yn y ffordd mae Walsingham yn cael ei rhedeg, ac i gyfrannu at yr hyn fydd yn gwneud eu gwaith yn well.
Soniodd ein staff am y pethe ‘dyn ni’n eu gwneud yn dda yn Walsingham. Maen nhw hefyd wedi nodi’r pethe allen ni wneud yn well.
‘Dyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ffeindio ffyrdd i’n staff weithio’n well, a byddwn yn dechrau newid y ffordd maen nhw’n gweithio o fis Hydref 2004 ymlaen.
ARC (Association for Real Change)
Mae Walsingham yn aelod o ARC, sef sefydliad ar gyfer cyfundrefnau sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
Mae ARC yn siarad â’r Llywodraeth ynghlyn ag anableddau dysgu. Mae hyn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn ymwybodol o’r pethe sy’n bwysig i bobl ag anabledd dysgu a’r cyfundrefnau sy’n eu cynorthwyo.

Topss (Training Organisation for the Personal Social Services)
Mae Walsingham yn rhan o Topss, sydd am i staff dderbyn hyfforddiant da. Mae hyfforddiant da’n helpu ni ddarparu gwasanaethau gwell i’r bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo.
Cathy yn rhoi dwr i’r planhigion
O ble mae’r arian yn dod?
Mae Walsingham yn ofalus iawn wrth wario arian. Mae angen llawer o arian arnon ni i gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu.
Yn 2003/4, cawson ni £13,470,816 i gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu. Mae’r isod yn dangos o ble ddaeth yr arian.
Cytundebau - £13,153,473
Mae hyn yn dod o Awdurdodau Lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu
Grantiau - £186,999
Cawson ni'r grantiau ar gyfer Prosiect Our Voice Project ac ar gyfer Prosiect Teimlo’n werthfawr – Rhoi Gwerth
Codi arian - £46,317
Rhoddodd pobl hyn i ni i helpu talu am brosiectau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu
Rent - £22,746
Daeth hyn o gyfundrefn sy’n defnyddio’n swyddfa
Llog - £61,281
Daeth hyn o’r banc am gadw ein harian gyda nhw. h
Codi Arian
‘Dyn ni’n ddiolchgar i’r bobl rhoddodd arian i ni wneud ein gwaith. Rhoddon nhw dros £39,000 mewn rhoddion a chymynroddion.
Cawson ni ddau ddiwrnod golffio. Codwyd dros £6,000.
Cawson ni ddau ddiwrnod golffio. Codwyd dros £6,000.
Am y tro cyntaf, gwerthon ni gardiau Nadolig wedi’u cynllunio gan y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. £1,100.
‘Dyn ni’n gallu rhoi rhagor o wybodaeth ar sut i’n helpu ni. Ffgoniwch Hazel Shelley ar 020 8343 5606 neu edrychwch ar ein gwefan.
Y cyfeiriad yw: www.walsingham.com/fundraising.
Sut ‘dyn ni’n gwario’r arian?
Yn 2003/4, gwarion ni £13,090,357 wrth gynorthwyo 275 o bobl ag anabledd dysgu.
Fel hyn gwarion ni’r arian yn 2003/4:
Staffio - £10,091,180
Gwarion ni hyn ar dalu staff
Hyfforddiant - £174,490
Gwarion ni hyn ar hyfforddi’n staff fel eu bod nhw’n gallu gwneud eu gwaith yn well.
Trafnidiaeth - £196,974
Gwarion ni hyn ar drafnidiaeth i’r y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo
Bwyd - £329,390
Gwarion ni hyn ar fwyd a diod i’r y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo
Hamdden - £372,729
Gwarion ni hyn ar wyliau, teithiau a gweithgareddau eraill i’r y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo
Tai - £1,000,980
Gwarion ni hyn ar dai i’r y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo. Talodd yr arian am bethe fel trydan ac atgyweiriadau.
Codi arian - £5,958
Gwarion ni hyn ar ein gweithgareddau codi arian. Mae’r gwaith yn ein helpu ni ariannu prosiectau i’r y bobl ‘dyn ni’n eu cynorthwyo
Rheolaeth - £918,656
Gwarion ni hyn ar redeg Walsingham. Talodd am bethe fel yswiriant a’r swyddfeydd.
Mae adroddiad ‘da ni sy’n nodi sut ‘dyn ni’n cael ac yn gwario arian. Enw’r adroddiad yw Cyfrifon Blynyddol.
Os ‘dych chi am weld copi o’r adroddiad, ffoniwch 020 8343 5600 neu ebostiwch enquiries@walsingham.com. Gallwch hefyd ysgrifennu at on ni: Walsingham, Walsingham House, 1331-1337 High Road, Whetstone, London N20 9HR. Hefyd, ‘dych chi’n gallu gweld yr adrodiad Bdlynyddol arlein yma: www.walsingham.com.
Walsingham
Elusen Gofrestredig: Rhif 294832
Cwmni wedi’i Gyfyngu dan Warant: Rhif 2016251 (Lloegr)
Mae Walsingham yn darparu gwasanaethau yn:

Noddwyr
- The Most Reverend and Right Honourable Archbishop of Canterbury
- His Eminence The Cardinal Archbishop of Westminster
- The Free Churches Moderator
- The Reverend Baroness Richardson of Calow, O.B.E.
Ymddiriedolwyr
- Christiana Horrocks, O.B.E. - Cadeirydd
- James Hyland - Is-gadeirydd
- Rev. William Anderson
- Judith Gimson
- Shirley McCarthy
- Jane McCluskey
- David Peet
- Deven Pillay
- Frank Powell
- Eve Wilson, M.B.E.
Ysgrifenydd y Cwmni
Anne Snell
Cyfarwyddywr
- Mark Snell - Prif Weithredwr
- Janice Campbell - Gweithrediadau (tan 9 Mawrth 2004
- Paul Snell - Gweithrediadau (o 17 Mawrth 2004) / Adnoddau Dynol (tan 9 Mawrth 2004)
- Caroline Biddle - Adnoddau Dynol (Dros dro) ( (o 17 Mawrth 2004) )
- Harry Downie - Cyllid a Gweinyddiaeth
- Sean Sinclair - Datblygu
Hoffen ni ddiolch i Brosiect Our Voice am ddarparu’r arian i gynnal yr adolygiad hwn.
Cafodd Walsingham, Elizabeth FitzRoy Support a Freeways Trust arian gan Gronfa’r Lotri Mawr i redeg Prosiect Our Voice.
Mae’r lluniau ‘dyn ni wedi’u defnyddio yn yr adroddiad wedi dod o CHANGE Picture Bank (Gwefan: www.changepeople.co.uk, Ffoniwch: 0113 243 0202, Ffacs: 020 7639 4317).

