Mae hyn yn dweud wrthych chi beth mae Walsingham yn bwriadu’i wneud o Ebrill 2005 i Fawrth 2006
Beth yw Cynllun Blynyddol Walsingham?

Mae’r cynllun yn dweud wrthych chi beth mae Walsingham yn bwriadu’i wneud o Ebrill 2005 i Fawrth 2006.
Oes rhaid i ni gael Cynllun Blynyddol?

Mae Cynllun Blynyddol yn ein helpu ni wybod beth i’w wneud dros y flwyddyn nesaf.

Mae Cynllun Blynyddol yn ein helpu ni ddarganfod os ydyn ni’n llwyddo wneud y pethau hyn.

Mae Cynllun Blynyddol yn ein helpu ni ddweud wrth bobl eraill beth sy’n mynd i ddigwydd yn Walsingham.
Beth yw’r wahaniaeth rhwng Cynllun Blynyddol a Chynllun 5 Mlynedd?

Mae’r Cynllun 5 Mlynedd yn dweud wrthych chi beth mae Walsingham yn bwriadu’i wneud o Ebrill 2005 i Fawrth 2010.

Mae gan Gynllun Blynyddol 2005 – 2006 yr un rhannau â’r Cynllun 5 Mlynedd, ond mae iddo fwy o fanylion ynghlyn â beth rydym am ei wneud eleni.
Beth sydd yn y Cynllun Blynyddol?
Ceir chwe darn gwahanol yn y Cynllun Blynyddol. Maen nhw ar y tudalennau hyn:
Cynnwys y bobl rydym yn eu cynorthywo - Tudalen 4
Cynnwys y bobl sy’n gweithio i Walsingham - Tudalen 6
Gwneud pethau’n well - Tudalen 8
Gwirio’r hyn rydym yn ei wenud - Tudalen 10
Ymestyn ein gwasanaethau - Tudalen 12
Dweud wrth bobl am Walsingham - Tudalen 14
Cynnwys y bobl rydym yn eu cynorthywo
Byddwn yn cynnwys y bobl rydym yn eu cynorthwyo mewn pethau pan maen’ nhw am ei wneud
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn sicrhau bod pobl yn gwneud 75% o benderfyniadau ynghlyn â staff newydd.

Byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys wrth hyfforddi’n staff (o leiaf 25% o ddigwyddiadau hyfforddi).

yddwn yn sicrhau bod 50 y cant o’r bobl rydym yn eu cynorthwyo’n cael eu dweud, neu fydd ganddynt rhywun i’w cynrychioli.

Byddwn yn dechrau grwp o bobl fydd yn dweud wrhtyn ni sut i ddarparu gwybodaeth sy’n hawdd ei deall.

Byddwn yn sicrhau bod y rheini sy’n gweithio dros Walsingham yn gwybod sut i gynorthwyo pobl fel eu bod yn gallu cael eu dweud.

Byddwn yn gofyn i bobl i weld sut maen nhw am gymryd rhan, ac wedyn gweithio allan sut i wneud hyn.

Byddwn yn sicrhau bod y pethau rydym wedi dysgu yn y prosiect Our Voice yn digwydd yn ein gwasanaethau eraill.

Byddwn yn darganfod fwy am hawliau unigolion a byddwn yn dweud wrth eraill beth yw’r hawliau hyn.

Byddwn yn darganfod beth mae pobl yn gwneud yn eu cymunedau nhw eu hunain. Byddwn yn awgrymu wrth bobl eraill pa bethau maen’ nhw’n gallu’u gwneud yn eu cymunedau hwythau.
Cynnwys y bobl sy’n gweithio i Walsingham
Byddwn yn parhau i werthfawrogi’r bobl i weithio i Walsingham
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn gofyn i bawb sy’n gweithio i Walsingham sut y gallwn wella’r ffordd rydym yn adolygu’u tâl.

Byddwn yn newid negesfwrdd ein wefan fel ei fod e’n haws i bobl gael eu dweud.

Byddwn yn sicrhau bod ein Grwp Ymgynghorol Staff yn gweithio’n well..

Byddwn yn defnyddio’r Grwp Ymgynghorol Staff i ofyn i bobl beth maen nhw’n ei feddwl am bethau.
Byddwn yn ei wneud yn glir pwy sy’n gwneud y penderfyniadau.

Byddwn yn gadael i’r bobl iawn wneud y penderfyniadau.

Byddwn yn sicrhau bod ein system arolygu’n well fel ein bod ni’n gallu cynorthwyo pobl yn well.
Gwneud pethau’n well
Byddwn yn dod o hyd i’r ffordd orau o wneud pethau
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn gofyn i’r rheini rydym yn eu cynorthwyo os ydyn’ nhw am gael cynhadledd eleni. Os felly, byddwn yn darganfod pa fath o gynhadledd hoffen nhw ei chael, a sut allen ni wella ar yr un ddiwethaf.

Byddwn yn darganfod os oes ffyrdd gwell o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu
Byddwn yn gofyn i bobl os ydyn nhw am gyfrannu tuag at benderfyniadau pwysig sy’n effiethio Walsingham.

Byddwn yn gwneud newidiadau i drefn Walsingham i sicrhau ein bod ni’n darparu gwasananeth lleol i’r bobl rydym yn eu cynorthwyo.

Byddwn yn dod o hyd i ffyrdd i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu’n cymryd rhan mewn rhedeg Walsingham ar bob lefel.
Gwirio’r hyn rydym yn ei wenud
Byddwn yn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posib i’r rheini rydym yn eu cynorthwyo
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn gweithio gyda’r rheini rydym yn eu cynorthwyo a sefydliadau eraill i wirio’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Byddwn yn gwirio chwe gwasanaeth Walsingham i weld os ydyn nhw’n gweithio.

Byddwn yn darganfod pa mor dda mae Cynllunio Canoledig i’r Person yn gweithio.
Mae cynlluniau gyda ni i:

sicrhau bod ein gwasanaethau newydd yn Norfolk yn bodloni anghenion pob person. Byddwn hefyd yn sefydlu swyddfa yno.
weithio gyda’r bobl rydym yn eu cynorthwyo a phobl eraill i drefnu gwasanaethau newydd i bobl Bushey.
weithio gyda’r bobl rydym yn eu cynorthwyo yn Tamworth i newid ein gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw’n bodloni gofynion pob person.
weithio gyda’r bobl rydym yn eu cynorthwyo yn Maryport i newid ein gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw’n bodloni gofynion pob person.
weithio gyda’r bobl rydym yn eu cynorthwyo yn Sutton i newid ein gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw’n bodloni gofynion pob person.
Ymestyn ein gwasanaethau
Byddwn yn cynyddu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn gweithio allan y ffordd orau o wneud penderfyniadau ynghlyn â ble i edrych am wasanaethau newydd.

Byddwn yn cynllunio ble i edrych am wasanaethau newyddyn y pum mlynedd nesaf. Byddwn hefyd yn cynllunio pa fath o wasanaethau byddwn yn eu darparu.

Byddwn yn gweithio allan faint fydd gwasanaethau newydd yn ei gostio. Byddwn yn gwneud hyn i bob un o’n gwasanaethau.

Byddwn yn gweithio gyda phobl eraill i greu gwasanaethau newydd i gynnal tri pherson yn Abertawe.

Byddwn yn gweithio gyda phobl eraill i greu gwasanaethau newydd yn Teesside.

Byddwn yn gweithio gyda phobl eraill i greu gwasanaethau newydd yn Croydon.
Dweud wrth bobl am Walsingham
Byddwn yn gadael i bobl wybod am ein gwaith
O Ebrill 2005 i Fawrth 2006:

Byddwn yn sicrhau bod wyth o bobl sy’n gweithio i Walsingham wedi’u hyfforddi iwneud yn siwr bod ein gwybodaeth yn hawdd ei ddeall.

Byddwn yn gweithio gyda’r bobl rydym yn eu cynorthwyo i nodi 25 darn o wybodaeth bwysig mae’n rhaid i ni ei gwneud yn hawdd ei deall. Byddwn yn newid y wybodaeth fel ei bod yn haws ei deall.
Byddwn yn cynnal Cyfarfod Blynyddol yn Cumbria ym mis Hydref 2005 i ddweud wrth bobl beth mae Walsingham wedi’i wneud yn 2004-2005, a beth sy’n mynd i ddigwydd yn 2005-2006.

Byddwn yn darganfod pa wybodaeth mae’n rhaid i bob gwasanaeth ei gwybod ynghlyn ag arian. Byddwn yn sicrhau bod 75% o’r wybodaeth ar gael eleni.

Byddwn yn dweud wrth bobl gyda pa sefydliadau a phobl rydym yn gweithio. Byddwn yn dysgu sut i weithio’n well gyda’r bobl hyn.

Byddwn yn cynyddu nifer y sefydliadau a phobl rydym yn gweithio gyda nhw o 25% i wella pethau i’r rheini rydym yn eu cynorthwyo, ac i staff Walsingham.
Rydym yn gobeithio eich bod chi’n hoffi’n Cynllun Blynyddol ar gyfer 2005 i 2006. Gallwch adael i ni wybod mewn nifer o ffyrdd:
Ysgrifennech aton ni:

Walsingham House
1331-1337 High Road
Whetstone
London N20 9HR

Ffoniwch:
020 8343 5600
Ffacsiwch:
020 8446 9156

Defnyddiwch minicom:
020 8446 0790
Ebostiwch:
Gadewch neges ar ein gwefan:
www.walsingham.com
