Mae hyn yn dweud wrthych chi beth mae Walsingham yn bwriadu’i wneud o Ebrill 2005 i Fawrth 2010
Beth mae Walsingham yn ei wneud?

Mae Walsingham yn cynorthwyo pobl gydag anabledd dygu iddynt gael fyw bywyd llawn.
Rydym yn darparu llety, gofal a chymorth i bobl gydag.
![]()
Rydym yn rhedeg ein gwasanaethau yn ôl egwyddorion Cristnogol. Rydym yn gwerthfawrogi pawb yr un peth â’i gilydd.
Rydym yn parchu’r ffaith bod gan y bobl rydym yn eu cynorthwyo a’r bobl sy’n gweithio i Walsingham lawer o wahanol daliadau.
Beth yw Cynllun 5 Mlynedd Walsingham?
Mae’r cynllun yn dweud wrthych chi beth mae Walsingham yn bwriadu’i wneud o Ebrill 2005 i Fawrth 2010.
Oes rhaid i ni gael Cynllun 5 Mlynedd?
Mae Cynllun 5 Mlynedd yn ein helpu ni wybod beth i’w wneud dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Cynllun 5 Mlynedd yn ein helpu ni ddarganfod os ydyn ni’n llwyddo wneud y pethau hyn.
Mae Cynllun 5 Mlynedd yn ein helpu ni ddweud wrth bobl eraill beth sy’n mynd i ddigwydd yn Walsingham.
Pam ydy’r Cynllun 5 Mlynedd mor bwysig?

Hylo. F’enw ydy Paul Snell. Bos Walsingham ydw i. Weithiau ‘dw i’n cael fy ngalw Prif Weithredwr Walsingham.
Mae ein Cynllun 5 Mlynedd yn bwysig oherwydd mae’n dweud wrth bobl beth ‘dyn ni’n mynd i’w wneud rhwng 2005 a 2010

Mae ein Cynllun 5 Mlynedd yn ein helpu darparu cymorth gwell i bobl ag anabledd dysgu. Bydd e’n ein helpu darparu mwy o gymorth i bobl yng Nghymru a Lloegr.
Bydd ein Cynllun 5 Mlynedd yn helpu eraill i benderfynnu os ydyn ni’n gwneud gwaith da.
Pwy ysgrifennodd ein Cynllun 5 Mlynedd?
Roedden ni’n ofalus iawn i sicrhau bod llawer o bobl yn cael eu dweud wrth greu’r Cynllun 5 Mlynedd. Cafodd pobl rydym yn eu cynorthwyo a staff Walsingham eu dweud.
Beth sydd yn y Cynllun 5 Mlynedd?
Ceir chwe darn gwahanol yn y Cynllun 5 Mlynedd. Maen nhw ar y tudalennau hyn:
Cynnwys y bobl rydym yn eu cynorthywo- Tudalen 5
Cynnwys y bobl sy’n gweithio i Walsingham - Tudalen 7
Gwneud pethau’n well - Tudalen 8
Gwirio’r hyn rydym yn ei wenud - Tudalen 9
Ymestyn ein gwasanaethau - Tudalen 10
Dweud wrth bobl am Walsingham - Tudalen 11
Byddwn yn cynnwys y bobl rydym yn eu cynorthwyo mewn pethau pan maen’ nhw am ei wneud

Byddwn yn sicrhau bod gan bobl eu dweud ar sut mae Walsingham yn cael ei rhedeg.
Byddwn yn sicrhau bod pobl yn deall ac yn defnyddio’u hawliau.
Byddwn yn cynorthwyo pobl iddynt ddatblygu eu doniau ysbrydol ac i gymryd rhan yn eu cymunedau os felly yw dymuniad.
Cynnwys y bobl sy’n gweithio i Walsingham
Byddwn yn parhau i werthfawrogi’r bobl i withio i Walsingham
Byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael eu dweud yn y ffordd mae Walsingham yn cael ei rhedeg, ac i gyfrannu at yr hyn fydd yn gwneud eu gwaith yn well.
Byddwn yn gweithio ar y cyd â phobl iddynt wneud eu penderfynniadau eu hunain.
Byddwn yn sicrhau ein bod ni’n darparu’r cymorth cywir i bobl.
Gwneud pethau’n well
Byddwn yn dod o hyd i’r ffordd orau o wneud pethau
Byddwn yn darganfod os oes ffyrdd gwell o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
Byddwn yn gwrando ar bobl i weld beth fydd yn gwella’u bywydau, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i newid pethau.
Byddwn yn ceisio darganfod os oes gwell ffyrdd o redeg Walsingham
Gwirio’r hyn rydym yn ei wenud
Byddwn yn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posib i’r rheini rydym yn eu cynorthwyo
![]()
Byddwn yn gofyn i bobl yn reolaidd os ydyn ni’n gwneud gwaith da.
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i newid pethau sydd angen eu newid.

Byddwn yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cymorth cywir.
Ymestyn ein gwasanaethau
Ymestyn ein gwasanaethau
Byddwn yn cynyddu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu
Byddwn yn cynllunio gwasanaethau newydd mewn rhannau o Gymru a Lloegr.
Byddwn yn cynnig ein gwasanaethau i fwy o bobl ag anabledd dysgu.

Byddwn yn cynnig cymysgedd o wasanaethau sy’n cynorthwyo pobl mewn gwahanol ffyrdd.
Dweud wrth bobl am Walsingham
Byddwn yn gadael i bobl wybod am ein gwaith

Byddwn yn ddidwyll a dweud os ydyn ni’n gwneud gwaith da i bobl ag anabledd dysgu ai peidio.
Byddwn yn darparu gwybodaeth sy’n hawdd i bawb ei deall.

Byddwn yn gweithio gyda llawer o bobl i sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth da.
Rydym yn gobeithio eich bod chi’n hoffi’n Cynllun 5 Mlynedd ar gyfer 2005 i 2010. Gallwch adael i ni wybod mewn nifer o ffyrdd:
Ysgrifennech aton ni:

Walsingham House
1331-1337 High Road
Whetstone
London N20 9HR

Ffoniwch:
020 8343 5600
Ffacsiwch:
020 8446 9156

Defnyddiwch minicom:
020 8446 0790
Ebostiwch:
Gadewch neges ar ein gwefan:
www.walsingham.com
