Y SEFYDLIAD
Mae Walsingham yn darparu gofal a chymorth i bobl ag anabledd dysgu sy’n eu galluogi iddyn nhw fyw’n annibynnol mewn tai yn y gymuned. Dechreuodd y sefydliad ym 1986, a ‘dyn ni wedi bod yn darparu cymorth i bobl yn eu deiliadaeth eu hunain ers 1999.
EIN GWASANAETH I CHI
‘Dyn ni wedi ymroi i drin pob defnyddiwr gwasanaeth ac aelod o’n staff mewn ffordd agored, yn gyfartal a gydag urddas a pharch. Mae Polisi Amrywiaeth ‘da ni sy’n sicrhau na fydd gwahaniaethu yn ein gwasanaethau.
Isod ceir ein haddewid ar sut y byddwn yn darparu’n gwasanaeth:
- Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun unigol, sy’n cynnwys sut y byddwn yn eich cynorthwyo i wneud y pethau ‘dych chi am eu gwneud.
- Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn gwybod cynnwys y cynllun, a byddwn yn adolygu’r cynllun yn reolaidd.
- Byddwn yn sicrhau bod cymaint o reolaeth dros eich bywyd ag sy bosib ‘da chi, ac eich bod chi’n gwneud penderfyniadau ynghlyn â’ch bywyd
- chi i wneud dewisiadau.
- Byddwn yn rhoi datganiad i chi sut nodi’r hyn y gallwch chi ddisgwyl o’n gwasanaethau, a’r cost.
- Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael mewn ffurf ‘dych chi’n gallu ei deall.
- Byddwn yn cadw cofnodion ysgrifenedig o’r gwasanaethau ‘dyn ni’n eu darparu i chi, a byddwn yn sicrhau eu bod nhw’n cael eu cadw’n ddiogel.
- Byddwn yn eich cynnwys wrth ddewis y staff fydd yn eich cynorthwyo
- Bydd staff wedi’u hyfforddi, ac yn cael eu goruwchwilio gan bobl brofiadol
- Byddwn yn gofyn i chi am eich barn ynghlyn â’r hyn ‘dych chi’n ei hoffi neu ei gasáu am y gwasanaethau ‘dych chi’n eu derbyn.
- Byddwn yn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy’n gyfreithlon ac sydd o safon uchel.
GOSODIAD PWRPAS
Mae Gosodiad Pwrpas ‘da ni sy’n amlinelli’n gwasanaethau a’n hegwyddorion. Mae’n rhoi trosolwg o’r gyfundrefn a sut y gallwch chi gysylltu â ni. Hefyd mae’n cynnwys gwybodaeth ar ein gwasanaethau lleol, a sut y galwch chi gael at y rhain. Mae’r Gosodiad yn dweud fwy am Walsingham, ac mae’n esbonio’n hethos. Sefydlwyd Walsingham ym 1986 i ddarparu cartrefi bach, wed’u rhedeg yn leol ar seiliau Cristnogol, i’r rheini ag anabledd dysgu. ‘Dyn ni’n Gwmni wedi’i Gyfyngu dan Warant (rhif 2016251) ac Elusen Gofrestredig (rhif 294832.)
ARDAL GWEITHREDU
Mae’r swyddfa hon yn darparu gwasanaethau yn ardal Dinas a Sir Abertawe, a hynny ar hyn o bryd i’r rheini sy’n ateb cymhwysterau Dinas a Sir Abertawe. Rydym yn dyrannu’n gwasanaethau mewn partneriaeth â’r Tîm Cymorth Cymundeol.
GWASANAETHAU ‘DYN NI’N EI DARPARU
‘Dyn ni’n darparu gwasanaethau yn ôl anghenion yr unigolyn. Ar hyn o bryd ‘dyn ni’n darparu gwasanaethau i oedolion ag anableddau llym ac amryfal, namau synhwyraidd, anghenion iechyd arbennig ac anabledd gorfforol. Bydd staff sy’n gweithio â phobl gydag anghenion arbennig yn derbyn hyfforddiant a chymorth gan rhywun proffesiynol, e.e., bydd staff sy’n gweithio a rhywun gydag epilepsi’n derbyn cymorth gan Nyrs Gymunedol y defnyddwyr gwasanaeth. ‘Dyn ni’n darparu gofal personol os oes angen hynny. ‘Dyn ni’n nodi sut y byddwn yn darparu hyn yn eich Cynllun Canoledig i’r Person.
TALIADAU
‘Dych chi’n talu ffioedd yn ôl Polisi Codi Tâl yr Awdurdod Lleol. Cewch chi, neu’ch cynrychiolydd, anfondeb bob mis. ‘Dyn ni’n nodi manylion y ffioedd yn eich Cytundeb Defnyddiwr Gwasanaeth. Os ‘dyn ni’n newid ffioedd, byddwn yn ysgrifennu atoch.
AMGYLCHIADAU AM BEIDIO Â DARPARU gwasanaethau
Mae ‘na amgylchiadau lle na all Walsingham ddarparu gwasanaethau i rywun bellach. Byddwn yn esbonio’r amgylchiadau hyn os ydyn nhw’n codi. ‘Dyw staff Walsingham ddim yn gallu darparu gwasanaeth i rywun sy:
- Ddim yn gadael i staff gydymffurfio ag asesiadau risg cytunedig
- Heb dalu ffioedd cytunedig
- Heb gael eu hasesu i dderbyn y lefel hwnnw o gymorth yn ôl y broses Rheoli Gofal.
TREFNIADAU AR GYFER DILEU GWASANAETHAU
Mae canslo gwasanaethau yn cael ei drafod gyda chi cyn i ni eu dileu. Bydd hwn yn cael ei drafod gyda’r Rheolwr Gofal perthansol, os oes angen hynny.
TAFLENNI AMSER
Mae’r rhain yn cael eu cydlynnu’n fisol gan y rheolwr perthnasol. Maen nhw’n cael eu cwblhau ac awdurdodu cyn mynd i’r Brif Swyddfa i’w talu.
STRWYTHUR STAFFIO
Pennaeth strwythur ardal Abertawe yw’r Rheolwr Rhanbarthol (Debbie Edwards). Mae hi’n rheoli Rheolwr Gwasanaethau (Donna Kerslake) sydd â’r cyfrifoldeb am sicrhau bod y gwasanaethau’n rhedeg yn esmwyth. Ceir rheolwyr unigol i bob un o’n gwasanaethau. Byddwn yn darparu gwybodaeth ynghlyn ag enw’ch rheolwr ac aelodau’r tîm fydd yn eich cynorthwyo. Gallwch weld strwythur llawn ein cyfundrefn drwy edrych ar ein gwefan: www.walsingham.com. Mae’r Rheolwr Cofrestredig a’r Rheolwr Gwasanaethau wedi’u cymerdwyo gan CSIW. Mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu, ac o reoli staff.
BETH I’W WNEUD OS NAD ‘DYCH CHI’N HAPUS
‘dyn ni’n eu darparu i chi. ‘Dyn ni am wybod os yw pethe’n mynd o’u lle, a ‘dyn ni am wella’r sefyllfa cyn gynted ag y bo’r modd. Mae ‘na gopïau o’n Polisi CWynion ar gael. Dyma i chi grynodeb o beth mae’n ei ddweud:
Weithiau ‘dych chi’n gallu trafod y brOblem gyda’ch gweithiwr cynorthwyol, ond weithiau byddwch chi eisiau siarad â rhywun arall. Mae rhestr ‘da ni o’r bobl ‘dych chi’n gallu siarad â nhw. ‘DyCh chi hefyd yn gallu cael cymorth gan rywun i wneud eich cwyn.
Pan ‘dych chi’n erlid cwyn, byddwn yn gwrando’n ofalus ar beth sy ‘da chi i’w ddweud, ac yn gwneud yn siwr ein bod ni’n deall natur y broblem. Byddwn yn ysgrifennu hyn i lawr. Byddwn yn edrych i mewn i’ch cwyn ac wedyn dweud wrthych chi beth ffeindion ni, a beth ‘dyn ni’n bwriadu’i wneud amdano. Os nad ‘dych chi’n hapus, cewch chi ofyn i siarad â rhywun arall – efalli rhywun uchel yn Walsingham, eich Rheolydd Gofal neu rhywun o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, neu rhywun o CSIW (mae rhif CISW ar ddiwedd y daflen hon).
‘Dyn am ei wneud yn hollol glir na fyddwch yn cael eich trin yn wahanol os ‘dych chi’n erlid cwyn, heb ots am y canlyniad
IECHYD A DIOGELWCH
Mae gan Walsingham Bolisi Iechyd a Diogelwch sy’n sicrhau diogelwch y rheini sy’n defnyddio’n gwasanaethau. ‘Dyn ni’n gwneud asesiadau risg lle byddwn ni’n dweud os ‘dyn ni’n poeni am ddiogelwch rhywun, a byddwn ni’n gweithio i leihau hyn. Mae’r asesiadau’n cael eu cytuno ‘da chi neu’ch cynrychiolydd. Os yw staff yn teimlo’n anniogel oherwydd y bobl maen nhw’n gweithio ‘da nhw, neu oherwydd lleoliad, efallai bydd angen newid pethe neu rhoi terfyn ar y gwasanaeth. Mae gan Walsingham yswiriant cyfrifoldeb cyflogwyr, a ‘dyn ni’n dangos ein tystygrif ymhob adeilad lle mae staff yn gweithio.
CYSYLLTU Â RHEOLWYR
Mae rhestr rheolwyr ar gael sy’n nodi pwy sydd ar gael i chi siarad â nhw i ofyn am gyngor neu i erlid cwyn. Gall staff eich helpu os ‘dych chi am gysylltu â rheolwr. Mae’r rhestr ar gael dydd a nos drwy’r wythnos.
ABSENOLDEB GWEITHIWR
Os nad yw gweithiwr arbennig ar gael, yna bydd Walsingham yn ceisio dod o hyd i aelod o’r staff ‘dych chi’n ei ‘nabod. Os nad yw hyn yn bosib, yna bydd Walsingham yn defnyddio aelod o staff o asiantaeth, os ‘dych chi’n cytuno.
BARN DEFNYDDWYR GWASANAETH
Mae gan Walsingham Grwp Ansawdd sydd am gynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth fesur ansawdd ein gwasanaethau. Mae’r Grwp yn ymweld â gwasanaethau ac yn siarad â defnyddwyr gwasanaeth i gael eu barn. Hefyd mae Rheolwyr Uwch, Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr yn ymweld a defnyddwyr gwasanaethau ac yn cael eu barn tra byddan nhw yno. Mae defnyddwyr gwasanaethau’n cael eu gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Walsingham lle ‘dyn ni’n gofyn eu barn. Drwy weithio gyda safonau ac egwyddorion fel sail, ‘dyn ni’n sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth sy’n agored, mesuradwy ac yn ganolig i’r person. Mae’r gwasanaethau’n cael eu monitro gan Swyddogion Monitro Cytundebau’r Awdurdodau Lleol. Maen nhw’n cysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd ac yn gofyn am adborth. Maen nhw’n ysgrifennu adroddiad sy wedi’i seilio ar y monitro.
DEFNYDDIO STAFF ASIANTAETH
Weithiau mae’n rhaid i Walsingham ddefnyddio staff allanol dan gytundeb o asiantaeth arall. ‘Dyn ni’n cwrdd yn rheolaidd â’r darparwyr hyn i sicrhau eu bod nhw’n dilyn safonau CSIW.
EIN CYTUNDEB Â CHI
Byddwn yn darparu cytundeb unigol sy’n nodi’r gwasanaethau byddwch yn eu derbyn, cost eich gwasanaethau a’r hyn bydd rhaid i chi ei dalu. Byddwn yn adolygu cost eich gwasanaethau’n flynyddol, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i’r ffioedd.
GWYBODAETH BERTHNASOL ARALL
Mae gan Walsingham ddogfenni polisi ar Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch a Gweithrediadau ymhob un o’i llefydd gweithio. Os ‘dych chi am weld y rhain, gofynwch i aelod o’n staff. Mae adroddiadau Monitro ac Arolygu hefyd ar gael yn y llefydd hyn, a chewch eu gweld ar unrhyw adeg.
Mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan: www.walsingham.com.
CYFEIRIADAU A RHIFAU FFÔN
Swyddfa Abertawe:
Suite 3
RVB House
New Mill Court
Phoenix Way
Swansea
SA7 9FG
Ffôn : 01792 312980
Prif Swyddfa Walsingham:
Walsingham House
1331-1337 High Road
Whetstone
London
N20 9HR
Ffôn : 020 8343 5600
Cyfeiriad Care Standards Inspectorate in Wales:
Unit C
Phase 3
Tawe business village
Phoenix Way
Swansea
SA7 9LA
Ffôn : 01792 310420
