TROSOLWG O’R GYFUNDREFN
Sefydlwyd Walsingham ym 1986 i ddarparu cartrefi bach, wed’u rhedeg yn leol ar seiliau Cristnogol, i’r rheini ag anabledd dysgu. Rydym yn Gwmni wedi’i Gyfyngu dan Warant (rhif 2016251) ac Elusen Gofrestredig (rhif 294832.)
ETHOS Y GYFUNDREFN
Rydym wedi bod yn darparu cymorth i bobl yn eu deiliadaeth eu hunain ers 1999.
Ein gosodiad cenhadol yw:
“Mae Walsingham yn anelu at fod yn flaenllaw wrth ddarparu gofal preswyl o safon uchel ynghyd â gwasanaethau cysylltiol i bobl ag anabledd dysgu. Rydym yn eu hystyried fel aelodau cyfartal ein cymdeithas ac yn teilwra’n gwasanaethau i fodloni eu hanghenion unigol.”
Rydym yn darparu gofal a chymorth i bobl gydag anabledd dysgu, ond bod gan rhai ohonynt:
- Anabledd gorfforol
- Namau synhwyraidd
- Brif ddiagnosis afiechyd meddyliol
- Anableddau llym ac amryfal
- Her.
Rydym yn darparu gwasanaethau i’r rheini all fod yn wella, gwaethygu neu’n amrywio’n gorfforol. Gall eu galluoedd meddyliol a gwybyddol wella, gwaethygu, amrywio neu fod yn anrhagweladwy. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda phobl sy dros 18 mlwydd oed.
Rydym wedi ymroi i drin pob defnyddiwr gwasanaeth ac aelod o’n staff mewn ffordd agored, yn gyfartal a chydag urddas a pharch. Ni fydd gwahaniaethu wrth darparu gwasanaethau, ricriwtio, dewis, dyrchafu, trosglwyddiad, hyfforddiant neu ddiswyddo ar sail cenedl, rhyw, hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, diwylliant, oed, crefydd, cyfeiriadaeth rhywiol, staws priodasol neu anabledd.
Llwyddon ni ennill safon Investors In People fis Medi 2000, ac fe’i adnewyddwyd yn 2003.
ARDAL DEAEARYDDOL
Ar hyn o bryd rydym yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau mewn 45 o wasanaethau mewn 25 o lefydd. Mae’r gyfundrefn yn cynorthwyo ar draws Cymru a Lloegr, gyda Swyddfa Abertawe yn cynorthwyo 34 o ddefnyddwyr gwasanaeth mewn 9 lleoliad.
CYMWYSTERAU STAFF
Mae’r staff yn cael eu ricriwtio yn ôl arferion da cyfredol. Rydym yn darparu hyfforddiant Sefydliad a Sylfaenol yn ôl safonau Learning Disability Award Foundation (LDAF), ac mae staff yn cael eu hyfforddi i safonau’r CGC perthnasol. Mae staff yn derbyn goruwchwyliaeth reolaidd, a Gwerthusiad Blynyddol.
AMGYLCHIADAU AM BEIDIO Â DARPARU GWASANAETHAU
Ceir amgylchiadau lle na all Walsingham ddarparu gwasanaethau i rywun bellach. Byddwn yn esbonio’r amgylchiadau pe baent yn codi. Ni fydd staff Walsingham yn darparu gwasanaeth i rywun sy:
-
Ddim yn gadael i staff gydymffurfio ag asesiadau risg cytunedig
-
Heb dalu ffioedd cytunedig
- Heb gael eu hasesu i dderbyn y lefel hwnnw o gymorth yn ôl y broses Rheoli Gofal.
TREFNU DILEU GWASANAETHAU
Byddwn yn trafod gyda chi y rhesymau dros ddileu eich gwasanaethau cyn i ni eu diddymu. Bydd hwn hefyd yn cael ei drafod gyda’r Rheolwr Gofal perthansol, os oes angen hynny.
CODIÂL
Rydym yn codi tâliadau yn ôl Polisi Codi Tâl yr Awdurdod Lleol. Rydym yn nodi manylion y ffioedd yng Nghytundeb y Defnyddiwr Gwasanaeth. Os ydym yn newid ffioedd, byddwn yn ysgrifennu at ddefnyddwyr i’w hysbysu.
ABSENOLDEB GWEITHIWR
Os nad yw gweithiwr arbennig ar gael, yna bydd Walsingham yn ceisio dod o hyd i aelod o staff mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn gyfarwydd â nhw. Os nad yw hyn yn bosib, yna bydd Walsingham yn defnyddio aelod o staff o asiantaeth, gyda chytundeb y defnyddiwr gwasanaeth.
TAFLENNI AMSER
Mae’r rhain yn cael eu cydlynnu’n fisol gan y rheolwr perthnasol. Maent yn cael eu cwblhau ac awdurdodu cyn mynd i’r Brif Swyddfa i’w talu’n fisol.
DULL GWEITHREDU CWYNION
Mae gan Walsingham bolisi sy’n nodi beth i’w wneud os nad yw defnyddiwr gwasanaeth yn hapus gyda’r gwasanaeth darparwyd iddynt. Mae’r polisi ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u cyfeillion.
DULL GWEITHREDU I DDIOGELI DEFNYDDWRY GWASANAETH A GWEITHWYR
Mae gan Walsingham bolisi clir sy’n galluogi i staff ddinoethi camweddau, ac mae hyn ar gael i staff y gyfundrefn. Mae hyn yn glwm wrth ein polisi Diogeli Oedolion Bregus (POVA). Mae pob aelod o’n staff yn cael eu hyfforddi yn hyn o beth. Mae agweddau hyn ein gwasanaethau’n cael eu monitro fel rhan o broses fonitro’r Awdurdod Lleol.
DULL GWEITHREDU I DDIOGELI EIDDO DEFNYDDWYR GWASANAETH
Mae staff yn cael eu hyfforddi sut i ymddwyn yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth. Ceir polisi sy’n nodi arweinyddiaeth ar adrodd yn ôl ar achosion o gamdriniaeth. Mae’r polisi cwynion yun sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gwybod sut i adrodd yn ôl ar unrhyw beth sy’n eu poeni.
RHOI MODDION
Mae gan Walsingham bolisi cyffredinol sy’n delio â rhoi moddion, a cheir amddiffyniadau ychwanegol sy’n dibynnu ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth unigol. Mae staff newydd yn mynd drwy’r camau sydd eu hangen i roi moddion i ddefnyddwyr gwasanaeth cyn iddyn nhw wneud hyn ar eu pennau eu hunain
IECHYD A DIOGELWCH
Mae gan Walsingham Bolisi Iechyd a Diogelwch sy’n sicrhau diogelwch y rheini sy’n defnyddio’n gwasanaethau, a rydym yn disgwyl i bob aelod o’n staff ei ddilyn. Rydym yn gwneud asesiadau risg os yw amgylchiadau’r defnyddiwr yn gofyn am hyn. Maelr asesiadau risg yn cael eu cytuno gyda’r defnyddiwr a’i gynrychiolydd lle bo angen.
RHEOL 27
Bydd y person perthnasol yn hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig os yw’r Rheolwr Cofrestredig yn absennol o’r gwaith, a hynny o fewn amser penodedig. Darperir enw, cyfeiriad a chymwysterau’r rheini fydd yn cymryd eu lle, ac am faint fydd y sefyllfa’n parhau, yn ôl gofynion Rheol 27.
BARN DEFNYDDWYR GWASANAETH
Mae gan Walsingham Grwp Ansawdd sydd am gynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth fesur ansawdd ein gwasanaethau. Mae’r Grwp yn ymweld â gwasanaethau ac yn siarad â defnyddwyr gwasanaeth i gael eu barn. Hefyd mae Rheolwyr Uwch, Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr yn ymweld a defnyddwyr gwasanaethau ac yn cael eu barn tra byddan nhw yno. Mae defnyddwyr gwasanaethau’n cael eu gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Walsingham lle rydym yn gofyn eu barn. Drwy weithio gyda safonau ac egwyddorion fel sail, rydym yn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth sy’n agored, mesuradwy ac yn ganolig i’r person. Mae Rheolwyr Uwch Walsingham yn ymweld â defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi i sicrhau eu bod yn derbyn gwasanaeth o safon uchel, a bod safonau’n cael eu cynnal.
STRWYTHUR RHEOLI
Mae gan Walsingham strwythur rheoli ffurfiol sy’n cynnwys Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr, Rheolwyr Rhanbarthol, Rheolwyr Gwasanaeth a Rheolwyr. Ceir has a formal management structure which consists of a Chief Executive, Directors, Regional Managers, Service Managers and Managers. A diagram o’r strwythur presennol ar ein gwefan.
DEFNYDDIO STAFF ASIANTAETH
Weithiau mae’n rhaid i Walsingham ddefnyddio staff allanol dan gytundeb o asiantaeth arall. Rydym yn cwrdd cwrdd yn rheolaidd â’r darparwyr hyn i sicrhau eu bod nhw’n dilyn safonau CSIW.
Enw a Chyfeiriad y Darparwr Cofrestredig
Debbie Edwards
9, Dol Helyg
Pen-Bre
Burry Port
Sir Gâr
SA16 0EH
Enw a Chyfeiriad y Rheolwr Cofrestredig
Donna Kerslake
18 Stryd Courtney,
Trefansel
Abertawe
SA5 9NY
