Cyfeiriad: Y Tîm Cefnogi Cymunedol, Tŷ Herbert, Charter Court, Ffordd Ffenics, Parc Anturiaeth Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FS Ffôn: 01792 614100 Ffacs: 01792 614101 Ebost: community.support.team@swansea.gov.uk

Golwg ar Wasanaethau Anabledd Dysgu yn Abertawe

Gosodiad Cenhadaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe yw:

"i gwrdd ag anghenion gofal cymdeithasol pobl fwyaf bregus y gymdeithas drwy wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael sy’n eu diogelu a’u cynorthwyo i gynnal, cyn belled ag sy’n bosib, patrwm bywyd normal o fewn y gymuned"

Ein hamcan yng Ngwasanaethau Anabledd Dysgu yw:

"i ddatblygu gwasanaethau lleol, integredig, o fewn fframwaith o ymgynghoriad positif a chynllunio ar y cyd i bobl sydd ag anabledd dysgu sy’n eu galluogi i ddatblygu eu potensial i’r eithaf fel unigolion ac i sicrhau patrymau byw normal o fewn y gymuned. ".

Mae’r rhain yn adlewyrchu athroniaeth ac egwyddorion Strategaeth Cymru Gyfan (1983) lle cafodd hawliau i bobl ag anabledd dysgu eu gosod, sef i bod hawl gyda nhw i gael patrymau normal o fywyd o fewn y gymuned, i gael eu trin fel unigolion, ac i dderbyn help a chymorth ychwanegol gan y cymunedau maen nhw’n byw ynddyn nhw, a gan wasanaethau proffesiynol i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.

" Mae’r ddogfen ddiweddara’, Cyflawni’r Addewidion (2001) yn adeiladu ar yr egwyddorion hyn, gan ychwanegu bod pobl ag anabledd dysgu yn ‘ddinasyddion llawn sy’n gyfartal eu statws a gwerth â dinasyddion eraill o’r un oedran, sydd â’r hawl i ddisgwyl ansawdd uchel o fywyd, sydd ag hawl i benderfynu dros eu hunain ac i gyfrannu tuag at benderfyniadau sy’n affeithio’u bywydau, gyda chymorth os oes ei angen, a chael mynediad at gymorth eu teuluoedd a’r cymunedau y maent yn rhan ohonynt, ac i wasanaethau cyffredinol ac arbenigol cyhoeddus sy’n gallu gwella’r bywyd maent wedi penderfynu’i fyw "

Yn Abertawe rydyn ni’n cynnal yr egwyddorion hyn mewn nifer o ffyrdd:

1. Uchafu eich potensial, gwella ansawdd eich bywyd a’ch cynnal chi yn eich cymuned.

Mae gyda ni nifer o wasanaethau dydd ar draws Abertawe sy’n eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau fel bod gyda chi gyfle i weithio a byw’n fwy annibynnol. Rydyn ni hefyd yn eich helpu chi i gynnal eich iechyd a’ch lles corfforol ac emosiynol.

Mae ein gwasanaethau’n darparu nifer o weithgareddau - o hyfforddiant ar gyfer gwaith i addysg a gweithgareddau hamdden yn y gymuned. Rydyn ni hefyd yn darparu gweithgareddau therapiwtig a chymorth gydag anghenion gofal personol.

Mae gyda ni dri chartref egwyl sy’n cynnig arosiadau byr ond ystyrlon tra bod eich rhieni neu ofalwyr yn cymryd egwyl.

Mae ein huned preswyl yn darparu llety argyfwng i chi mewn cyfnodau o anhawster.

Os ydych chi’n byw gartref neu’n annibynnol, efallai cawn ni ddarparu cymorth parhaol i’ch helpu chi ddatblygu eich sgiliau fel y cewch chi aros yn eich cartref.

Am wybodaeth ychwanegol, gwelwch ein taflenni Gwasanaeth ar y safle hon.

2. Ymgynghoriad Positif

Rydyn ni’n edrych i ymgynghori gyda defnyddwyr ein gwasanaethau, rhieni a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd. Yn ein gwasanaethau mae gyda ni Bwyllgorau Defnyddwyr Gwasanaethau sy’n cynnig y cyfle i ddefnyddwyr rhoi sylwadau ac adborth ar faterion sy’n affeithio ar ddarpariaeth y wasanaeth iddyn nhw. Hefyd mae gyda ni nifer o Grwpiau Gwella Gwasanaethau sy’n hysbysu rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol eraill ar berfformiad y wasanaeth, ac unwaith eto i rhoi sylwadau ac i gyfrannu at wella’r wasanaeth. Mae gyda’r gwasanaethau eu holiaduron eu hunain sy’n cael eu danfon allan at ddefnyddwyr, rhieni a gofalwyr. Os oes angen trafod materion arbennig, rydyn ni’n sefydlu cyfarfod gyda defnyddwyr gwasanaeth, rhieni, gofalwyr a Pobl yn Gyntaf, pob un wedi’i gynnal gan Wasanaeth Cyfranogiad Abertawe. Hefyd, mae gan Ddinas a Sir Abertawe drefn Sylwadau a Chwynion. Rydych chi’n gallu gweld taflen ar y safle hon.

3. Cymryd rhan mewn penderfyniadau

Os ydych chi fel defnyddiwr gwasanaeth yn gwneud penderfyniadau, bydd mwy o siawns i chi dderbyn gwasanaethau sy’n ateb eich gofynion a’ch anghenion.

O ddydd i ddydd rydyn ni’n anelu at sicrhau bod unigolyn mewn cyswllt â gweithgareddau dyddiol a gyda’r Rhaglen Gwasanaeth (er enghraifft, Gofal Personol, gweithgareddau Domestig, gweithgareddau Hamdden, hyfforddiant Sgiliau Gwaith). Mae hyn yn cynnwys cael dweud mewn cynllunio gweithgaredd, ymgymryd â’r gweithgaredd yn y modd mwyaf annibynnol bosib, a chael dweud os ydy’r gweithgaredd yn ddefnyddiol neu’n hoffus. Mae’r cymorth sy yno i helpu’r person gymryd rhan yn llawn.

Mae staff yn defnyddio dulliau cyfathrebu cynhwysol a modelau cynnal gweithredol i sicrhau bod yr unigolyn yn cael y mwyaf allan o weithgareddau dydd i ddydd.

Mae proses Cynllunio Gofal Unigol yn darparu cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaethau bennu eu cynlluniau nod a’u hanghenion a dymuniadau unigol. Mae hyn yn cynnwys eraill sydd â rhan yn eu bywydau – rhieni, gofalwyr, rheolwyr gofal a phobl proffesiynol eraill, ac mae’n cael ei gynnal ar lefel ac ar gyflymdra i siwtio’r unigolyn.

Gall defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr gymryd rhan mewn monitro pa more effeithiol mae’r gwasanaethau’n gweithredu drwy bwyllgorau defnyddwyr gwasanaeth a digwyddiadau cynllunio gwasanaeth.

Mae ‘na grŵp cynllunio amlddisgyblaeth ac aml asiantaeth i’r Gwasanaethau Anabledd Dysgu, ac mae ei aelodaeth yn cynnwys llefydd i ddefnyddwyr a’u cynrychiolyddion.

Mae rôl sefydliad annibynnol, sef Gwasanaeth Cyfranogiad Abertawe ar hyn o bryd, wrth gynnal a datblygu gallu pobl iddyn nhw allu cymryd rhan yn y fframwaith gynllunio, yn gyfraniad gwerthfawr i’r trefniadau cynllunio.

Gall defnyddwyr a pherthnasau/ gofalwyr yn gallu cynnig barn wahanol, a lle mae’n bosibl bydd y farn yn ystyried anghenion ehangach y defnyddwyr neu’r perthnasau/ gofalwyr.

Weithiau mae grwpiau ffocws penodol a chyfarfodydd agored yn cael eu sefydlu gyda defnyddwyr gwasanaeth, perthnasau/ gofalwyr i drafod materion neu bolisïau arbennig.

4. Eich diogelu chi

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi ymrwymo i ofalu, cynnal ac amddiffyn oedolion bregus sy wedi bwrw llofnod ar Bolisi De Cymru ar Amddiffyn Oedolion Bregus. Mae gan staff ddyletswydd i sicrhau bod oedolion bregus bob amser yn cael eu hamddiffyn o unrhyw gam-drin neu ofal amhriodol. Rydyn ni’n disgwyl i staff ymddwyn mewn ffordd sy ddim yn mynd i achosi blinder nac anaf i’r oedolion bregus maen nhw’n dod mewn cyswllt â nhw.

Rydych chi’n gallu cael gwybodaeth gan safle Fforwm Amddiffyn Oedolion De Cymru - www.swapforum.org