Cyfeiriad: Y Tîm Cefnogi Cymunedol, Tŷ Herbert, Charter Court, Ffordd Ffenics, Parc Anturiaeth Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FS Ffôn: 01792 614100 Ffacs: 01792 614101 Ebost: community.support.team@swansea.gov.uk

Rydym am wybod eich barn am ein gwasanaeth

Trefn ar gyfer cwynion ­ pam?

Amcan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i gyhoedd Dinas a Sir Abertawe. Ond bydd adegau efallai pan fyddwch chi am gwyno ar ôl i bethau fynd o chwith. Mae’r Adran yn credu’n daer fod gan y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau, neu sydd am eu defnyddio, yr hawl i ddweud eu dweud amdanynt.

Serch hynny, dan amgylchiadau eithriadol lle y mae plant yn y cwestiwn, nid yw’r gyfraith yn caniatáu ymchwiliad i gwynion ar unwaith.

Beth i’w wneud os oes gennych chi gwyn

Fe ellwch chi ddwyn cwyn drwy alw i mewn i’ch swyddfa leol, neu ar y ffôn, neu drwy ysgrifennu at y Swyddog Cwynion Penodol.

Fe gewch chi fynegi eich teimladau heb unrhyw ofn ac, os dymunwch, gofynnwch i ffrind neu rywun arall eich helpu.

Beth sy’n digwydd nesa’?

Mae’r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin yn lleol gan reolwr sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth. Fe wneir hyn yn anffurfiol ac yn gyflym. Fe fydd y rheolwr naill ai’n ateb eich cwyn ar unwaith yn uniongyrchol neu yn eich galw yn ddiweddarach ar y ffôn, neu efallai yn ysgrifennu atoch chi

Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ateb, fe ellwch chi ofyn am ymchwiliad ffurfiol i’ch cwyn. Rhaid ichi ddatgan hyn mewn ysgrifen, a bydd y Swyddog Cwynion, ynghyd â’r Uwch Reolwr, yn trefnu i Uwch Swyddog na fu ganddo/I yr un cyfrifoldeb rheolaethol atebol, gynnal ymchwiliad manwl. Dan rai amgylchiadau fe fydd Person Annibynnol yn cynorthwyo’r Swyddog Ymchwilio. Fe gynhaliant gyfweliad â phawb sydd â rhan yn y mater, gan ddweud

y diweddaraf wrthych chi yn rheolaidd am hynt yr ymchwiliad. Fe dderbyniwch chi adroddiad ysgrifenedig ar yr ymchwiliad. Os dymunwch, cewch fynnu o’r cychwyn cyntaf fod eich cwyn yn cael ei drin ar unwaith yn y modd ffurfiol hwn.

Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymchwiliad hwn, cewch ofyn am banel adolygu, a fydd yn cwrdd o fewn 28 diwrnod ar ôl ichi ofyn amdano. Mae'r panel yn cynnwys Cynghorydd Lleol, uwch Reolwr o faes gwasanaeth gwahanol, ac mae'n rhaid cael Person Annibynnol yn gadeirydd arno. Fe’ch gwahoddir i fod yn bresennol, a chewch ddod â ffrind neu gynrychiolydd gyda chi. Bydd y panel adolygu’n datgan ei benderfyniad o fewn 5 niwrnod, ac mae rhaid i’r adran roi gwybod ichi o fewn 28 diwrnod ynglyn â sut y bydd yn gweithredu o ganlyniad I benderfyniad y panel.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, bydd gennych chi’r hawl i fynd â’r mater at yr Ombwdsman (Comisiynydd Gweinyddiaeth Leol), a chewch bob cymorth rhesymol gan y Swyddog Cwynion wrth wneud felly.

Ffyrdd eraill o weithredu i’w hystyried:-

Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Neuadd y Sir, Abertawe SA1 3SN Ffôn: 01792 636285