Cyfeiriad: Y Tîm Cefnogi Cymunedol, Tŷ Herbert, Charter Court, Ffordd Ffenics, Parc Anturiaeth Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FS Ffôn: 01792 614100 Ffacs: 01792 614101 Ebost: community.support.team@swansea.gov.uk

Y Tîm Cynnal Cymedunol ar Gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu

Ymddiriedolaeth Bro Morgannwg NHS

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Dinas a Sir Abertawe

Ar gyfer pwy mae’r daflen hon?

Mae’r daflen hon ar eich cyfer chi os oes gennych anableddau

dysgu. Mae hyn yn golygu efallai bod gennych anhawsterau dysgu a defnyddio sgiliau sydd angen i gael bywyd cyffredin heb gymorth pobl eraill. 

 

Byddai’r anawsterau hyn wedi dechrau pan oeddech chi’n blentyn.  Efallai geathoch chi eich geni â’r anabledd. Efallai bydd gennych anabledd arall hefyd fel epilepsi, anabledd corfforol, problemau clywed neu weld neu salwch meddyliol.

Mae’r daflen hon hefyd ar eich cyfer os ydych yn gofalu am rywun ag anableddau dysgu.

Beth mae’r daflen hon yn ei drafod?

Mae’r daflen hon yn sôn am y Tîm Cynnal Cymunedol (TCC) a sut gallen nhw eich helpu i dderbyn y gefnogaeth yr ydych angen i fyw mor annibynnol â phosib yn y gymuned.

Pwy yw’r Tîm Cynnal Cymunedol?

Yn y tîm mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gweithio i Ddinas a Sir Abertawe a staff iechyd sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Mae nhw wedi’u lleoli yn Nhy Herbert. Mae’r gwybodaeth sut i cysylltu â’r staff ar dudalen olaf y daflen hon.

Mae gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, seicolegwyr, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn gweithio yn y tîm.

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos â’r seiciatrydd ymgynghorol ar gyfer y Gwasanaethau Anableddau Dysgu.

Pa help a chefnogaeth y gallwn eu darparu?

Byddwn yn eich helpu i nodi beth yw eich anghenion a’r ffordd orau i’w bodloni. Er enghraifft, efallai byddwn yn gallu darparu cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl eraill drwy’r gwasanaethau dydd neu gwaith, neu drefnu i chi gael seibiant o’ch cartref mewn gofal seibiant

Sut mae eich anghenion yn cael eu hasesu a’u hadolygu?

I wybod beth yw eich anghenion, bydd nyrs neu weithiwr cymdeithasol a elwir yn rheolwr gofal yn dod i siarad â chi a’ch gofalwr neu’ch eiriolwr. Byddant yn gwario amser yn dod i’ch adnabod chi, ac yn darganfod unrhyw anawsterau sydd gennych. Gelwir hyn yn asesiad.

 

Gyda chi a’ch gofalwr neu’ch eiriolwr wnawn ni cytuno ar eich anghenion, a’r ffordd orau i’ch cefnogi. Caiff hyn ei nodi a’i alw’n gynllun gofal.  Byddwch chi a’ch gofalwr yn cael copi o’r cynllun gofal i’w gadw.

Byddwn yn cwrdd â chi a’ch gofalwr o leiaf unwaith y flwyddyn i wirio sut mae pethau ac i weld a ydych yn hapus â’r gefnogaeth rydych yn ei chael. Gelwir hyn yn gyfarfod adolygu. Ar ol hyn, caiff cynllun gofal newydd ei ysgrifennu. Gallwch gael cyfarfod adolygu cyn 12 mis os ydych chi neu'ch gofalwr yn teimlo bod eich anghenion wedi newid llawer.

Os oes gennych gwyn

Byddwn yn hapus i siarad gyda chi neu’ch gofalwr unrhyw bryderon sydd gennych am y gwasanaeth a'r help rydych yn ei gael. Gallwch cysylltu ag arweinydd Tîm y Gwaith Cymdeithasol neu’r Rheolwr Iechyd yn Nhy Herbert.

Os yr ydych dal yn anhapus, gellir ddefnyddio’r Weithdrefn Gwyno ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol neu Fro Morgannwg.

Rhannu gwybodaeth a chyfrinachedd

Pan fyddwch yn cael help gan TCC, byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch mewn cofnodion ysgrifenedig ac ar ffeiliau cyfrifiadurol. Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon yn gyfrinachol, mae hyn yn golygu ei chadw'n breifat. Byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda phobl sy'n gofalu amdanoch neu gydag eraill, dim ond pan fydd angen iddynt wybod y wybodaeth, er mwyn eich diogelu chi neu bobl eraill.

Byddwn yn cytuno â chi sut bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu ac fel arfer byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth.

Yn y TCC, mae staff iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion yng nghyd gan y staff iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Dinas a Sir Abertawe ac Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn gweithredu polisi mynediad i gofnodion sy’n gadael pobl i weld gwybodaeth amdanynt. 

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r:

Tîm Cefnogi Cymunedol

Ty Herbert

Cwrt Siarter

Ffordd Ffenics

Parc Menter Abertawe

Llansamlet

Abertawe

SA7 9FS

Ffôn:  01792 614100

Ffacs: 01792 614101

E-bost: community.support.team@swansea.gov.uk

Mae’r tîm ar gael:

9.00 am – 5.00 pm dydd Llun–dydd Iau

9.00 – 4.30 dydd Gwener

Os hoffech siarad â staff mewn iaith ar wahân i Saesneg neu Cymraeg, gallwn drefnu cyfleusterau cyfieithu dros y ffôn. I ddefnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn, bydd rhaid i chi ddweud wrthym beth yw eich enw, y rhif ffôn rydych yn ei ddefnyddio a’r iaith rydych yn ei siarad (yn Saesneg). Byddwn yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosib gyda cyfieithydd sy’n siarad eich iaith.

Y Tu Allan i Oriau Swyddfa

Pan fydd y swyddfa ar gau, mae peiriant ateb ar gael i chi adael neges.

Am help mewn argyfwng, cysylltwch â Thîm Dyletswydd mewn Argyfwng Gwaith Cymdeithasol

Ffôn: 01792 775501

Gwefannau defnyddiol:

www.swansea-lives.com

www.mencap.org.uk

www.learningdisabilities.org.uk

www.wales.nhs.uk