Cyfeiriad: 6 Lôn Bethany, Croes y Gorllewin, Abertawe, SA3 5TL Ffôn: 01792 405398 Ffacs: daycentre@longfields1952.fsnet.co.uk

Sefydlwyd Cymdeithas Longfields (a adwaenir cynt yn Gymdeithas Sbastig Abertawe a’r Cylch) ym 1952 gan grŵp bychan o rieni oedd yn bryderus nad oedd darpariaeth o fewn y system addysg ar gyfer eu plant anabl. Mae rhai o’r sylfaenwyr gwreiddiol yn dal i gefnogi Longfields.

Mewn byr amser roedd y rhieni wedi codi digon o arian i’w galluogi i agor ystafell ysgol lle’r oedd eu plant yn mynychu bob dydd, ac ar ôl llawer o lobio ar bob lefel, roeddynt wedi deffro cymaint o ymwybyddiaeth gyhoeddus nes y cawsant eu darparu ag athro gan Adran Addysg yr awdurdod lleol. Yn ddiweddarach, agorwyd Ysgol Arbennig yn Abertawe, wedi ei lleoli yn Nhreforys.

Mynychodd y plant oed ysgol oedd wedi eu hasesu i fod yn berchen ar lefel ddeallusol benodol yr ysgol yn Nhreforys, gan adael y rhai oedd yn barod dros oed ysgol, a’r rhai a dybid na ellid eu haddysgu, heb ddarpariaeth.

Ym 1955 wedi rhagor o godi arian a gwaith cysylltiadau cyhoeddus, prynwyd yr eiddo yn Longfields a gallodd y plant oedd ar ôl a’r bobl ieuanc fynychu’r Feithrinfa a’r Ganolfan Hyfforddi Adolesent, a sefydlwyd bryd hynny.

Pan adawodd y plant yr ysgol yn Nhreforys dechreuodd rhai ohonynt ddefnyddio’r gwasanaeth yn Longfields ac mae rhai ohonynt yn mynychu yno hyd heddiw.

Dros hanner can mlynedd ymlaen mae Longfields wedi datblygu yn Ganolfan Dydd, sydd yn darparu gwasanaeth i 34 o bobl gydag ystod o anableddau, gyda staff o 25.

Yn awr dan gontract i Ddinas a Sir Abertawe, mae Longfields yn uchel ei pharch yn ei maes, wedi ennill a dal y Wobr Buddsoddwr mewn Pobl, a Gwobr Aur Iechyd yr Amgylchedd i’w adran arlwyo.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Longfields wedi mynd drwy adolygiad cynhwysfawr a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr allanol, ac mae’n awr yn agosáu at derfyn y rhaglen wella gwasanaethau gafodd ei gweithredu yn ymateb i’r adolygiad.

Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth Cymdeithas Longfields yn amrywiol, a nod y Gymdeithas yw hybu annibyniaeth defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae cymhorthdal a dderbyniwyd gan y Gronfa Cymuned yn galluogi i Longfields adeiladu pwll hydrotherapi y gobeithir ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2005.

DATGANIAD O FWRIAD

Mae’r elusen wedi ei seilio ar y gosodiad fod gan bobl anabl yr hawl i’r un cyfleoedd a phobl abl, ac mae wedi ei sefydlu er mwyn gweithio ochr yn ochr â phobl anabl i’w cynorthwyo i gyrraedd eu potensial a chyflawni eu dyheadau.

DIBENION DRAFFT

Nod yr Elusen yw darparu cymorth i oedolion (19 mlwydd oed a drosodd) gydag unrhyw fath o barlys yr ymennydd a/neu anableddau eraill perthynol, ac i’w cynhalwyr, drwy baratoi amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi eu haddasu i ddiwallu anghenion unigol ei defnyddwyr gwasanaethau.

AMCANION DRAFFT

I ymestyn dysgu pobl â pharlys yr ymennydd a/neu anableddau eraill perthynol sydd yn byw yn Ninas a Sir Abertawe ac ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot drwy gynnig ystod o wasanaethau a chymorth. Ystyrir ceisiadau am gymorth oddi wrth bobl â pharlys yr ymennydd a/neu anableddau eraill perthynol sydd yn byw o fewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill ar sail adnoddau a gallu’r Gymdeithas i ddiwallu eu anghenion yn foddhaol.

I ymestyn dysgu pobl â pharlys yr ymennydd a/neu anableddau eraill perthynol sydd yn defnyddio gwasanaethau Cymdeithas Longfields trwy:


PWYLLGOR GWEITHREDOL

CYFARWYDDWR

Cyfrifoldeb Cyffredinol dros Longfields.

RHEOLWR / DIRPRWY GYFARWYDDWR GWASANAETH DYDD

DIRPRWY REOLWR GWASANAETH DYDD

SWYDDOGION GWASANAETH DYDD (11)

GWEINYDDWR

Sicrhau fod y swyddfa yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon, rhoi cefnogaeth gweinyddol llawn i’r Cyfarwyddwr a swyddi eraill fel bo’r gofyn.

CYNORTHWYYDD CLERIGOL

RHEOLWR CLUDIANT AC ADEILADAU

TASGMON

Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cludiant ac Adeiladau yn cynnal a chadw adeiladau a thiroedd Cymdeithas Longfields.

GYRWYR/HEBRYNGWYR

Gweithredu fel gyrrwr / hebryngwr yng nghludiant diogel ein defnyddwyr gwasanaeth i ac o Gymdeithas Longfields.

SWYDDOG CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS / CODI ARIAN

Rheoli pob agwedd o godi arian trwy strategaeth effeithiol a chynllunio i godi proffil Cymdeithas Longfields ym myd busnes a’r gymuned leol.

COGINYDD

Yn gyfrifol am redeg y gegin o ddydd i ddydd.

COGINYDD CYNORTHWYOL

Gweithio ochr yn ochr â’r coginydd yn rhedeg y gegin o ddydd i ddydd.


GWASANAETHAU CYMDEITHAS LONGFIELDS

Mae Cymdeithas Longfields yn darparu gwasanaethau er budd oedolion gyda pharlys yr ymennydd ac anableddau tebyg, a’u cynhalwyr, yn Ninas a Sir Abertawe, ac, fel cymdeithas anghorfforedig, mae hefyd yn ofynnol iddi ddarparu gwasanaethau i’w haelodau.

Mae’r adran hon yn disgrifio’r gwasanaethau uniongyrchol mae’r Gymdeithas yn eu darparu i bob carfan o’i buddiolwyr.

Y GWASANAETH DYDD

LLEOLIAD

Mae Gwasanaeth Dydd Cymdeithas Longfields wedi ei leoli o fewn adeilad a godwyd yn bwrpasol oddi mewn i dir y Gymdeithas yn Bethany Lane, West Cross, Abertawe

NIFER O LEFYDD

Gall y gwasanaeth dydd gynnig llefydd sydd yn gyfwerth a 29 o lefydd llawn amser bob dydd i oedolion gyda pharlys yr ymennydd ac anableddau tebyg.

Mae Dinas a Sir Abertawe ar hyn o bryd yn prynu 29 o lefydd llawn amser neu eu cyfwerth bob dydd oddi ar y Gymdeithas ar sail Cytundeb Lefel Gwasanaeth ysgrifenedig sydd yn rhedeg am gyfnodau o dair blynedd ond sydd yn amodol ar adolygiadau blynyddol.

ORIAU GWEITHREDU

Mae’r gwasanaeth dydd yn agored i ddefnyddwyr gwasanaeth rhwng 9.00 a 4.30 bob dydd yn ystod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn, heblaw am wyliau banc a gwyliau cyhoeddus, egwyl y Nadolig (cytunir y dyddiadau cau bob blwyddyn), a dyddiau pan mae’r gwasanaeth ar gau ar gyfer gweithgareddau datblygu staff neu hyfforddiant.

Mae aelodau’r staff yn gweithio’r oriau rhwng 8.00 a 5.45 bob dydd.

TREFNIADAU CLUDIANT

Pan yn bosib, mae’r Gymdeithas yn darparu cludiant ar gyfer ei defnyddwyr-gwasanaeth i’w ac o’u cartrefi. Mewn amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosib oherwydd cyfyngiadau yn ymwneud ag argaeledd cludiant neu oherwydd y ffaith fod defnyddwyr-gwasanaeth yn byw y tu allan i’r ffyrdd cludiant arferol neu ffiniau awdurdodau lleol, bydd y Gymdeithas yn trafod trefniadau cludiant gyda’r defnyddiwr-gwasanaeth, ei gynhalwyr / chynhalwyr, a’r (pan yn berthnasol) rheolwr gofal sydd wedi cyfeirio’r defnyddiwr-gwasanaeth i’r Gymdeithas.

YMBORTH A CHINIAWAU

Darperir te a choffi ar gyfer y defnyddwyr-gwasanaeth bob bore a phrynhawn ac maent yn cael cynnig dewis o giniawau.

TREFNIADAU RHEOLAETH A STAFFIO

Mae Pwyllgor Gweithredol gwirfoddol yn rheoli’r Gymdeithas yn unol â’i chyfansoddiad. Cynrychiolir defnyddwyr-gwasanaeth ar y Pwyllgor Gweithredol.

Mae’r gwaith o redeg y Gymdeithas o ddydd i ddydd wedi ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr ac i’r Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae gan y Dirprwy Gyfarwyddwr swyddogaeth ddeublyg oherwydd mai ef neu hi hefyd yw’r rheolwr gwasanaeth dydd, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros redeg y gwasanaeth hwn o ddydd i ddydd.

Mae dirprwy reolwr gwasanaeth dydd yn cynorthwyo’r rheolwr yn y swyddogaeth hon.

Mae’r gwasanaeth dydd yn cael ei staffio gan gyflenwad cyfwerth ag 11 swyddog gwasanaeth llawn amser. Gall cyfanrif y cyflenwad amrywio os a phan mae’r Gymdeithas yn cytuno i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol i’r rhai a brynwyd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe ar sail cytundebau contract prynu yn y fan a’r lle ac/neu os bydd y pwyllgor gweithredol yn cymeradwyo newidiadau i gymysgedd neu gyflenwad staffio yn gyffredinol.

Mae’r gwasanaeth dydd yn elwa o wasanaethau staff cegin ac arlwyo ymroddedig, ac mae’r Gymdeithas hefyd yn cyflogi staff i reoli ei threfniadau cludiant ac i reoli a chynnal ei thiroedd a’i hadeiladau. Mae’r Gymdeithas yn cyflogi gyrwyr a hebryngwyr i gyflawni anghenion cludiant ei defnyddwyr-gwasanaeth. Mae gan y Gymdeithas swydd ran-amser sydd yn ymroddedig i godi arian a gwaith cysylltiadau cyhoeddus.

Mae’r gwasanaethau dydd yn derbyn cymorth gweinyddol gan dîm gweinyddol canolog y Gymdeithas.

GWEITHGAREDDAU ASESIO A CHYNLLUNIO UNIGOL

Dylai fod gan pob defnyddiwr-gwasanaeth ddaeth atom drwy law'r awdurdod lleol gynllun gofal wedi ei gwblhau yn rhoi manylion o’r amcanion yr hoffai’r awdurdod lleol weld y Gymdeithas yn eu darparu ar gyfer a gyda’r defnyddiwr-gwasanaeth.

Penodir gweithiwr allweddol o fysg y tîm staff ar gyfer pob defnyddiwr-gwasanaeth sy’n mynychu’r gwasanaeth dydd. Penodir gweithiwr allweddol ar gyfer defnyddwyr-gwasanaeth newydd o fewn tair wythnos (neu 15 diwrnod mynychu) ar ôl iddo gychwyn mynychu’r gwasanaeth dydd. Bydd y gweithiwr allweddol penodol yn helpu defnyddiwr-gwasanaeth newydd i ddod yn gyfarwydd â’r gwasanaeth a chwblha asesiad seiliedig-ar-wasanaeth o’i gryfderau / chryfderau, anghenion a dyheadau yn ystod yr 8 wythnos (neu 40 diwrnod mynychu) gyntaf iddo / iddi fynychu’r gwasanaeth. Bydd y gweithiwr allweddol hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’r defnyddiwr-gwasanaeth er mwyn cynhyrchu ‘portffolio personol o wybodaeth’ o fewn 12 wythnos (neu 60 o ddiwrnodau mynychu) iddo gael ei benodi.

Bydd canlyniadau’r broses asesu a’r cyfnod setlo i mewn yn helpu’r defnyddiwr-gwasanaeth a’i (g)weithiwr allweddol i benderfynu ar raglen unigol o weithgareddau a gynigir i’r defnyddiwr-gwasanaeth yn y gwasanaeth dydd. Bydd gan ddefnyddwyr-gwasanaeth newydd gynllun unigol wedi ei gwblhau o fewn 12 wythnos (neu 60 o ddiwrnodau mynychu) wedi iddynt gychwyn mynychu’r gwasanaeth dydd.

Mae gofyn i bob defnyddiwr-gwasanaeth gael ailasesiad blynyddol o’i gryfderau / chryfderau, anghenion, a dyheadau, ynghyd ag adolygiad ffurfiol o’r cynllun unigol. Fodd bynnag, mae gan bob defnyddiwr-gwasanaeth yr hawl i adolygiad ffurfiol o’i gynllun / chynllun seiliedig-ar-wasanaeth 6 mis ar ôl cychwyn y cynllun, ac mae wedyn yn mynd drwy’r cylchred adolygu blynyddol.

Er y gwneir pob ymdrech i drefnu prosesau cynllunio ac adolygu’r gwasanaeth i gyd-fynd â dyddiadau adolygiadau rheoli gofal yr awdurdod lleol, gall fod rhai amgylchiadau pan fydd y rhain yn digwydd ar wahân. Nid yw hyn yn broblemus cyn belled a bod y berthynas rhwng y ddau broses yn cael ei rheoli’n effeithiol.

RHAGLEN GYTBWYS I DDEFNYDDWYR-GWASANAETH

Mae Cymdeithas Longfields yn amcanu cynnal cydbwysedd rhwng cynnig i ddefnyddwyr-gwasanaeth:

Y GWEITHGAREDDAU A CHYFLEOEDD AR GYNNIG

Fe gynigir i bob defnyddiwr-gwasanaeth nifer o weithgareddau o’r ddewislen a ganlyn:

Lle mae cynllun gofal a chynllun unigol seiliedig-ar-wasanaeth defnyddiwr-gwasanaeth yn nodi angen am weithgaredd neu gyfle gael ei darparu sydd ddim wedi ei restru uchod, bydd y Gymdeithas yn gwneud pob ymdrech i wneud hyn, o fewn cyfyngiadau ei hadnoddau a’r medrusrwydd sydd ar gael iddi.

Mae Cymdeithas Longfields yn sefydliad gwirfoddol sydd yn seiliedig ar aelodaeth. Caiff pob defnyddiwr-gwasanaeth y cyfle i ddod yn aelod o’r Gymdeithas (er bod hyn yn fater o ddewis yn hytrach nag yn orfodol). Mae gan aelodau’r Gymdeithas hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol blynyddol a chyfarfodydd cyffredinol arbennig.


MESUR IAWNDERAU DEFNYDDWYR GWASANAETH LONGFIELDS

Mae ‘bod o werth’ yn golygu: