Os ydych yn poeni neu yn anhapus rydym eisiau gwybod.
Os oes gennych broblem neu gwyn, bydd y llyfryn hwn yn dweud wrthych beth i’w wneud.
Beth fedrwch ei wneud os oes gennych gwyn?
Beth fedrwch ei wneud os ydych yn gwybod fod rhywun yn anhapus?
Mae’n rhaid ichi ddweud wrth rywun.
Os ydych yn meddwl y byddai’n syniad da ichi gael Person Annibynnol i helpu edrych i mewn i’ch cŵyn, gallwch ofyn am hyn.
Bydd y bobl hyn yn darganfod gymaint a fedrant am eich cŵyn, ac yn gadael ichi wybod beth maent yn ei feddwl. Byddent yn ceisio darganfod ffordd i ddelio gyda phethau mewn ffordd yr ydych yn hapus efo hi.
Os nad ydych yn hapus gyda beth maent yn ei gynnig, neu ddim yn meddwl eu bod wedi edrych i mewn i’ch cŵyn yn iawn, gallwch ofyn i’ch cŵyn gael ei hymchwilio ymhellach.
Cam 1
Gallwch gwyno trwy:
Lythyr
(bydd rhywun yn eich helpu os bydd angen
Ysgrifennwch at:-
Cymdeithas Longfields, 6 Bethany Lane, West Cross, Abertawe, SA3 5TLTeleffon
Ffoniwch 01792 405398
Siaradwch â
Denise Lucas - Cyfarwyddwr
Jen Waters - Rheolwr Canolfan Dydd a wnaiff arwain yr ymchwiliad
Siarad gyda’ch gweithiwr allweddol neu staff neu eich rheolwr gofal neu eiriolwr sydd yn annibynnol o Longfields.
Gall ffrindiau neu deulu weithredu ar eich rhan.
Gwneir ymchwiliad i’ch cŵyn. Cymer hyn rhwng 5 a 14 diwrnod, (os oes oedi cewch wybod y rheswm pam), a chewch wybod yn ysgrifenedig am y canlyniadau, a’r ffordd orau bosib i ddatrys eich cŵyn.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r canlyniad, neu â’r ffordd yr aeth yr ymchwiliad, gallwch ddewis symud ymlaen i’r cam nesaf.
Cam 2
Bydd rhywun arall yn edrych i mewn i’ch cwyn
Fel arfer y Gweinyddwr, Denise Lucas, fydd yn gwneud hyn, neu fel arall Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol Longfields.
Weithiau bydd person arall nad yw’n gweithio i Longfields yn helpu i edrych i mewn i’ch cŵyn. Gelwir y person hwn yn “Berson Annibynnol”.
Gallwch Ddweud Wrth:
- RIANT/GOFALYDD
- EICH CYNGHORYDD SIROL LLEOL
- SWYDDOG GWASANAETH DYDD
- RHEOLWR GWASANAETH DYDD
- CYFEILLION
- GWEITHIWR ALLWEDDOL
- EIRIOLWR
- CYD-DREFNYDD GOFAL
Bydd Longfields bob amser yn ymateb i’ch cwyn drwy wrando ar y broblem, a chytuno ar ffyrdd i’w sortio allan. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, medrwch ddewis fynd a’ch cwyn ymhellach.
Cam 3
Bydd eich cwyn yn mynd gerbron panel adolygu. Sefydlir hwn o fewn 28 diwrnod.
Bydd y panel yn edrych eto ar eich cŵyn, y materion ynghlwm wrthi a’r ffordd y cafodd ei hymchwilio. Daw’r panel i benderfyniad ynglŷn â’r ffordd orau i ddatrys y broblem a riportio’n ôl atoch chi yn ysgrifenedig.
Os ydych yn anhapus ar unrhyw adeg gallwch fynd drwy Drefn Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Am gyngor ffoniwch y Swyddog Cwynion ar 01792 636285.
