Beth yw Doorways?
Mae Doorways yn sefydliad gwirfoddol gafodd ei sefydlu gan grwp o rieni a phobl eraill oedd â diddordeb yn nyfodol darparu llety ar gyfer pobl ag anebledd dysgu
Mae’n cael ei reoli gan bwyllgor etholedig, gyda’r aelodau wedi’u dewis o’r tîm staffio a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Maen’ nhw’n cwrdd yn fisol i drafod, ar y cyd gyda staff, datblygiad y wasanaeth, i fonitro cyllid, cyfrannu at ddewis staff, ac i drefnu gweithgareddau codi arian. Mae Doorways wedi’i ariannu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i rentu ty cyffredin yn y gymuned, sy wedi’i ddarparu gan Grwp Gwalia.
Ein Hathroniaeth
Mae Doorways yn cynorthwyo’n llwyr egwyddorion Strategaeth Cymru Gyfan sy’n dweud y dylai pobl ag anebledd dysu gael yr hawl:
- I gael eu trin fel unigolion;
- I fyw patrymau cyffredin bywyd o fewn cymdeithas;
- I dderbyn cymorth gan y gymuned maen nhw’n byw yddi, a chan wasanaethau proffesiynnol i ddatblygu eu llawn botensial.
Y gwasanaethau 'dyn ni'n eu cynnig
Ers 1988 mae Doorways, mewn partneriaeth a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi:
- Sefydlu a chynnal cynllun ‘Dod-i’ch-Nabod-Chi’. Prif nôd y cynllun yw paratoi pobl ar gyfer newidiadau yn eu ffyrdd o fyw a’u llety;
- Parhau â chynnig cymorth hyblyg i unigolion gydag anghenion cymhleth, ac hefyd i ddraparu ystod eang o weithgareddau gan gynnwys assesiadau cytunedd, anghenion cynnal a gwasanaethau dyddiol fydd eu hangen yn y dyfodol.
Hoffech chi wybod rhagor, neu gael sgwrs anffurfiol gydag aelod o’n staff cyfeillgor?
Galwch: 01792 476132
Pe bai angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, llenwch y ffurflen i dderbyn rhagor o wybodaeth ynhglyn â Doorways a’r hyn mae’n nhw’n ei gynnig.
Mae Doorways y darparu gwasanaeth ‘Cymorth yn y Cartref’ sy’n cael ei redeg ar y cyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Nod y wasanaeth yw hybu annibyniaeth a chaffaeleb sgiliau unigolyn.
Rôl Rhieni a Gofalwyr
‘Dyn ni’n annog i rieni ac i ofalwyr ymweld â’r wasanaeth ac i gynllunio cyfraniad gweithgar a phwysig tuag at waith Doorways, a hynny yn sicrhau ein bod ni’n gwybod cymaint ag sy bosib am unigolyn. ‘Dyn ni’n trefnu pob math o weithgaredd, ac mae ‘na groeso mawr i rieni, gofalwyr ac unrhyw grwp sydd â diddordeb.
Datblygiadau yn y dyfodol
Mae gan Doorways ymroddiad i, a diddordeb mewn, llety o’r safon uchaf ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Ceir awydd o fewn Doorways i ddatblygu’r sefydliad drwy ddefnyddio’r profiad sy wedi’i ennill o’i waith ‘Dod-i’ch-Nabod-Chi’, ac mae’n anelu at fod yn ddarparwr llety o safon uchel.
Cyfeiriad cyswllt a Swyddfa Gofrestredig:
Doorways Gorllewin Morgannwg 347 Heol Llangyfelach Brynhyfryd Abertawe SA5 9LQ Rhif Cof. 25322REbost: mail@doorways.org.ukPrintiwch eich manylion
Enw
Cyfeiriad
Rhif ffôn
Dychwelwch at:
Doorways Gorllewin Morgannwg
347 Heol Llangyfelach
Brynhyfryd
Abertawe
SA5 9LQ
