Cyeiriad 347 Llangyfelach Road, Brynhyfryd, Swansea, SA5 9LQ Ffôn: 01792 476132 Ebost: mail@doorways.org.uk

Nodau ac Amcanion

Datblygwyd y nodau ac amcanion strategol canlynol i arwain Doorways Gorllewin Morgannwg yn eu gwaith.

Asiantaeth Gofal Trigfannol

Gosodiad Pwrpas

1. Rheolwyd Asiantaeth Gofal Trogfannol Doorways gan Doorways Gorllewin Morgannwg Cyf.

2.  Ariannwyd Doorways i gynnal oedolion ag anabledd dysgu. Isod ceir disgrifiad o natur y gwasanaethau a ddarperir:

Cymorth Hyblyg:

Asesiadau Sgiliau

Gall Asesiadau Sgiliau gymryd hyd at 8-10 wythnos i adnabod anghenion cymorth unigolyn, adnabod y diffygion yn eu sgiliau ac i gynllunio am eu darpariaeth.

Hyfforddiant 

Mae defnyddywr yn derbyn cymorth sy wedi’i gyfyngu gan amser i ddatblygu’u sgiliau byw’n annibynnol o fewn y cartref  neu’r gymuned. Tîm Cymunedol i Oedolion sydd ag anabledd dysgu o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Aberatwe sy’n cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth.

Cymorth i fynychu gwasanaethau dyddiol

Time limited support is provided to individuals so they can have introduction to, or maintain their placements and services.  The assistance is provided to support people with such needs as epilepsy, anxiety, behavioural difficulties and communication needs.

Cynllun Dod i’ch nabod chi

Mae’r sesiynau hyn yn caniatáu i ni adnabod pobl all fyw gyda’i gilydd mewn llety ar y cyd. Mae hyn yn golygu asesu cydnawsedd unigolion i fyw gyda’i gilydd, adnabod anghenion cymorth, ac i hybu gwybodaeth am amgylcheddau a llety newydd.

Mynychu Apwyntiadau Iechyd

Cymorth i fynychu apwyntiadau iechyd. Gall staff gadarnhau arweinyddiaeth yr ymarferwr iechyd, ac i basio gwybodaeth i eraill fel y bo’r angen.

Mae’r asiantaeth yn darparu’r uchod drwy drefniadaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe sy’n ariannu ac yn arolygu’r gwasanaethau. Weithiau ceir arain gan ffynonellau eraill, er enghraifft, gan awdurdodau iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd arbennig.

3.  Ardal daearyddol Doorways yw ffiniau Dinas a Sir Abertawe. Yn hanesyddol, fodd bynnag, mae Doorways wedi darparu cymorth i oedolion mewn sefydliadau cyfnod hir yn ardal Pen y Bont, Caerdydd, Castell Nedd, a Phorth Talbot. Efallai bydd cyfeiriadau yn y dyfodol yn golygu bod angen i Doorways ddarparu cymorth y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe.

4.  Mae gan staff sy’n darparu gwasanaethau ar ran yr asiantaeth gymwysterau addas, ac sy’n ateb gofynion Cyngor Gofal Cymru. Mae ganddynt hefyd wybodaeth benodol sy’n galluogi iddynt ymateb i anghenion y defnyddwyr maent yn eu cynorthwyo. (Gweler Fframwaith Hyfforddiant a Chymwysterau).

5.   Gall yr asiantaeth rhoi terfyn ar ddarpariaeth i ddefnyddiwr dan yr amodau hyn:

Bydd yr uchod yn cael eu hystyried ar sail pob achos unigol, ac o’r herwydd efallai na fydd yr amgylchiadau yn arwain at rhoi terfyn ar wasanaethau. Maent yn drigeri all arwain at dynnu gwasanaethau.

6. Gall defnyddiwr ofyn am i wasanaeth gan weithiwr gofal arbennig ddod i ben. Trefnir hyn yn ei arolwg gwasanaeth, cyfarfod tîm aml-ddigyblaeth, drwy ei Rheolydd Gofal neu drwy godi’r achos yn uniongyrchol gyda’r gweithiwr.

7.   Codwyd tâl ar gyfer Asesiadau Sgiliau gan yr asiantaeth o £3, a hynny os ydy’r unigolyn yn cytuno bod ganddo’r gallu i’w dalu. Cytunwyd ar hyn yn y cyfarfod cytuno ar wasanaeth.

Mae gan Doorways Gorllewin Morgannwg  Ystafell Ymlacio/ Snozelan.  Mae hyn ar gael i bobl sy ddim yn cael eu cynorthwyo gan Doorways Gorllewin Morgannwg.  Codwyd tâl o £2 am hyn, ac mae’r arian yn mynd tuag at brynu offer newydd a chynhaliaeth. Rhoddir derbyneb am y tâl.

Nid yw’r asiantaeth yn codi tâl am ei gwasanaethau eraill. Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n asesu pob unigolyn yn ariannol cyn eu cyfeirio at Doorways Gorllewin Morgannwg i weld os oes rhaid iddynbt cyfrannu tuag at gost eu cymorth, a hynny yn ôl gofynion deddfwriaethau’r Cynulliad. Mae unrhyw penderfyniad ynghlyn â chodi, gweinyddu a chasglu taliadau’n cael ei reoli gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe.

8.  Bydd y trefniadau hyn yn eu lle pe bai gweithwyr cynorthwyol yn sâl neu’n absennol am unrhyw reswm arall:-

Nodwyd yn y cyfarfod cytuno ar wasanaeth bod unigolion yn mynd i dderbyn gwasanaeth blaenoriaethol ai peidio.  Os ydy’r defnyddiwr gwasanaeth i dderbyn gwasanaeth blaenoriaethol, bydd yr asiantaeth yn ceisio darparu’r gwasanaeth drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd wrth law. Os nad yw hynny’n bosibl, bydd yr asiantaeth yn cysylltu gyda Rheolydd Gofal yr unigolyn, neu gyda rheolwr y tîm cymdeithasol, i ddweud wrthynt am y diffyg iddynt ddarparu gwasanaeth arall.

Os nad yw defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth blaenoriaethol, bydd eu cymorth yn cael ei ganslo’r tro cyntaf. Os oes rhaid i’r asiantaeth ganslo fwy nac un sesiwn, bydd yr asiantaeth yn asesu a oes modd darparu cymorth drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd wrth law.

9.  Anghenion parthed taflenni amser:

Mae gan yr asiantaeth broses am gwblhau a gweinyddu taflenni amser. Rhaid i staff eu llenwi bob dydd a’u rhoi mewn i arweinydd neu is-arweinydd y gwasanaeth bob pythefnos.

10. Mae gan yr asiantaeth polisi Cwyno a Chanmol sydd ar gael mewn ffurf hygyrch. Mae gan yr asiantaeth Polisi Iechyd a Diogelwch, sy’n gosod trefniadau i ddiogelu defnyddwyr ein gwasanaethau a staff. Mae’r rhain yn cynnwys Diogelwch Oedolion Bregus, Hunan-weithio, Trin a Chodi ac Asesu Risg.   

11. Mae’r trefn ar gyfer diogeli eiddo defnyddwyr yn cael eu trin ym mholisïau’r asiantaeth ar Fynediad at Eiddo Defnyddwyr a Pholisi Diogeli Arian.

12. Mae gan yr asiantaeth Bolisi Moddion sy’n darparu hyfforddiant i staff ar y moddion mae’r defnyddwyr yn eu cymryd. Hefyd darperir hyfforddiant ar y tasgau iechyd rhaid eu cyflawni i ddefnyddwyr.

13. Mae gan yr asiantaeth Drefniadaeth a Pholisi Iechyd a Diogelwch, ac mae pob aelod o staff yn derbyn Llawlyfr Staff sy’n cynnwys arweinyddiaeth ar iechyd a diogelwch.

14.  Mae gan yr asiantaeth Bolisi ar Reoli Absenoldeb Staff. Hefyd mae gan y Rheolwr cofrestredig osodiag gyda chytundeb sy’n sicrhau cydsyniad â Rheol 27, Rheolau Asiantaethau Gofal Cartrefol Cymru 2004. Gweler y gosodiad atodol ‘Cydsyniad â Rheolau’. 

15.  Mae’r asiantaeth’n darparu nifer o ffyrdd i ddefnyddwyr gwasanaeth gael mynegi eu barn a syniadau.

16. Y fframwaith rheoli yw:-

Pwyllgor Rheoli

Cadeirydd – Colin Williams

Arweinydd Gwasanaethau Cymorth

Adam Mason

Is-arweinydd Gwasanaethau Cymorth

Robin Cadwalladr

Gweithwyr Cynorthwyol

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

17.  Ar adegau prin mae’r asiantaeth’n darparu gwasanaethau drwy pobl eraill. Mae hyn yn digwydd drwy sefydliadau partner neu asiantaeth cyflogi sy’n cydymmffurfio i’n safonau penodi staff.