Mynediad i’ch cartref gan Weithiwr Cynorthwyol
- Fydd staff ddim yn mynd mewn i’ch cartref heb ganiatad, a dim ond os ydych chi yno.
- Yr unig adeg bydd Gweithiwr Cynorthwyol yn mynd mewn i’ch cartref heb gainatad yw mewn argyfwng, neu os ydyn nhw’n teimlo eich bod chi mewn peryg neu’n sâl.
![]()
- Os ‘dyn ni’n cadw allweddi ar gyfer eich cartref, byddwn ni’n eu cadw rhywle diogel ac yn eu defnyddio yn ôl ein cytundeb. Enghraifft o hyn yw pan nad oes ymateb a d’yn ni am weld eich bod chi’n iawn.
- Os ‘dyn ni’n mynd mewn i’ch cartref pan nad ‘dych chi yno, fel arfer bydd rhywun arall ‘da ni, rhywun fel eich Gweithiwr Cymdeithasol. Efallai na fydd hyn yn bosib bob amser.
- Os ‘dyn ni’n mynd mewn i’ch cartref pan nad ‘dych chi yno, byddwn ni’n dweud wrthych chi a’ch Rheolydd Gofal.
Canslo
Efallai cewch eich sesiynau eu canslo oherwydd salwch, gwyliau neu hyffordiant, a hynny o’ch ochr chi neu gan eich Gweithiwr Cynorthwyol. Yn eich cyfarfod Cytuno ar Wasanaeth byddwn ni’n cytuno ‘da chi a’ch Rheolydd Gofal ar y trefniadau ar gyfer darparu staff amnewidiol a sesiynau cyflenwol. Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion ac ar y staff sy ar gael ‘da ni. Os oes angen cyflenwi dros dro am unrhyw reswm a ‘dyn ni ddim yn gallu ei ddarparu, byddwn ni’n dweud wrthych chi a’ch Rheolydd Gofal fel bod trefniadau arbennig yn gallu cael eu gwneud.
Difrod
Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i edrych ar ôl eich eiddo wrth darparu cymorth. Os ‘dyn ni’n achosi difrod byddwn ni’n sicrhau bod popeth yn ddiogel, a byddwn yn trefnu rhywbeth yno i gymryd lle, a byddwn ni’n gwneud cais yn erbyn ein hyswiriant. Os oes angen, gallwn ni eich helpu chi gosod cais ger bron eich cwmni yswiriant.
Lechyd a diogelwch
‘Dyn ni’n sicrhau diogelwch y rheini sy’n defnyddio’n gwasanaethau cymain ag sy bosib. Byddwn yn sicrhau bod ein staff wedi’u hyfforddi a bod ‘da nhw’r offer sydd eu hangen i’ch helpu chi. Bydd eich gofalwyr a Rheolydd Gofal yn trafod ‘da chi unrhyw broblemau neu beryglon, ac yn gweithio i leihau rhain – byddwn ni’n gwneud asesiadau risg.
Rhaid i ni hefyd gadw’n staff yn ddiogel. Yn yr asesiadau risg byddwn ni’n dweud os ‘dyn ni’n poeni am ddiogelwch rhywun, a byddwn ni’n gweithio i leihau hyn.
Os yw staff yn teimlo’n anniogel oherwydd y bobl maen nhw’n gwethio ‘da n hw, neu oherwydd lleoliad, afalli bydd angen newid pethe ne rhoi terfyn ar y gwasanaeth. Os ‘dyn ni’n poeni am bethe fel hyn, byddwn ni’n siarad ‘da chi, eich gofalwyr a’ch Rheolydd Gofal.
Os ‘dych chi am dderbyn gwybodaeth am ein Polisi Iechyd a Diogelwch, ffoniwch 01792 476132.
Benthyciadau a Rhoddion
Gall Doorways Gorllewin Morgannwg ddod o hyd i broblemau pe bai staff yn derbyn benthyciadau a rhoddion. Mae hyn yn golygu na all staff:
- Dderbyn arian
- Dderbyn rhoddion
- Gael gynnig benthyg rhywbeth
I orffen, ddylai staff ddim elwa’n ariannol na derbyn ffafrau ar gyfer y gwasanaethau maen nh’w eu darparu. ‘Dyn ni’n dweud wrth staff i beidio â derbyn pethe, ac os ydyn nhw, maen’ nhw’n gallu bod mewn trafferth. Yr unig beth sy’n gallu cael eu derbyn yw pethe fel tun bisgedi adeg Nadolig sy wedi’i roi i Doorways fel sefydliad. Os ‘dych chi’n rhoi rhywbeth felly i Doorways, byddwn ni’n recordio’r ffaith.
Teithio
Gall staff ddefnyddio’u ceir eu hunain i gludo defnyddwyr gan eu bod nhw wedi’u hyswirio i’w wneud. Byddwn ni’n gwneud trefniadau teithio pan ‘dyn ni’n cwrdd i drafod eich cytundeb.
Telerau ac Amodau
Mae’r Arweinyddiaeth hyn yn gosod y telerau ac amodau y byddwn ni’n darparu eich cymorth odanyn nhw. Rhaid i chi a Doorways dal at y rhain.
Os nad ‘dych chi, byddwn ni’n cael gair gyda’ch Rheolydd Gofal i ddatrys y broblem..
Os ‘dyn ni’n torri’r amodau, dylech chi ddweud wrth Doorways, eich Rheolydd Gofal neu’ch Gofalwr/ perthynas i ni gywiro pethe. Os ‘dych chi’n anhapus gydag unrhyw beth, gallwch chi ddefnyddio’r dulliau gweithredu sy wedi’u nodi yn y ddogfen hon.
Mae Doorways yn cael eu harian gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe, a ‘dyn ni’n cytuno ‘da nhw pa fath o wasanaeth i ddarparu i chi. Byddwn ni’n cytuno ar hyn mewn cytundeb sy’n unigryw i chi. Byddwn ni’n edrych ar hyn bob chwe mis. Gallen ni wneud man newidiadau i’r gytundeb, ond efallai bydd angen cwrdd eto os oes rhaid i ni wneud newidiadau mawr.
Ac yn olaf
‘Dyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n hapus ‘da’r cymorth ‘dyn ni’n ei roi i chi. Os ‘dych chi am gael eich dweud, ffoniwch ni ar 01792 476132.
Edrychwch ar y dulliau gweithredu sy’n sôn am sut i Gwyno neu Ganmol. Os nad ‘dych chi’n deall rhywbeth, ffoniwch ni ar 01792 476132.
Os oes problem ‘da chi, neu os ‘dych chi am gael eich dweud, ffoniwch ni ar: 01792 476132
Llun-Gwener 9am-5pm
neu
07910 275 601
neu

Eich Rheolydd Gofal ar 01792 614100
Gallwch chi ffonio’r rhif hyn os oes ‘da chi broblemau ar unrhyw adeg.
neu
Llinell Gymorth Mencap ar 0800 8000 300
Maen’ nhw’n darparu cymorth ar llawer o bethe sy’n perthnasol i oedolion ag anabledd dysgu, a’u teuluoedd.
