Cyeiriad 347 Llangyfelach Road, Brynhyfryd, Swansea, SA5 9LQ Ffôn: 01792 476132 Ebost: mail@doorways.org.uk

ARWEINYDDIAETHAR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETH

Rhagfyr 2004

Adam Mason

Arweinydd Gwasanaeth Cynorthwyol: Adam Mason

Sut i gysylltu ‘da Doorways

Ffoniwch

Rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener 9am – 5pm ‘dych chi’n gallu cael gafael arna’ i neu Robin

Efallai ‘dych chi eisiau cyngor

(01792) 476132

Neu

07910 275 601

Gallwch chi hefyd ffonio’r rhifau hyn y tu allan i 9am-5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener os ‘dych chi’n derbyn cymorth.

Efallai ‘dych chi eisiau cyngor

Neu

Mae cwestiwn ‘da chi

Mae cwestiwn ‘da chi

Neu

Dych chi am ddweud rhywbeth am ein gwasanaeth

Dych chi am ddweud rhywbeth am ein gwasanaeth

Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch Gweithwyr Cynorthwyol os ‘dych ar fin derbyn cymorth.

Adam Mason

Rhif Adam yw 07910 275 602

Robin

Rhif Robin yw 07910 275 603

Ceisiwch y prif rifau’n gyntaf rhag of bod y ddau ohonyn nhw’n brysur neu’n

gyrru car.

Oes ‘na adeg pan an allwch chi siarad â rhywun?

Fydd neb ar gael i siarad â chi y tu allan i Dydd Llun i Ddydd Gwener,  9am-5pm (oni bai eich bod chi’n derbyn cymorth).

Dinas a Sir Abertawe

Os ‘dych chi am siarad ‘da rhywun ar frys ond ‘dych chi ddim yn gallu siarad ‘da

ni, ‘dych chi’n gallu ffonio Tîm Argyfwng Gwsanaethau Cymdeithasol Abertawe.

Y rhif yw (01792) 775501.

Adam Mason

Os oes unrhyw gwestiynnau ‘da chi, ffoniwch fi.

Adam Mason

Cytundeb Gwasanaethau

Cytundeb Gwasanaethau (ESIAMPL)

Fy Ngweithiwr Cynorthwyol

Support Worker Su Ll Ma Me I G Sa

Mae fy nghymorth ar ddydd Mawrth

Amser

Amser 2pm tan 3pm

Bydda i’n cael cymorth:

Siopa

Siopa

Trefnu arian

Trefnu arian

Cwyno a chanmol

‘Dyn ni am wybod os ‘dych chi’n hapus neu’n anhapus gyda’r cymorth ‘dyn ni’n ei roi i chi.

hapus

NEU

anhapus

Cysyltwch ‘da ni drwy

Siarad gyda’ch Gweithiwr Cynorthwyol Ffoniwch Ysgrifennwch

Beth ‘dyn ni’n ei wneud?

‘Dyn ni’n darparu gwasanaethau i oedolion sydd ag anabledd dysgu, yn Abertawe a’r cylch.

‘Dyn ni’n derbyn cyllid gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol

Dinas a Sir Abertawe.

‘Dyn ni ddim yn bodoli i ennill arian.

‘Dyn ni’n cael ein rhedeg gan grwp o bobl sy ddim yn cael eu talu – maen nhw am ddarparu gwasanaethau da i bobl Abertawe. Dyma’r Pwyllgor.

‘Dyn ni’n helpu pobl yn eu cartrefu nhw eu hunain, a ‘dyn ni’n cynnig cymorth gyda phethe fel:

Cyfarfod

Mae’n staff yn mynd ar gyrsiau’n reolaidd i sicrhau eu bod nhw’n gallu’ch helpu chi yn y ffyrdd goau posib.

‘Dyn ni hefyd yn darparu gwasanaethau asesu sgiliau i weld os oes angen help neu hyfforddiant arnyn nhw.

‘Dyn ni’n darparu gwasanaeth dod-i’ch-nabod-chi, ac mae hyn yn helpu pobl i baratoi ar gyfer byw gyda phobl newydd mewn llefydd newydd.

Cynorthwyo

‘Dyn ni’n darparu gwasanaethau mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu hariannu, a ‘dyn ni’n cytuno dilyn eu Meini Prawf Cymwysterol. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n dweud wrthyn ni beth ‘dyn ni’n gallu a methu darparu.

Cynorthwyo

Sut ‘dych chi’n derbyn ein gwasanaethau?

Drwy gael gair ‘da’ch Rheolydd Gofal, Nyrs Gymunedol neu Weithiwr Cymdeithasol. Os ydyn nhw’n cytuno bod angen cymorth arnoch chi, yna byddan nhw’n trefnu cyfarfod fel bod pawb yn gallu cytuno ar y ffordd orau i’ch helpu chi.

Arian

Ydyn ni’n codi tâl?

Nac ydyn, ond efallai bydd eich Rheolydd Gofal, Gweithiwr Cymdeithasol neu Nyrs Gymunedol yn gweld os oes rhaid i chi dalu. Byddan nhw’n edrych ar eich cynilion a budd-daliadau, a bydd y Rheolydd Gofal yn trefnu unrhyw daliadau. Efallai bydd rhywun yn gofyn i chi lenwi amserlen i gadarnhau maserau’r cymorth ‘dych chi wedi’i dderbyn.

Os ‘dych chi’n gallu talu, ‘dyn ni’n gofyn am £3 y sesiwn am ein Gwasanaethau Asesu, a hynny i dalu tuag at siopa, taliadau mynediad a bwyd. Bydd eich Gweithiwr Gofal yn casglu hyn ac yn rhoi derbyneb i chi.

Pryd bydd y gwasanaeth yn dod i ben?

Byddwn ni’n cytuno gyda chi a’ch Rheolydd Gofal i weld sut allen ni’ch helpu chi. Bydd eich gwasanaeth yn dod i ben os:

Os ‘dych chi am stopio, neu am ddweud rhywbeth am y cymorth ‘dyn ni’n ei ddarparu, d’wedwch wrth eich Gweithiwr Cynorthwyol, Rheolydd Gofal neu ffoniwch ni fel ein bod ni’n gallu penderfynnu ar beth i wneud nesa.

Efallai bydd eich Gweithiwr Cynorthwyol yn gofyn i chi lenwi amserlen neu ffurflen codi tâl. Byddwn ni’n dweud wrthych chi os oes angen i chi wneud hyn.

Ffoniwch

Efallai bydd angen i chi stopio’r cymorth os ‘dych chi’n sâl neu ar eich gwyliau. Os felly, rhaid i chi ddweud wrth eich Gweithiwr Cynorthwyol, neu ffoniwch ni cyn gynted ag sy bosib.