
Helo Bawb,
Croeso i Gylchlythyr mis Awst!
Hwyl fawr i NVQ a Helo i FfCCh!

Dyma rai o’r staff olaf i wneud NVQ! Mae Sue yn edrych ymlaen i sôn wrthych am y FfCCh.


Geiriau gan Rick a Chris

Croeso i Gylchlythyr llawn hwyl a sbri arall gyda llawer o straeon a lluniau sy’n dangos pawb yn cael hwyl. Hoffem ddweud hwyl fawr wrth Peter Thomas sy’n ymddeol ar ôl treulio 13 o flynyddoedd gyda ni. Mi fydd yn dod i ddweud helo bob hyn a hyn felly ni fydd yn ddyn diarth! Hoffem ddiolch iddo am ei holl waith caled a’i ymroddiad i’r Consortiwm. Mae’r Rheolwr Adnoddau Dynol newydd, Joanne Davies, wedi dechrau ar ei swydd felly hoffem ei chroesawu yn swyddogol i’r Consortiwm. Rwy’n siwr y dewch chi i’w hadnabod gydag amser—mae ei llun bellach ar wal y dderbynfa! Gobeithiaf y byddwch yn mwynhau’r erthyglau yn y cylchlythyr yma. Da iawn i Jane gan ei bod hithau wedi cymryd gwaith Debbie a bellach yn olygydd ac rwy’n siwr y gwnewch chi gytuno ei bod wedi gwneud gwaith da. Hefyd, diolch enfawr i Deb am olygu’r Cylchlythyrau blaenorol!
Diolch, Chris ac Rick
Ymgyrch Aelodaeth
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â’r Ymgyrch Aelodaeth. Mae gennym 146 o aelodau ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 34 o ddefnyddwyr gwasanaethau, 20 o berthnasau, 53 o staff, 8 asiantaeth broffesiynol gysylltiedig a 31 o bobl amrywiol.
Gall aelodau bleidleisio i helpu i wneud penderfyniadau a hefyd i ethol aelodau o’r Pwyllgor Rheoli. A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod?
Os oes gennych ddiddordeb, bydd angen ichi lenwi ffurfen gais, mae’r rhain ar gael gan Debbie Chegwen yn swyddfa’r Consortiwm. Bydd yn costio £1 a byddwch yn derbyn Tystysgrif Cyfranddaliadau trwy’r post.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu unrhyw erthyglau yr hoffech eu hychwanegu at ein Cylchlythyr nesaf cysylltwch â mi ar rif y swyddfa neu anfonwch e-bost at y cyfeiriad isod.

Debbie Chegwen
debbie.chegwen@communitylives.co.uk
Newyddion NVQ…...

“Llongyfarchiadau i’r staff sydd wedi cael cymwysterau NVQ ers Cylchlythyr y Gaeaf.”
“Da iawn a diolch yn fawr i’w haseswyr a weithiodd yn galed i’w helpu i gael y cymhwysterau hyn”
Sue Cole
Cydlynydd NVQ
Asesydd A1
Erica Jones
Ceri Joseph
Gofal Lefel 2
Anne Marie Jones
Rob Harris
Carol Williams
Nicola Day
Sarah Martin
Ella Trybalska
Bonita John
Tanya Michael Taylor
Sue Webb
Gemma Cole
Kim Howell
Theresa Milner
Charlotte Adams
Claire Short
Jonathan Thomas
Julie McGrath
Julian Thomas
Gofal Lefel 3
Claire Clement
Kelly McDonald
Alison Hicks
Rheolaeth Lefel 3
Donna Sarich
Pam Godwin
Chris Watts
Leanne Williams
Julie Thomas
Jill Cunliffe
Rheolaeth Lefel 4
Paul Gardner
Mandy Hopkins
Lefel 4
Shelley Davies
Joan Benbow
Julie Richards
Marina Burrows
Christian Cowap
NEBOSH
Deborah Chegwen
Ffarewel i’r NVQ
Ddydd Mercher 11 Mai 2011 cynhaliwyd y gweithdy NVQ olaf un o’r rhaglen NVQ ddiwethaf. Mae’r NVQ yn cael ei newid i’r FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau). Bydd rhaglen gweithdai FfCCh yn dechrau ym mis Medi ac mi fydd yn ddigon tebyg i’r gweithdai NVQ. Bydd y cymwysterau NVQ a gyflawnwyd ar hyd y blynyddoedd yn dal i gael eu cyfrif yn gymhwyster perthnasol.
Diolch i’r holl ymgeiswyr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu NVQ dros y 15 mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr i’r holl aseswyr sydd wedi asesu’r gwaith ac wedi cefnogi ac annog eu hymgeiswyr. Diolch hefyd i Goleg Gwyr Abertawe (yn flaenorol Coleg Abertawe) am eu cefnogaeth (a’u hariannu) dros y blynyddoedd.
Mae dros 500 o gymwysterau NVQ wedi cael eu cyflawni; gan gynnwys lefel 2, 3 a 4 mewn Gofal, lefel 3, 4 a 5 mewn Rheolaeth a lefel 2 a 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes.
Mae tua 88 aseswyr wedi’u hyfforddi ac wedi cyflawni D32/33 neu cymhwyster A1.
Isod gweler luniau o’r gweithdy NVQ olaf un.

Diwrnod Graddio NVQ
Cafodd seremoni Raddio ei chynnal ar 23 Mehefin yn Neuadd Sgeti i’r rheini a gyflawnodd NVQ lefel 4 a 5 mewn Gofal ac mewn Rheolaeth.
Fe wnaeth Kirsty Lincoln, Joan Benbow, Christian Cowap, Julie Richards,
Shelley Davies and Marina Burrows gyflawni Lefel 4 mewn Gofal.
Fe wnaeth Kirsty, Joan, Chris, Julie a Shelley fynychu’r seremoni ond yn anffodus ni allai Marina fynd. Fe wnaeth yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Ioan Richards a Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwyr Abertawe, Nick Bennet, gyflwyno’r tystysgrifau.
Cafwyd bwffe wedi’r cyflwyniad.
Diweddariad o’r Fforwm Perthnasau
Dod i ddeall y Ddeddf Galluedd Meddyliol: Caniatâd a’r pennaf les.
Cynhaliwyd Fforwm y Perthnasau ddydd Mercher 11 Mai 2011.
Ein gwestai am y noson oedd Chris Griffiths, Ymgyhghorydd Nyrsio i’r Gwasanaethau Anabledd Dysgu. Rhoddodd Chris gyflwyniad byr am ‘Dod i ddeall y Ddeddf Galluedd Meddyliol: Caniatâd a’r pennaf les’ i ddechrau gyda sgwrs anffurfiol i ddilyn am y Ddeddf Galluedd Meddyliol mewn ymarfer, a’r effaith a gaiff ar Ddefnyddwyr Gwasanaeth a’u teuluoedd.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr, yn darparu fframwaith statudol ar gyfer pobl sydd â diffyg gallu i wneud penderfyniadau dros eu hunain.
Mae’n datgan pwy all wneud y penderfyniadau, ym mha sefyllfaoedd a sut y dylid mynd ati i’w gweithredu. Fe dderbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2005, a daeth i rym yn ystod 2007.
Ystyr y term ‘person sydd â diffyg gallu’ yw person sydd â diffyg gallu i wneud penderfyniad penodol neu i gymryd cam penodol dros ei hunan yn ystod y cyfnod y bydd angen gwneud y penderfyniad neu fod angen gweithredu.
Athroniaeth sylfaenol y Ddeddf yw sicrhau bod unrhyw benderfyniad a gaiff ei wneud, unrhyw weithred a wneir ar ran rhywun sydd â diffyg gallu i wneud penderfyniad neu i weithredu dros ei hun, yn cael ei wneud er mwyn ei bennaf les.
Gall dod i benderfyniad am bennaf les rhywun arall fod yn anodd, ac mae’r Ddeddf yn gofyn i bobl ddilyn camau penodol i’w helpu i wybod os yw gweithred neu benderfyniad penodol o fewn pennaf les y person.
Bu sgwrs fer am rôl y Dirprwy Lles Personol;
Mae gan y Llys Gwarchod bwerau i benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd â diffyg gallu i wneud y penderfyniadau hynny.
Unwaith y caiff dirprwy ei benodi gan y llys, bydd y gorchymyn penodi yn nodi eu pwerau penodol a chwmpas eu hawdurdod.
Pan yn gwneud penderfyniadau, dylai’r dirprwyon ddilyn egwyddorion statudol y Ddeddf gan weithredu rhestr wirio y ‘pennaf les’, ac ni ddylent adael i’w barn bersonol ddylanwadu ar y penderfyniad.
Mae Chris wedi cynnig dod i siarad gyda ni eto ar y pwnc yma neu ar unrhyw bwnc materion iechyd yn nes ymlaen.
Yn hwyrach eleni, hoffem ddweud wrth berthnasau ynglyn â’n cynlluniau i ddarparu gwasanaeth mwy canolog i bobl a fydd yn ‘cefnogi pobl i fyw’r bywyd a ddewisant’ a’r modd mwyaf effeithiol o wneud hyn.
Peidiwch ag anghofio, os ydych eisiau codi unrhyw faterion gyda’r Cynrychiolwyr Perthnasau ar Y Bwrdd, ffoniwch Janice Connick-Evans, ar 01639 701040 neu Cliff Alden ar 01792 323295 neu os oes unrhyw bynciau yr hoffech inni eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, neu os hoffech ragor o wybodaeth ar y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig, gallwch ffonio Wendy neu Chris yn swyddfa’r Consortiwm ar 01792 646640

K101: Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cwrs AM DDIM a noddwyd gan UNSAIN a’r Brifysgol Agored
Os ydych yn gweithio yn rheng flaen gofal, bydd y cwrs yma yn codi eich hyder ac yn gwella’ch sgiliau, a bydd yn rhoi hwb i’ch gyrfa. Mae’r cwrs yn eich arwain trwy fywyd gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth gofal drwy ddefnyddio’r technegau rhyngweithiol diweddaraf a gyflwynir i chi gan y Brifysgol Agored. Byddwch yn cyflawni gweithgareddau cyson i gael eich meddwl ar waith—gan ddefnyddio eich syniadau a’ch profiadau eich hun er mwyn gwella’ch dysgu a’ch cynorthwyo i ddeall hanfodion arfer da.
Bydd y modiwlau’n cynnwys:

Gwobr Iechyd a Gofal 2010

Fe aeth Peter Thomas i’r Cinio a Dawns yng Ngwesty’r Village ym mis Mehefin i dderbyn gwobr gan Grwp Diogelwch Galwedigaethol Abertawe a Gorllewin Cymru am berffomiad diogelwch pwysig CBC yn 2010. Mae CBC wedi ennill y wobr hon ddwy flynedd yn olynol, felly da iawn i bawb yn CBC am eu hymrwymiad i gadw amgylchedd cartrefol ein gweithle a’n Defnyddwyr Gwasanaeth yn lle diogel i fod ynddo.

Cyfranogiad Tenantiaid 
Shwmai bawb,
Gobeithio eich bod yn mwynhau’r haf a’ch bod yn cael gwyliau da. Mi fûm yn yr Alban fis Mehefin ac roeddwn wrth fy modd. Roeddwn yng Nghaeredin a Perth.

Bu Sean a Paul o Orseinon ac aelod o staff yn Wembley yn gwylio Abertawe yn erbyn Reading ddydd Llun Gwyl y Banc

Llynedd, yn ystod Wythnos Anableddau Dysgu, fe gynhaliodd Awdurdod Lleol Castedd-nedd Port Talbot gystadleuaeth ffotograffiaeth. Thema’r gystadleuaeth oedd cwrdd â’ch cymdogion. Fe gystadlodd llawer a dyma luniau o’r enillwyr.



Da iawn i’r rheini sydd wedi gorffen y Cwrs Sgiliau Arwain.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn wythnosol ers mis Tachwedd y llynedd. Mae’r bobl sydd wedi mynychu’r cwrs wedi bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gymryd rhagor o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae wedi cynorthwyo pobl i fod yn fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau i fyw’r bywyd y maent yn ei ddewis. Fe wnaeth sawl un o’r sesiynau ddysgu’r grwp am wleidyddiaeth a sut y gallant fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir gan y
Llywodraeth. Cawsom ein gwahodd i ymweld ag adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd.

Dyma aelodau o’r grwp: Rebecca Evans, Linda Evans, Brian a Nicola Roberts a Lynne Coleman gyda Bethan Jenkins, AS Plaid Cymru yng Nghaerdydd

Mewn un sesiwn, fe wnaeth yr Heddlu ymweld â’r grwp i drafod troseddau casineb.

Mewn sesiwn arall, rhoddwyd gwybodaeth am y newidiadau i’r budd-daliadau a ddaw i rym yn fuan.

Aelodau’r grwp fydd y bobl gyntaf i Gyflawni cwrs ardystiedig Agored gyda CBC. Bydd y grwp yn derbyn eu tystysgrifau yng Nghyfarfod Blynyddol nesa’r Consortiwm.


Ym mis Ebrill, aeth Albert ac Alan o Abertawe ar wyliau i Benidorm am wythnos gydag aelodau o staff. Fe wnaethant fwynhau’r traeth a’r bwyd. Dywedodd Albert mai dim ond bwyd Prydeinig y gwnaeth ef ei fwyta!
Fe aethant i Valencia am y diwrnod ac fe welon nhw’r gadeirlan.
Yn ôl Albert roedd yn wyliau gwych ac roedd y daith ar yr awyren yn dda iawn.

Hoffem ddiolch i bawb am eu rhoddion hael o gyfarpar ac offer. Mae’r rhandir yn dod yn ei flaen yn dda ac rydym yn gobeithio gwerthu rhai o’r llysiau yn y dyfodol. Rydym wedi tyfu popeth o’r had megis tatws, ffa, tomatos a letys ac mae gennym gnwd da o lysiau’r gaeaf hefyd.
CADWCH LYGAD!
Noson mas Rhwydwaith 5 wedi ei drefnu gan Pam a Diane.
‘Cawsom gacen Priodas Frenhinol a parêd Boned Pasg.’



Ym mis Mai, cafodd ambell un o Rwydwaith 5 eu cyfarfod cyntaf yn Abertawe. Pwrpas y cyfarfod oedd dewis ble a phryd y byddai noson mas nesaf y rhwydwaith, a beth fyddai thema’r noson.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Gethin Bibbs ac fe gyfrannodd pawb. Wedi’r cyfarfod fe wnaethant fwynhau bwffe a sgwrs. Y penderfyniad oedd mai ym mis Gorffennaf y byddai’r noson mas nesaf ac mai Cymru fyddai’r thema.
Cafwyd noson dda ac fe wnaeth y bobl rydym yn eu cefnogi ofyn a fyddai modd inni ddod at ein gilydd yn amlach.



David yn ceisio gweld Barcudiaid Coch (adar) ac yn mwynhau’r heulwen ar ei wyliau yng Ngorllewin Cymru

David yn mwynhau ei daith mewn cwch yng Nghei Newydd, Gorllewin Cymru gan edrych am Ddolffiniaid
a Morloi
Y staff a aeth: Roger Liles a Jessica Geary

Fe fynychodd Sonia Lascelles o Orseinon briodas ei chwaer ar 6 Mai yn Oldwalls Leisure yn Llanrhidian, ac fe aeth Jenny Francis, cydlynydd cefnogaeth, gyda Sonia.
Cafodd Sonia ddiwrnod gwych yn gwylio ei chwaer Heather yn cerdded lawr yr eil tuag at ei darpar wr Andy. Roedd Sonia yn falch o weld ei rhieni a’i mamgu a oedd wedi teithio o Stoke i fod yn y briodas. Cafodd Sonia gyfle hefyd i gymdeithasu gyda llawer o’i theulu a’i ffrindiau nad oedd wedi eu gweld ers blynyddoedd.

Wedi’r seremoni, cafodd Sonia luniau wedi eu tynnu gyda’i theulu, ac fe wnaeth Jenny fideo o’r diwrnod gan ddefnyddio’r camera fflipio. Rwy’n siwr y bydd Sonia yn mwynhau gwylio’r fideo yn y dyfodol. Yn hwyrach, eisteddodd Sonia tu fas yn yr haul gyda gwydriad o Pimms tra’n sgwrsio gyda’i theulu ac yn gwrando ar ei mamgu yn hel atgofion. Yna, daeth hi’n amser gadael, ac fe aeth Sonia i ffarwelio â’i theulu a’i ffrindiau. Ar y ffordd adref, cafodd Sonia damaid i’w fwyta cyn dychwelyd adref. Ar y cyfan, cafodd Sonia ddiwrnod bendigedig gyda llawer o luniau a fideo i gofio’r achlysur.



Dyma Malcolm yn edrych ar rym taro’r Fyddin Brydeinig ar gyfer pan fydd yn ymuno â hwy yn y dyfodol agos. Egwyl am goffi yn Windsor wedi taith y castell. Does dim tebyg i egwyl fach ar ddiwrnod da!

Malcolm yn cael cinio wedi prynu ambell anrheg o stondinau’r strydoedd

Malcolm yn astudio hanes Castell Windsor. Mae hefyd yn cynllwynio sut i’w oresgyn!
Y staff a aeth: Thomas Lynch a Peter Dowding

Bruce Owen o Bontardawe
Fe es i ar yr awyren i Dwrci, ac fe gefais amser gwych. Cyngynted ag y gwnes i fyrddio’r llong, fe wisgais fy siorts a chrys-t yn barod i weld yr haul gyda Tina a Joan. Eisteddais ger y pwll yn ystod y dydd a chystadlu yn y cwis. Roedd Tina a Joan yn anobeithiol wrth ateb y cwestiynau. Fe wnes i ateb mwy na nhw.
Bob nos fe aethom am bryd o fwyd neis. Fe ges i dynnu fy llun gyda chapten y llong.

Yn yr Aifft, aethom i’r farchnad ac fe brynais oriawr i mi fy hun, ac ychydig o anrhegion i’r bobl rwy’n byw gyda nhw. Fe aethom hefyd i Gyprus ble cwrddon ni â merch Joan. Aeth hi â ni o gwmpas ac fe gawson ni ddiwrnod da. Ces i ddefnyddio ei phwll nofio ble y gwnes i wlychu fy nhraed. Ar y llwyfan un noson roedd digrifwraig o’r enw Brenda. Roedd hi’n edrych yn debyg i Cilla Black.
Roedd hi’n ddynes neis iawn. Dyma lun ohonom.
Aethom i weld rhyfeddodau yn Alanya, ac fe wnes i orffen fy siopa gan ein bod yn mynd adref y diwrnod canlynol. Hoffwn ddweud fy mod wedi mwynhau fy ngwyliau yn fawr ac rwy’n edrych ymlaen at y nesaf yn barod.


Dyma Lisa o Gastell-nedd yn plannu blodau i fywiogi’r ardd.

Mae Cath Rees o Bontarddulais wedi bod yn mynychu’r Ganolfan yng Ngorseinon. Mi fu ar gwrs gwneud gwydr a gemwaith am 10 wythnos a gostiodd £50. Cafodd ei gynnal ar brynhawniau Llun o 12.30 tan 3.00. Fe wnaeth hi fwynhau’r cwrs gymaint, mae wrthi bellach yn gwneud ei hail gwrs. Mae Cath yn gwneud gemwaith gartref yn ei hamser hamdden.

![]()

Ym mis Mai, fe aeth Stuart Wilde o Fforestfach ar ei wyliau i Aberdyfi ac fe arhosodd yng Ngwesty Trefeddian. Aeth aelodau o staff, sef Wendy a Zoe, gydag ef.
Fe gawson nhw amser gwych. Roedd y gwesty yn grand iawn ac roedd rhaid i ni wisgo’n smart ar gyfer swper. Dyma lun o Stuart tu fas i’r gwesty yn ei siwt yn barod ar gyfer swper a oedd o safon uchel.

Fe wnaethom ymweld â thref Aberdyfi sydd â siopau, harbwr a thraeth neis iawn. Bwytaom hufen iâ cartref blasus iawn ar y traeth wedi i ni fod o gwmpas y dref.

Enw’r pentref nesaf yw Talyllyn, ac mae yno drên stêm sy’n mynd yr holl ffordd i fyny’r mynydd i mewn i Eryri gyda golygfeydd godidog. Roeddem yn lwcus iawn gyda’r tywydd yr wythnos honno!
Dyma Christopher Hughes a aeth i Borthcawl ble’r arhosodd mewn carafan wedi ei haddasu yn ystod ei wyliau Sulgwyn. Cafodd Chris amser da. Fe wnaeth fwynhau cwrw nosweithiol yn y ty clwb ym Mae Trecco, ac fe aeth i gwrs rasio Ffos Las a llefydd eraill o amgylch de Cymru.


Fe gynhaliodd Pobl Abertawe yn Gyntaf eu Ffair Iechyd ar 17 Mehefin 2011 yn Stadiwm Liberty. Bu’n llwyddiant unwaith eto. Dyma ychydig o luniau.



Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i Rwydwaith 1. Cynhaliwyd y parti yng nghlwb Ffordd Brighton yng Ngorseinon ddydd Llun, 18 Ebrill.
Fe weithiodd y bobl rydym yn eu cefnogi a’r staff yn galed i greu dyluniadau unigryw a gwahanol, a hetiau ac addurniadau bwrdd gyda chrefftwaith o safon uchel.

Fe wnaeth Robin Savours o Orseinon, y ‘Swyddog Adloniant’ drefnu’r bingo a’r raffl. Fe gafodd pob un o’r rheini rydym yn eu cefnogi wyau Pasg a gwobrau.
Fe gafodd pawb noson wych ac rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf.

Lluniau gan Clive Jeffries o Orseinon
Diolch am rannu eich storïau. Os hoffech ragor o wybodaeth ar y storïau rydych wedi darllen amdanyn nhw cysylltwch â mi ar 01792 646640 neu anfonwch e-bost ataf.
julie.davies@communitylives.co.uk
Julie Davies
Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid
Newyddion Trist……...
Mr Geraint Howells
Ym mis Mawrth, trist ydoedd i deulu, staff a ffrindiau Mr Geraint Howells, Heol Illtyd gyhoeddi ei farwolaeth. Roedd Geraint yn hoffus, yn frawd rhagorol i Jan a Ray ac yn bartner annwyl i Margaret. Hoffai fynd i gefnogi’r Gweilch yn chwarae ac roedd yn hoff iawn o fynychu’r Gofal Dydd. Roedd ei chwerthin a’i hiwmor yn heintus ac mae colled enfawr ar ei ôl.
Gorffwys mewn hedd Geraint.
Fflach Newyddion Gwyrdd!
Pa mor fawr yw’ch traed chi?
Dewch i ddarganfod ychydig am faint eich ôl troed carbon gyda’r cwis cyflym yma…….
Newid dwylo ar gyfer Cylchlythyr START….Bydd Jane Devoy yn cymryd awenau’r
cylchlythyr yn awr. Diolch yn fawr i bawb am eu straeon y cefais gymaint o bleser yn eu darllen a’u rhoi at ei gilydd ar eich cyfer!! POB LWC JANE!!
Diolch i bawb a wnaeth ddod a’u straeon ataf, roedd hi’n wych darllen am yr holl hwyl rydych wedi bod yn ei gael ar eich gwyliau a’r partïon!
Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y Cylchlythyr yma gymaint ag y gwnes i fwynhau ei baratoi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu unrhyw erthygl yr hoffech chi eu hychwanegu i’r Cylchlythyr nesaf, cysylltwch â fi yn y swyddfa ar y rhif isod neu anfonwch e-bost ataf:
jane.devoy@communitylives.co.uk
Dyddiadau i’ch Dyddiadur |
Lleoliad |
Dyddiad |
Amser |
Cyfarfod Is-grwp staff (nid fforwm) |
Ystafell y Bwrdd |
10.08.11 | 10.00 a.m. |
Cyfarfod Pwyllgor Rheoli |
Ystafell y Bwrdd |
16.08.11 | 14.00 p.m. |
Cyfarfod Cydlynwyr Tai |
Ystafell y Bwrdd |
30.09.11 | 10.00 a.m. |
Cyfarfod Grwp Bywydau Tenetiaid |
Ystafell Hyfforddi |
25.08.11 | 10.00 a.m. |
FFORWM Staff |
Ystafell Hyfforddi |
14.09.11 | 10.00 a.m. |
Fforwm Cydlynwyr Gwasanaethau |
Ystafell Hyfforddi |
05.10.11 | 10.00 a.m. |
FFORWM Cydlynwyr Tim |
Ystafell Hyfforddi |
01.11.11 | 14.00 p.m. |
Bydd Swyddfa Heol Walter ar gau dros y Gwyliau Banc canlynol: |
|||
