Ar gyfer pwy mae’r polisi Cwynion a Chanmoliaeth hwn?
Gall unrhyw un ddefnyddio’r wybodaeth hon i wneud cwynion neu roi canmoliaeth. Gallech chi fod yn:
• Ddefnyddiwr Gwasanaeth, neu’n ffrind neu’n aelod o deulu defnyddiwr gwasanaeth.
• Aelod o staff y Consortiwm, neu rywun sy’n gweithio i gorff arall.
• Aelod o’r cyhoedd.
Beth yw Cwynion a Chanmoliaeth?
Cwynion
Cwyn yw pan fyddwch chi’n dweud wrth rywun am rywbeth sy’n eich gwneud yn anhapus neu’n eich cynhyrfu, ac yn gofyn iddyn nhw eich helpu i’w ddatrys.
Os byddwch chi’n gwneud cwyn, byddwch am i’r Consortiwm wrando arnoch chi a dweud wrthych chi beth maen nhw’n mynd i’w wneud ynglyn â’ch cwyn.
Rydych chi am i’r Consortiwm eich trin yn deg a’ch cadw yn ddiogel os byddwch chi’n gwneud cwyn, yn enwedig os ydych chi’n cwyno am y person sy’n rheoli eich gwasanaeth.
Canmoliaeth
Canmoliaeth yw pan fyddwch chi’n dweud wrth rywun pan mae’r Consortiwm wedi gwneud rhywbeth sy’n eich gwneud chi’n hapus neu’n fodlon.
Gallwch chi ddweud wrth unrhyw un o reolwyr neu aelodau o staff y Consortiwm a byddan nhw’n cofnodi eich canmoliaeth ac yn cadw copi.
Mae Cwynion a Chanmoliaeth yn helpu’r Consortiwm i wella ei wasanaethau.
Mae’r Consortiwm eisiau gwybod pan mae rhywun yn anhapus gyda’i wasanaethau a phan mae angen i bethau gwella.
Mae’n siomedig pan na fyddwn ni’n gwneud yn dda, fodd bynnag, dim ond drwy ddatrys y pethau hyn y byddwn ni’n gwella.
Fel pawb, rydym ni bob amser yn hoffi derbyn canmoliaeth.
Os oes gennych chi amheuon, siaradwch amdanyn nhw
Siarad gyda rhywun o’r Consortiwm
Os ydych chi’n anhapus a’ch bod eisiau dweud wrth rywun am eich cwyn, neu pan fyddwch chi’n meddwl bod rhywbeth yn dda, gallwch chi siarad gydag aelod o staff unrhyw bryd.
Gallwch chi hefyd ddweud wrth y staff os ydych chi’n hapus neu’n anhapus unrhyw bryd, neu yn ystod cyfarfod amdanoch chi.
Efallai y byddwch chi am gael cymorth er mwyn siarad gyda staff, gan eich ffrindiau, eich teulu, eich Gweithiwr Cymdeithasol neu’ch Nyrs Gymunedol neu rywun arall rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.
Siarad gyda rhywun y tu allan i’r Consortiwm
Nid oes yn rhaid i chi siarad gyda staff y Consortiwm os ydych chi’n anhapus ynglyn â rhywbeth. Gallwch chi siarad gyda rhywun nad yw’n gweithio i’r Consortiwm a gofyn iddyn nhw edrych ar eich cwyn.
Mae yna bobl y gallwch chi siarad gyda nhw ac maen nhw wedi’u rhestru ar ddiwedd y daflen hon.
Os nad dw i’n hapus ‘da’r ffordd mae’r cwyn yn cael ei ddelio ag ef, galla i wneud cwyn ffurfiol.
A ddylech chi sôn am eich cwyn wrth staff y Consortiwm neu rywun nad yw’n gweithio i’r Consortiwm?
Eich dewis chi yw pa un a fyddwch chi’n siarad gyda staff y Consortiwm neu rywun nad yw’n gweithio i’r Consortiwm.
Byddem yn awgrymu ei bod yn well siarad gyda rhywun nad yw’n gweithio i’r Consortiwm:
• Os yw’n ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd o’r blaen ac nad yw’r Consortiwm wedi’i ddatrys yn y ffordd rydych chi ei heisiau.
• Os yw’n ymwneud â rhywbeth sydd wedi eich cynhyrfu chi, neu gynhyrfu rhywun arall, yn ddifrifol neu wedi’u rhoi mewn perygl.
• Os yw’r broblem wedi’ch stopio rhag ymddiried yn y Consortiwm a’ch bod yn teimlo na fyddan nhw’n eich trin chi’n deg.
Mae hyn yn bwysig iawn os yw’n ymwneud â rheolwr y gwasanaeth rydych chi, neu rywun rydych chi’n poeni amdanyn nhw, yn ei ddefnyddio.
Siarad gyda rhywun sy’n gweithio i’r Consortiwm.
Os ydych chi am siarad gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi.
Siaradwch gydag aelod o staff y Consortiwm rydych chi’n ei (h)adnabod yn dda. Byddan nhw’n gwrando ar eich cwyn ac yn ei chofnodi.
Byddan nhw’n gweithio gyda Rheolwr Contractau er mwyn datrys eich cwyn. Byddan nhw’n dod nôl atoch chi o fewn 14 diwrnod er mwyn cytuno gyda chi sut byddan nhw’n datrys eich cwyn.
Byddan nhw’n cofnodi beth rydych chi wedi’i gytuno mewn ffordd y gallwch chi ei deall.
Os nad oes modd ei datrys o fewn 14 diwrnod, gallan nhw ddod nôl atoch chi a chytuno ar 14 diwrnod arall.
Os ydych chi am siarad gyda rhywun yn swyddfa’r Consortiwm
Os ydych chi’n anhapus ynglyn â sut mae’r staff sy’n gweithio gyda chi wedi delio gyda’ch cwyn, neu os nad ydych chi am siarad gyda’r staff sy’n gweithio gyda chi, gallwch chi siarad gyda Chyfarwyddwr y Consortiwm.
Gallwch chi ffonio’r Consortiwm a gofyn am gael siarad gyda’r Cyfarwyddwr.
Y rhif i’w ffonio yw 01792 646640
Bydd y Cyfarwyddwr yn gofyn i Uwch Reolwr ddatrys eich cwyn. Byddan nhw’n dod nôl atoch chi o fewn 14 diwrnod er mwyn cytuno gyda chi sut byddan nhw’n datrys eich cwyn.
Byddan nhw’n cofnodi beth rydych chi wedi’i gytuno mewn ffordd y gallwch chi ei deall.
Os nad oes modd datrys eich cwyn o fewn 14 diwrnod, gallan nhw ddod nôl atoch chi a chytuno ar 14 diwrnod arall.
Siarad gyda rhywun y tu allan i’r Consortiwm.
Os ydych chi’n anhapus ynglyn â sut mae’r Consortiwm wedi delio gyda’ch cwyn, neu os nad ydych chi am siarad gyda’r Consortiwm ynglyn â’ch cwyn, gallwch chi siarad gyda rhywun y tu allan i’r Consortiwm.
Dywedwch wrth Gyfarwyddwr y Consortiwm eich bod am siarad gyda rhywun y tu allan i’r Consortiwm.
Bydd y Cyfarwyddwr yn gofyn i’r Pwyllgor Rheoli gytuno gyda chi ar rywun nad yw’n gweithio i’r Consortiwm a all edrych ar eich cwyn.
Beth fydd yn digwydd wedyn?
Bydd y person hwn yn ymchwilio i’ch cwyn.
Byddan nhw’n siarad gyda chi ac efallai byddan nhw’n cwrdd â phobl eraill sy’n ymwneud â’ch cwyn.
Efallai byddan nhw’n edrych ar adroddiadau neu wybodaeth a fydd yn helpu i ddangos beth sydd wedi digwydd.
- Byddan nhw wedyn yn llunio adroddiad ar yr hyn sydd wedi digwydd a’r hyn y dylai’r Consortiwm ei wneud er mwyn ymdrin â’ch cwyn.
- Byddant yn ysgrifennu’r hyn sydd wedi’i gytuno gennych mewn modd sy’n hawdd i chi ei ddeall.
Byddant yn sôn wrthych sut y maen nhw’n credu y dylai’r Consortiwm ymdrin â’ch cwyn o fewn 35 o ddiwrnodau. Os nad ydynt yn medru gwneud hyn byddant yn dweud wrthych ac yn gofyn am hyd at 35 o ddiwrnodau ychwanegol.
Pwy arall allai ymwneud â’m cwyn?
Weithiau, gall cyrff eraill ymwneud â chwynion. Gallai hyn fod oherwydd:
Gallem ymchwilio i staff y mae eich cwyn yn ymwneud â nhw er mwyn gweld a oes angen cymryd camau disgyblu
Gallai’r Heddlu gael eu cynnwys, os yw’r gyfraith wedi’i thorri.
Gallai’r Heddlu gael eu cynnwys, os yw’r gyfraith wedi’i thorri.
Mae hyn yn golygu y gallent dderbyn rhybudd gennym ni neu, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallem eu hatal rhag gweithio i’r Consortiwm.
Gallai Gwasanaethau Cymdeithasol ymchwilio os yw’n bosibl bod rhywun wedi’i g/cham-drin.
Gallai hyn olygu bod rhywun wedi’i f/bwrw, bod rhywun wedi siarad gyda nhw mewn ffordd angharedig, neu weiddi arnyn nhw. Gallai hefyd olygu bod rhywun wedi cymryd eu pethau neu’u harian.
Os bydd asiantaethau eraill yn cael eu cynnwys, efallai bydd angen i’r Consortiwm beidio ag edrych ar eich cwyn tra bod y bobl eraill hyn yn ymwneud â hi.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd y rheolwr sy’n ymwneud â’ch cwyn yn esbonio hyn i chi.
Byddant yn cadw cofnod o’r rheswm pam fod hyn yn digwydd a’r adeg y byddwn ni’n disgwyl y gallwn edrych eto ar eich cwyn.
Pwy yw’r bobl eraill y tu allan i’r Consortiwm y gallwch chi gyflwyno eich cwynion iddyn nhw?
Gallwch chi gyflwyno eich cwynion i: 
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Mae AGGCC yn adran o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod y Consortiwm yn darparu gwasanaeth da ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Os ydych chi’n dymuno gwneud felly, gallwch ddweud wrth AGGCC unrhyw bryd pan fyddwch chi’n hapus neu’n anhapus gyda’ch gwasanaeth neu’ch cartref.
![]()
![]()
Swyddfa Ranbarthol De Orllewin Cymru
Unedau C a D, Pentref Busnes Tawe
Parc Anturiaeth Abertawe
ABERTAWE, SA7 9LA
Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae yna daflen sy’n rhoi gwybod i bobl sut i gyflwyno cwyn i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Gallwch chi ofyn i Staff y Consortiwm, Gweithwyr Cymdeithasol neu Nyrsys Cymunedol gael copi o’r daflen hon i chi.
Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe
Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot

Cymorth a chyngor y gallwch chi eu cael gan bobl eraill y tu allan i’r Consortiwm
Gallwch chi gael cymorth gan y cyrff hyn hefyd: -
Pobl yn Gyntaf Abertawe (01792) 467676
Pobl yn Gyntaf CNPT (01639) 646222
Mencap Cymru 0808 800 300
Gwasanaeth Cyfranogiad Abertawe (01792) 653666


