Cyfeiriad: 24 Heol Walter, Abertawe Ffôn: 01792 646640 Ebost: info@communitylives.co.uk
Consortiwm Bywydau Cymunedol

Dyma fan lle gallaf gael gwybodaeth am y consortiwm

Bydd yn dweud wrthyf:

Beth yw’r Consortiwm?

Consortiwm Bywydau Cymunedol

Yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd ag anabledd dysgu ac sydd am fyw yn yr ardal leol.

Nid yw cyfundrefn y Consortiwm yn gwneud elw. Mae’n cael arian gan yr Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai, ac mae tâl yn cael ei godi ar denantiaid, sy’n dibynnu ar y budd-daliadau maen nhw’n eu derbyn.


Ble mae’r Consortiwm yn Gweithio?

Mae’r Consortiwm yn rhoi cefnogaeth mewn dwy ardal:

Mae’n gyfundrefn sy’n helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i:

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd ar ran Tenantiaid, mae’r Consortiwm yn gweithio gyda:

Pwy sy’n Rheoli’r Consortiwm?

Y Pwyllgor Rheoli

Pam Evans


Person Cyfrifol

Dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, er mwyn inni weithredu fel asiantaeth ofal cartref mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn bod gan rywun y cyfrifoldeb am reolaeth gyffredinol. Dyma’r ‘Person Cyfrifol’.

Person Cyfrifol y Consortiwm yw:

Enw: Rick Wilson Teitl ei swydd: Prif Weithredwr

Cymwysterau a Phrofiad Perthnasol: Mae gan Rick radd mewn Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth ac mae’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig .

Mae ganddo 17 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu yn y meysydd o: gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain; cyfranogi ac eiriolaeth; datblygu cartrefi newydd, gofal yn ystod y dydd a gwasanaethau ail-leoli pobl; hyfforddi staff; a chontractio a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer Awdurdod Lleol.

Rick Wilson

Yn ystod y naw mlynedd diwethaf mae Rick wedi gweithio i’r Consortiwm â’r cyfrifoldeb am reoli, monitro a datblygu ei wasanaethau i denantiaid, mae wedi bod yn Brif Weithredwr am dair blynedd.

Beth sy’n Digwydd os nad yw’r Person Cyfrifol yn y gwaith?

Os nad yw Rick yn mynd i fod yn y gwaith am 28 diwrnod neu fwy, mae gan y Consortiwm reolwyr eraill a fydd yn gwneud ei waith, sef:

Enw: Christine Brian Teitl ei Swydd:Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cymunedol

Cymwysterau a Phrofiad Perthnasol: BA(Anrh) Gwyddorau Cymdeithasol - Aseswyr NVQ D32/D33 NVQ Lefel 4 Rheolaeth

Rheolaeth15 mlynedd o brofiad yn y maes anabledd dysgu, yn amrywio o waith gwirfoddol, Gweithiwr Cymorth, Rheolwraig Gofrestredig, Rheolwraig Perfformiad, Rheolwraig Gweithredu a Chyfarwyddwraig Gwasanaethau Cymunedol Christine Brian

Mae gan Christine y cyfrifoldeb am y gwasanaethau cymorth a strwythur rheoli gweithredu CTGM/CLC

Enw: Alice O' Sullivan
Teitl ei swydd:Rheolwraig Gweithredu

Cymwysterau a Phrofiad Perthnasol : SEN Meddyliol CSS (Tystysgrif Gwasanaethau Cymdeithasol) 5 mlynedd o brofiad nyrsio iechyd meddyliol 16 mlynedd yng ngofal preswyl gyda phobl hŷn 1 blwyddyn fel gweithiwr cymdeithasol yn y maes 5 mlynedd gyda Landlord Cymdeithasol Cofrestredig 2 flynedd gyda CTGM/CLC fel Rheolwraig Gweithredu

Alice O' Sullivan

Mae gan Alice y cyfrifoldeb am redeg y gwasanaethau cymorth o ddydd i ddydd ac mae’n rheoli’r Rheolwyr Contract.

Staff eraill y Consortiwm

Gweithwyr Allweddol Fy ngweithiwr allweddol i fydd Gweithiwr Cymorth rwy’n cyd-dynnu’n dda â nhw. Dylen nhw fod yno i mi pan rwyf am siarad am y gwasanaeth, y pethau rwy’n eu heisiau, a’r pethau rwy’n eu hoffi neu’n eu casáu.

Cydlynwyr Gwasanaeth Mae Cydlynwyr Gwasanaeth yn rheoli Gweithwyr Allweddol. Mae Cydlynwyr Gwasanaeth yn rheoli peth o’r arian sy’n talu am fy ngwasanaeth i

Cydlynwyr Tîm Mae Cydlynwyr Tîm yn gweithio gyda grwp o wasanaethau oddi mewn i rwydwaith Rheolwyr Contract, a byddan nhw’n sicrhau bod digon o staff da i ddarparu fy ngwasanaeth.

Cydlynwyr Cymorth Tai Maen nhw’n gweithio gyda grwp mwy o denantiaid, ac yn sicrhau byddan nhw’n cwrdd â’m hanghenion i o ran ty. Bydd hyn yn sicrhau fy mod yn aros yn ddiogel yn fy nghartref fy hun.

Housing Support Co-ordinator

Rheolwyr Contract Maen nhw’n goruchwylio’r holl reolwyr a’r staff ac yn sicrhau bod fy ngwasanaeth fel y dylai fod. Mae Rheolwyr Contract yn rheoli grwp bach o wasanaethau. Mae Rheolwyr Contract hefyd yn Rheolwyr Cofrestredig gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.


Contract Manager

Staff Swyddfa CTGM/CLC Mae staff hefyd yn gweithio yn swyddfeydd y Consortiwm ar Heol Walter. Mae’r staff yn helpu mewn nifer o ffyrdd gwahanol fel talu cyflogau staff, hawlio budd-daliadau ar gyfer tenantiaid, rheoli arian a hyfforddi a.y.b.

WGHC Office Staff

Gallwch ofyn i’ch staff am gopi o lyfryn Pwy yw Pwy y Consortiwm, a fydd yn dweud mwy wrthych am y bobl sy’n gweithio yn ein swyddfa a beth maen nhw’n ei wneud.

Mae pob un o’r rheolwyr a staff y Consortiwm am weithio gyda:

Sut Allwch Chi Ddweud eich Dweud?

Mae’r Consortiwm am i CHI ddweud eich dweud am y pethau sy’n digwydd yn eich bywyd ac am y cymorth a’r gwasanaeth rydych yn ei gael ganddyn nhw.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch wneud hyn: