Cyfeiriad: 24 Heol Walter, Abertawe Ffôn: 01792 646640 Ebost: info@communitylives.co.uk

Manylion Asiantaeth

Consortiwm

Mae Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg (galwyd Y Consortiwm) yn gyfundrefn ddi-elw gyda statws elusen sy wedi’i chofrestru gyda’r Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, rhif 26673R.

Mae’r Consortiwm yn darparu cymorth i oedolion ag anabledd dysgu drwy weithio mewn partneriaeth ag Asiantaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.

Ardal daearyddol rydym yn darparu gwasanaethau ynddi

Mae’r Consortiwm yn darparu cymorth yn yr ardaloedd hyn:

Dinas a Sir Abertawe

Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Nedd Porth Talbot.

Cyngor Bwrdeistref Nedd Porth Talbot.

Nodau ac Amcanion

Nôd y Consortiwm yw darparu cymorth i bobl sy am fyw bywydau llwyddiannus yn y gymuned. Mae’r Consortiwm yn darparu gwasanaethau dan gytundeb i Ddinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Nedd Porth Talbot. 

Mae’r awdurdodau lleol yn cytuno ar gynllun gofal sy’n unigryw gyda phob defnyddiwr a’i gynrychiolydd.  I ateb gofynion y cynllun mae’r Consortiwm yn darparu:

 

Adroddiad

Cynllun Cyflawni Gwasanaeth sy’n gosod sut y bydd y Consortiwm yn bodloni anghenion a dyheadau defnyddwyr gwasanaeth fel y nodwyd yn y cynllun gofal.

Staff

Hyfforddir tîm o staff sy’n helpu’r person fwynhau ei fywyd a chynnal ei denantiaeth. Nid yw’r Consortiwm yn darparu gwasanaethau ond drwy ei staff ei hun.

 

Staff

Penodaeth a gwasanaethau rhoi cyngor ar budd-daliadau i helpu’r bobl reoli eu harian.

 

Gwasanaethau Cymorth Seicolegol sy’n helpu pobl gwneud y gorau o’u bywydau hyd yn oed os ydynt yn berchen ar ymddygiadau sy’n gwneud hyn yn anodd

Gwasanaethau Cymorth Seicolegol sy’n helpu pobl gwneud y gorau o’u bywydau hyd yn oed os ydynt yn berchen ar ymddygiadau sy’n gwneud hyn yn anodd.

Annedd

Gwasanaethau Rheoli Ty sy’n cynorthwyo pobl wrth iddynt fyw yn eu tai eu hunain.  I sicrhau bod cartrefi pobl yn ddiogel, ac yn ymgynghori pobl i sicrhau eu bod yn byw o fewn termau eu cytundebau tenantiaeth.

Cynhaliwr

Cymorth i gael y drafnidiaeth gywir iddynt fwynhau eu bywydau yn y gymuned yn ddiogel.

 

Manylion Cyswllt yr Asiantaeth

Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg
24, Heol Walter
Abertawe
SA1 5NN

Ffôn -01792 646640

Ffacs - 01792 476436

Ebost- info@communitylives.co.uk

Gwe - www.wghc.co.uk

Pwy sy’n rheoli’r Asiantaeth?

Mae gan y Consortiwm bobl sy’n cwrdd i benderfynnu sut bydd y Consortiwm yn cael ei redeg.  Enw’r bobl hyn yw’r Pwyllgor Rheoli.

Mae gan y Pwyllgor Rheoli gyfrifoldeb i oruchwylio rheolaeth Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg.

Gall aelodau’r Pwyllgor gwrdd bob blwyddyn gyda defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt drafod gyda defnyddwyr gwasanaeth a staff unrhyw bryderon maent yn eu gwynebu, ac i ddarganfod sut y gall y Pwyllgor helpu.

Cewch weld lluniau a gwybodaeth am aelodau’r Pwyllgor yn nogfen y Consortiwm, ‘Who’s Who’. Cewch gopi o’r ddogfen gan unrhyw wasanaeth, ein swyddfa ganolog neu drwy fynd i’n gwefan: www.wghc.co.uk

Person Cyfrifol

Dan amodau Deddf Safonau Gofal 2000, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru gofyn bod rhaid gael rhywun â chyfrifoldeb cyn gweithredu fel asiantaeth gofal trigfannol. Dyma’r Person Cyfrifol. 

Person Cyfrifol y Consortiwm yw:

 

Rick Wilson

Enw:  Rick Wilson

Teitl Swydd: Prif Weithredwr

Cymwysterau a Phrofiad:

Teitl Swydd: Prif Weithredwr

Cqsw

Mencap Homes Foundation 1986-1987

1 flwyddyn CQSW 1987-1998

Swyddog Datblygu Fforwm Gorllewin Morgannwg 1988 – 1990

Gwasanaethau Cymdeithasol 1990 – 1995

WGHC Cyfarwyddwr Gweithredu 1995 – 2001

WGHC Preif Weithredwr 2001 - presennol

Trefniadau ar gyfer absenoldeb Person Cyfrifol

Os yw’r Person Cyfrifol yn mynd i fod yn absennol am 28 o ddiwrnodau neu fwy, rhaid dilyn y dull gweithredu hwn:

 

 

Mae gan y Consortiwm reolwyr eraill all gyflenwi os yw’r Person Cyfrifol yn absennol. Dyma nhw:

Christine Brian

Enw: Christine Brian

Teitl Swydd: Cyfarwyddwr

Cymwysterau a Phrofiad:

Teitl Swydd: Cyfarwyddwr

BA(HONS) Gwyddoniaeth Gymdeithasol  - CGC aseswyr D32/D33

CGC Rheolaeth Lefel 4

15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes anabledd dysgu, o waith gwirfoddol, Gweithiwr Cynorthwyol, Rheolwr Cofrestredig, Rheolwr Perfformiad, Rheolwr Gweithredu a Chyfarwyddwr  Gwasanaethau Cymdeithasol.

Alice O' Sullivan

Enw: Alice O’ Sullivan

Teitl Swydd: Cyfarwyddwr

Cymwysterau a Phrofiad:

Teitl Swydd: Cyfarwyddwr

BA(HONS) Gwyddoniaeth Gymdeithasol  - CGC aseswyr D32/D33

CGC Rheolaeth Lefel 4

15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes anabledd dysgu, o waith gwirfoddol, Gweithiwr Cynorthwyol, Rheolwr Cofrestredig, Rheolwr Perfformiad, Rheolwr Gweithredu a Chyfarwyddwr  Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rheolwyr eraill a staff yr Asiantaeth

Mae’r Consortiwm yn cyflogi rheolwyr eraill i reoli ystod eang o weithgareddau a qwasanaethau.  Isod ceir manylion pob rheolwr, eu cyfrifoldebau a’r cymwysterau sydd gyda nhw (neu maent yn gweithio tuag atyn nhw).

Teitl Swydd:  Rheolwr Cytundebau

Rheolwr Cytundebau

Cyfrifoldebau: cyfrifoldeb am y gwasanaethau cynigir i bobl yn yr ardal leol. Mae pob ardal wahanol yn cael ei galw’n Rhwydwaith.  Rheolwr Cytundebau yw’r Rheolwyr Cofrestredig dan drefniadau Gofal Trigfannol.  Maent yn yn uniongyrchol gyda Thimau Rheolwyr Gofal yr awdurdodau lleol, ac yn goruchwylio’r cytundeb rhwng y Consortiwm a’r prynwr.

Cymwysterau:

CGC Lefel 4 Gofal neu DipSW or RMNH

CGC Lefel 4 Rheolaeth

CGC Gwobr Aseswr (D32/33 or A1)

Team Coordinator

Cydlynwyr Tîm

Cyfrifoldebau: gweithio gyda grwp o wasanaethau o fewn rhwydwaith Rheoli Cyswllt, byddant yn sicrhau fod digon o staff ar gael i’r Cydlynwyr Gwasanaeth a bod y staff hynny wedi eu hyfforddi yn ddigonol ac wedi eu hasesu yn gymwys.

Cymwysterau perthnasol wedi eu hennill neu i weithio tuag atynt:

NVQ Lefel 4 Gofal neu DipSW neu RMNH

NVQ Lefel 4 Rheolaeth

NVQ Dyfarniad Aseswr (D32/33 neu A1)

 

Teitl Swydd: Cydlynnydd Gwasanaeth

Cydlynnydd Gwasanaeth

Cyfrifoldebau: cyfrifoldeb am sicrhau bod y gwasanaethau yn cael eu darparu i grwpiau bach o ddefnyddwyr gwasanaeth (fel arfer yn byw gyda’i gilydd).  Maent yn sicrhau bod cynlluniau darparu gwasanaeth yn eu lle, a’u bod nhw’n ateb gofynion pob defnyddiwr gwasanaeth, a bod y  gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol gan staff cynorthwyol.  

Cymwysterau sy wedi’u hennill neu i weithio tuag atynt:

CGC Lefel 3 Hybu Annibyniaeth neu Gofal

CGC Gwobr Aseswr (D32/33 neu A1)

Teitl Swydd: Cydgysylltwyr Cymorth

Cyfrifoldebau: gweithio gyda nifer fach o ddefnyddwyr gwasanaeth maen nhw’n eu hadnabod yn dda. Fel gweithwyr allweddol, maen nhw’n gyfrifol am lunio ac adolygu cynlluniau cymorth gyda’r defnyddwyr gwasanaeth ac arwain staff cymorth eraill wrth ddiwallu anghenion a dymuniadau’r defnyddwyr gwasanaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Cymwysterau Perthnasol sydd ganddyn nhw neu maen nhw’n gweithio tuag atynt:

NVQ Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gyfwerth)

Teitl Swydd:  Cydlynnydd Tîm

Cydlynnydd Tîm

Cyfrifoldebau:   i weithio gyda grwp fwy o denantiaid, maent yn sicrhau bod anghenion llety’r defnyddwyr  gwasanaeth yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn sicrhau bod y tenant yn aros yn ddiogel yn eu tai eu hunain.

Cymwysterau sy wedi’u hennill neu i weithio tuag atynt:

Lefel 3 Tystysgrif mewn Tai Cynorthwyol

Lefel 3 Tai

Teitl Swydd:  Staff Cynorthwyol

Staff Cynorthwyol

Cyfrifoldebau:  gweithio o fewn y gwasanaethau i ddarparu’n uniongyrchol gymorth i bob defnyddiwr gwasanaeth yn ôl eu Cynlluniau Darparu Gwasanaeth.

Cymwysterau sy wedi’u hennill neu i weithio tuag atynt:

CGC Lefel 2/3 Gofal

Staff Swyddfa Ganolog

Mae’r Consortiwm yn cyflogi nifer o reolwyr a staff sy’n darparu gwasanaethau cymorth proffesiynol i’n rheolwyr yn y maes ac i’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.  Lleolwyd y staff hyn y ein swyddfeydd yn Abertawe.

Cewch ragor o wybodaeth am y staff hyn yn nogfen y Consortiwm, ‘Who’s Who’. Cewch gopi o’r ddogfen gan unrhyw wasanaeth, ein swyddfa ganolog neu drwy fynd i’n gwefan: www.wghc.co.uk

Trefniadau ar gyfer salwch staff neu absenoldebau eraill

Mae’r Consortiwm yn sylweddoli ei fod yn bwysig i ddefnyddwyr gwasanaeth gael pobl maent yn eu adnabod ac yn ymddiried ynddynt. Os yw staff yn sâl neu’n absennol am gyfnodau o amser, mae ganddynt bolisi am sicrhau bod dilyniant ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth. 

Os nad yw gweithiwr arbennig ar gael, yna bydd Cydlynwyr Tîm  yn ceisio dod o hyd i aelod o staff mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn gyfarwydd â nhw. Mewn amgylchiadau eithafol bydd y Consotiwm yn defnyddio staff o wasanaethau eraill o fewn y rhwydwaith, neu rhywle arall o fewn yr asiantaeth.

Am ragor o fanylion, edrycher ar ein polisi ar ‘Rheoli Trefnau’.

Nid yw’r Consortiwm yn cyflogi staff o du allan i’r asiantaeth i ddarparu gwasanaethau cynorthwyol. (Rheolau 4, Gofal Trigfannol, Atodlen 1.18)

Trefniadau ar gyfer dileu Gweithwyr Cynorthwyol gan un ai’r Defnyddiwr Gwasanaeth neu’r Asiantaeth:

Dim ond o dan amgylchiadau arbennig bydd y Consortiwm yn dileu staff cynorthwyol, ond nid os yw hyn yn gosod defnyddiwr gwasanaeth mewn perygl.

Os oes rhaid dileu staff cynorthwyol, bydd y Consortiwm yn rhoi 24 o oriau o rybydd, heblaw am sefyllfaoedd argyfwng. Rydym yn gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth roi 24 o oriau o rybydd os ydynt am ddileu staff cynorthwyol.

Dulliau gweithredu trefnau staff a thaflenni amser

Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod staff ar gael yn y niferoedd, amlder a chymhareb gywir yn disgyn i’r Cydlynwyr  Tîm.

Mae’r Cydlynwyr  Tîm yn paratoi trefnau wythnosol i staff o leiaf 4 wythnos o flaen llaw. Lle mae’n bosibl, mae’r trefau hyn ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth, a hynny mewn ffurf hygyrch.

Mae’r Cydlynwyr  Tîm yn cwblhau taflenni amser ar ddiwedd bob mis yn dangos yr oriau weithiodd staff, gan gynnwys unrhyw absenoldebau oherwydd salwch, gwyliau blynyddol neu unrhyw reswm arall. 

Dylid cyfeirio at ein polisi ar ‘Rheoli Trefnau’ am fanylion pellach.

Ni ddisgwylir i ddefnyddwyr gwasanaeth lofnodi taflenni amser i gadarnhau presenoldeb aelod o staff. Bydd y darpar reolwyr yn awdurdodi’r taflenni amser. 

AMGYLCHIADAU AM BEIDIO Â DARPARU GWASANAETHAU

Ceir amgylchiadau lle na all y Consortiwm ddarparu gwasanaethau i rywun bellach. Byddwn yn esbonio’r amgylchiadau pe baent yn codi. Ni fydd staff y Consortiwm yn darparu gwasanaeth i rywun os yw’r Awdurdod Lleol yn penderfynnu peidio â darparu gwasanaeth bellach.  

Bydd yr unigolyn, eu cynorthwy-wyr a’r Awdurdod Lleol yn trafod Cynllun Gofal Unigol ac unrhyw asesiadau fydd eu hangen o’r herwydd.

Gall y  Consortiwm roi terfyn ar wasanaeth os oes pryderon ynghlyn â diogelwch defnyddwyr gwasanaeth, staff neu’r cyhoedd. Bydd hyn yn digwydd ar ôl trafodaethau gyda’r defnyddiwr gwasanaeth, ei gynorthwy-wyr, a’r Awdurdod Lleol, a hynny fel rhan o’r broses Cynllun Gofal Unigol a threfniadau Rheoli Cytundebau.  

Polisi’r Consortiwm ar Reoli Ymddygiad Ymosodol

Mae’r Consortiwm wedi ymrwymo i ymyriadau heb fod yn anghymhellol gyda defnyddwyr gwasanaeth a all ddangos ymddygiad ymosodol neu dreisgar, er mwyn cynnal urddas y defnyddiwr gwasanaeth a’r berthynas rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a’r staff.
Nid yw’r Consortiwm yn credu mewn;

Defnyddio poen fel dull rheoli

Unrhyw ataliadau sy’n cynnwys dal person ar y llawr

Dulliau sy’n seiliedig ar gosb

Cyfyngu ar ryddid pobl oni bai bod rheswm cyfreithiol.

Dulliau gweithredu a pholisïau sy mewn lle i amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth a staff rhag camdriniaeth.

Mae’r Consortiwm yn darparu gwasanaethau i oedolion sy’n cael eu hystyried yn fregus. Mae hi felly’n bwysig i ni gael dulliau gweithredu a pholisïau sy’n amddiffyn y bobl rydym yn eu cynorthwyo.

Mae gan y Consortiwm bolisïau i sicrhau bod y staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau wrth sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel rhag camdriniaeth, boed hynny oddi wrthyn nhw eu hunain neu bobl eraill. Mae’r polisïau’n ei gwneud hi’n glir bod gan staff ddyletwydd i roi gwybod am unrhyw gamdriniaeth, neu os ydynt yn drwgdybio bod camdriniaeth yn digwydd. 

Mae’r Consortiwm yn rhedeg dull gweithredu cwynion a chanmol sy ar gael mewn ffurf hygyrch a CDd sain i ddefnyddwyr gwasanaeth neu eu cynrychiolyddion iddynt gael cwyno neu chanmol eu gwasanaeth.

Dulliau gweithredu a pholisïau sy mewn lle i amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth yn eu Gwasanaeth

Mae’n bolisi gan y Consortiwm i sicrhau cartrefi a gweithleoedd diogel i’w staff a defnyddwyr gwasanaeth.  At y diben hwnnw maent wedi ymroi i symud peryglon wrth iddynt godi.

Mae’r Consortiwm yn darparu dulliau gweithredu digonol ac hyfforddiant ar gyfer y peryglon hynny na ellir eu rhagweld neu amddiffyn yn eu herbyn. Mae hyn yn lleihau’r perygl.

Pa fodd bynnag, mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974, wrth gydnabod pwysigrwydd y maes, yn gosod cyfrifoldebau ar bob aelod o staff sy’n gweithio ar bob lefel o fewn y Consortiwm.  Rhiad iddynt ofalu am eu diogelwch eu hunain a’u cydweithwyr, a chydweithio gyda’r Consortiwm a’i swyddogion iddynt gael gyflawni eu cyfrifoldebau hwythau.

Dulliau gweithredu a pholisïau sy mewn lle i amddiffyn eiddo defnyddwyr gwasanaeth

Mae’r Consortiwm yn darparu polisi i gynorthwyo tenantiaid wrth iddynt reoli eu heiddo a’u harian eu hunain. Mae’r arferion yn ddiogel ac yn ateboli leihau’r siawns o gamdriniaeth ariannol neu ymelwa anghyfreithlon.

Rydym hefyd yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â’n tenantiaid a’r bobl eraill sy’n eu cynorthwyo drwy wneud ein harferiadau’n dryloyw ac yn agored i archwiliad.  

Dulliau gweithredu a pholisïau sy mewn lle ar gyfer darparu cymorth gyda gweini moddion

Mae polisi gan y Consortiwm i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth sydd angen cymorth i hunan weini yn cael eu cynorthwyio mewn ffordd ddiogel.

Mae’r Consortiwm yn credu y dylai defnyddwyr gwasanaeth gadw, gweini a rheoli eu moddion eu hunain lle bo hynny’n ymarferol, neu i chwarae rôl gweithredol wrth gymryd cyfrifoldeb am eu moddion.

Lle nad yw hyn yn bosibl, mae staff yn cael eu hamddiffyn drwy ddilyn y dulliau gweithredu sy’n cael eu nodi yn y polisi. Bydd moddion yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd addas at y defnyddiwr gwasanaeth unigol.  Bydd moddion yn cael ei feddiannu, gweini, storio’n ddiogel ac adolygu’n reolaidd.

Trefniadau ar gyfer Defnyddwyr gwasanaeth i fynegi eu barn am eu Gwasanaeth

Mae cyfarfodydd Tenantiaid yn cael eu cynnal a recordio bob deufis lle mae gan bawb gyflew i fynegi barn ar sut mae eu cartrefi’n cael eu rhedeg, neu awgrymu gweithgareddau newydd, gan gynnwys bwydlenni newydd. Os ydyn nhw’n poeni am unrhywbeth maent yn cael y cyfle i drafod hyn.   

Bob dri mis ceir ymweliadau monitro, lle mae tenantiaid yn cael cyfle i siarad â’r Rheolwr Cytundeb ac i leisio unrhyw bryderon neu chanmoliaethau am y gwasanaeth darperir, ac mae hyn yn cael ei recordio yn yr atodlen monitro.

Ceir cyfarfodydd eraill lle mae tenantiaid yn cael y cyfle i gael eu dweud: Cynllun Bywyd Blynyddol, cyfarfodydd adolygiad bob mis, chwarter blwyddyn a phob chwe mis, lsy’n cael eu cynnal gyda’r tenantiaid a’u cynrychiolyddion.

Mae tenantiaid hefyd yn gallu cysylltu gyda a chael cyngor gan y Swyddog Tenantiaid yn Cymryd Rhan, os oes angen.

Dull Gweithredu Cwynion a Chanmol

Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn copi o ddulliau gweithredu cwynion a chanmol, a hynny mewn ffurf hygyrch. Mae hyn hefyd ar gael ar CDd sain, ac mae’n rhoi gwybodaeth glir a chryno ar beth i’w wneud os oes cwyn ynghlyn â’r gwasanaeth maent yn ei dderbyn.

Ceir nifer o bobl lle gellid cysylltu â nhw i gwyno neu i leisio canmol, hynny yw, Cyfarwyddwr y gwasanaeth priodol, y rheolwr cytundeb, yn syth at Gyfarwyddwr y  Consortiwm, eich Rheolwr Gofal, CSIW a.y.y.b.  Mae rhifau ffôn yr uchod ar gael yn y ddogfen ‘Dull Gweithredu Cwynion a Chanmol’.

Taliadau i’r Asiantaeth

Mae’r Consortiwm yn darparu gwasanaethau dan gytundeb gan yr Awdurdod Lleol, a felly rhaid i ddefnyddwyr gwasanaeth dalu am wasanaethau os yw hyn yn cael ei gytuno gan yr Awdurdod sy’n comisynu’r cmorth. 

Dylai  defnyddwyr gwasanaeth dalu am eu gofal personol wedi iddynt gael eu hasesu gan yr Awdurdod Lleol, a bydd yr Awdurdod yn gosod lefel y taliadau. 

Gall y Consortiwm ddarparu cymorth y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei dalu amdano gan yr Awdurdod Lleol. Efallai nad yw’r  Awdurdod Lleol yn gwled y gwasanaeth fel blaenoriaeth, ond bod y person a’i gynhorthwywyr yn barod i dalu am y gwasanaeth., Bydd y Consortiwm yn codi tâl ar yr unigolyn yn uniongyrchol am y gwasanaethau hyn, a hynny wrthyr awr.

 Gall y Consortiwm hefyd drefnu trafnidiaeth ar gyfer unigolyn neu grwp o ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd trefniadau’n cael eu cytuno gyda’r unigolyn, ac yn cael eu nodi mewn Cynllun Trafnidiaeth Personol, fydd yn nodi’r cost i’r unigolyn. Ni fydd y cost yn mynd y tu hwnt i 75% i fudd-daliad Mudoledd yr unigolyn.

Rydym yn nodi taliadau tenantiaid i’r Consortiwn neu i asiantaethau eraill mewn Cynllun Cynorthwyo Cyllid Personol sydd yno i helpu tenantiaid a’u cynorthwywyr rheoli eu bywydau cyllidol.

Strwythur Rheolaeth yr Asiantaeth

Rick Wilson

Prif Weithredwr

Chris Brian

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol

Helen Walters

Rheolwr Datblygu Staff

Peter Russell

Rheolwr Datblygu Gwasanaeth

Terry Turner

Rheolwr Busnes

Debbie Chegwen

Cydlynydd Gweinyddiaeth

Glen Greenacre

Swyddog Meddygol

Steve Harrison

Rheolwr Cyllic

Dave Phillips

Rheolwr Cynhaliaeth

Peter Thomas

Rheolwr Gweinvddu Personel

Caroline Firth

Cydlynydd Datblygu Staff

Julie Davies

Swyddog Tenantiaid yn Cymryd Rhan

Ben Calder

Cydlynydd TGC

Sue Cole

Cydlynydd CGC

Alice O'Sullivan

Rheolwr Gweithredu

Diane Jones

Clinical Service Manager

Del Rees

Cydlynydd Gwasanaethau Tenant

Gill Nichols - 5 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Lynne Stainsby - 15 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Phil McFarlane   - Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Pat Langan - 9 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Michael Connolly - 11 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Julie Thomas - 9 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau

Wendy Evans

Cydlynydd Ricriwtio

Renee Willis - 9 Gwasanaeth

Rheolwr Cytundebau