Gyda Phwy Dylwn I Gysylltu Yn Y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Os oes gennych nam corfforol neu synhwyraidd
Tîm Derbyn, Gwasanaethau Pobl Hyn a'r Anabl,
Neuadd y Sir
Ffôn 01792 636519
Minicom: 01792 636491
Ffôn testun: 07796 275412
E-bost: IntakeOPDS@swansea.gov.uk
Os oes gennych anabledd dysgu
Tîm Cefnogaeth Gymunedol, Ty Herbert, Parc Menter
Ffôn 01792 614100
E-bost: community.support.team@swansea.gov.uk
I wneud cais am Fathodyn Glas parcio
Uned Bathodynnau Ceir, Neuadd y Sir
Ffôn 01792 636795 or
Lawrlwythwch ffurflen gais o www.swansea.gov.uk/bluebadge
I gael mwy o wybodaeth am asesiadau ariannol
Tîm Asesu Ariannol, Canolfan Oldway
01792 636795
E-bost: FinancialAssessments.Section@swansea.gov.uk
I gael copi o un o'r taflenni ffeithiau a nodwyd yn y daflen hon
Gofynnwch i'ch rheolwr gofal neu ffoniwch
01792 636693 or
Lawrlwythwch gopi o
http://www.swansea.gov.uk/socialcarepublications
Cyflwniad
Y Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r adran yn y Cyngor sy'n rhoi cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau i bobl anabl.
Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth fras am yr amrywiaeth o wasanaethau rydym yn eu darparu i oedolion ag anabledd corfforol ac yn dweud wrthych â phwy i gysylltu i gael mwy o wybodaeth.
Mae hefyd yn dweud ychydig wrthych am sut efallai y gallwch gael cymorth ariannol, a sut i gysylltu â sefydliadau eraill sy'n helpu pobl anabl.
Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym am helpu ac annog pobl anabl i fyw mor annibynnol â phosib. Gwneir hyn drwy ddarparu cyngor ac offer arbenigol iddynt sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl fyw yn eu cartrefi ac addasu ar gyfer eu nam. Rydym hefyd yn rhedeg canolfannau lle gallwn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau sy'n anodd iddynt. Efallai hefyd y gallwn ddarparu cefnogaeth i bobl sy'n gofalu am berson anabl.
Weithiau, rydym yn darparu gwasanaethau ein hunain; weithiau mae gennym gytundeb gyda sefydliad arall i
ddarparu'r gwasanaethau. Mae gennym hefyd daflenni ffeithiau sy'n dweud mwy wrthych am bob gwasanaeth.
Nid yw'r daflen hon yn cynnwys gwasanaethau i blant anabl. I gael gwybodaeth am blant, ffoniwch 01792 515050.
Pa help neu gefnogaeth gallaf ei gael?
Gall staff y Gwasanaethau Cymdeithasol roi cyngor i unrhyw un sy'n anabl. Mae ein manylion cyswllt y tu mewn i'r clawr blaen.
Rydym hefyd yn darparu nifer o wasanaethau i bobl anabl. Ond rhaid i ni fod yn siwr bod ein gwasanaethau'n cael eu rhoi i'r bobl hynny â'r angen mwyaf. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni gynnal asesiad cyn i ni allu cytuno ar ba wasanaethau y gallwn eu rhoi i chi.
Rydym yn defnyddio set o reolau o'r enw meini prawf cymhwyster i weld pwy rydym yn gallu eu helpu. Mae ein
taflen ffeithiau 001 Cael help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol: canllaw i Asesu a Chymhwyster yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am hyn.
A oes angen i mi gofrestru fel person anabl?
Nid oes rhaid i chi gofrestru. Nid yw bellach yn angenrheidiol i chi gofrestru at ddibenion cyflogaeth. Mae hawl gennych i gael yr un gwasanaethau a budd-daliadau p'un a ydych wedi cofrestru ai peidio, os ydych yn bodloni'r meini prawf. Ond os ydych yn cofrestru gall fod yn haws weithiau i chi gael yr hyn y mae gennych hawl iddo. Gall eich rheolwr gofal roi mwy o wybodaeth i chi am hyn. Os nad ydych wedi cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol o'r blaen, dylech gysylltu â Thîm Derbyn Gwasanaethau Pobl Hyn a'r Anabl.
Pan fyddwch yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am y tro cyntaf, bydd ein staff yn gofyn am rai manylion am eich sefyllfa bersonol a'ch trafferthion. Gan ddibynnu ar eich anghenion, gallwn drefnu i rywun ymweld â chi gartref i wneud asesiad mwy manwl.
Rhai Gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r anabl
Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol
Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi i asesu sut mae eich nam yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau pob dydd a pha anawsterau sydd gennych. Gallant eich cynghori ar ffyrdd newydd o wneud pethau, a gallant o bosib argymell offer arbenigol a fydd yn eich helpu i wneud pethau'n haws. Mewn rhai achosion, gall Therapyddion Galwedigaethol eich cyfeirio at wasanaethau ailsefydlu lle gallwch ddysgu sgiliau newydd neu eich cynghori am addasiadau posib i'ch cartref.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 018.
Larymau Cymunedol
Gall pobl anabl sydd mewn perygl o gwympo neu gael argyfwng meddygol pan nad oes unrhyw un ar gael i helpu gael larwm cymunedol wedi'i osod yn eu cartref. Mae hwn yn cael ei gysylltu â'r system ffôn ac mae'n galluogi'r defnyddiwr i ofyn am help drwy wasgu botwm ar larwm sy'n cael ei wisgo am y gwddf.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 011.
Tocynnau Parcio i'r Anabl (Bathodynnau Glas)
Mae'r Cynllun Bathodynnau Glas yn caniatáu i rai categorïau o bobl anabl barcio eu ceir mewn mannau lle na all eraill. Gallwch ddefnyddio'r bathodyn p'un ai chi yw'r gyrrwr neu'r teithiwr. Gallwch gael bathodyn os oes gennych nam symudedd difrifol neu os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall. I gael mwy o wybodaeth am y rhai sy'n gymwys am hyn.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 009.
Gwasanaethau Gofal Cartref
Mae rhai pobl anabl yn gallu cael gwasanaethau gofal cartref i'w helpu nhw i fod yn annibynnol yn eu cartrefi. Gall hyn gynnwys help i godi yn y bore, cymorth i olchi a gwisgo a help gyda pharatoi a bwyta prydau. Gall gwasanaethau eraill fod ar gael, yn amodol ar eich anghenion a aseswyd.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 015.
Prydau Cymunedol
Os ydych yn cael trafferth paratoi pryd i chi'ch hun ac nid oes unrhyw un arall ar gael i'ch helpu, gallwch gael prydau wedi'u rhewi neu brydau poeth wedi'u dosbarthu'n rheolaidd i'ch cartref.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 007.
Gwasanaethau Ailsefydlu
Mae'r gwasanaethau hyn yn arbennig ar gyfer pobl sy'n ymgynefino â nam corfforol neu weledol, efallai ar ôl salwch neu ddamwain, gan eu helpu nhw i wneud yn fawr o'u hannibyniaeth a dysgu sgiliau newydd. Mae rhaglenni hyfforddi unigol yn cynnwys sgiliau byw annibynnol, hyfforddiant TG gan ddefnyddio technoleg wedi'i haddasu, byw'n iach a ffitrwydd.
Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 023.
Gwasanaethau Gofal Seibiant
Mae gwasanaethau gofal seibiant yn eich galluogi i dreulio amser byr mewn cartref gofal arbenigol, sy'n rhoi newid bach i chi ac mae eich gofalydd yn cael seibiant hefyd. Ceir gwasanaethau seibiant gwahanol ar gyfer pobl â nam corfforol a phobl ag anabledd dysgu. Gofynnwch i'ch rheolwr gofal am ragor o wybodaeth neu ffoniwch y Tîm Derbyn neu'r Tîm Cefnogi Cymuned fel bo'n briodol (gweler y manylion cyswllt).
Cefnogaeth i Ofalwyr
Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gynnal asesiad o anghenion eich gofalwr, ac efallai darparu cefnogaeth
ychwanegol iddynt. Gofynnwch am Daflen Ffeithiau 004.
Gwasanaethau Arbenigol
Mae gennym staff hefyd sy'n gweithio gyda phobl â nam neu gyflwr arbennig (gweler y rhestr isod). Gallant ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ym maes gwasanaethau, budddaliadau, adnoddau a'r offer sydd ar gael i bobl â'r cyflwr hwnnw. Yn ogystal, os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwyster efallai gallwch dderbyn gwasanaethau cefnogi priodol i helpu gyda byw o ddydd i ddydd.
Gwasanaethau ar gyfer y Deillion neu Bobl â Nam ar y Golwg (Taflen Ffeithiau 020)
Gwasanaethau ar gyfer Pobl Fyddar neu â Nam ar y Clyw (Taflen Ffeithiau 026)
Gwasanaethau ar gyfer Pobl sy'n cael eu heffeithio gan HIV (Taflen Ffeithiau 017)
Gwasanaethau ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu (Taflen Ffeithiau 024)
Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (Taflen Ffeithiau 021)
Beth yw'r gost?
Mae cyngor neu asesiad am ddim.
Codir tâl am rai gwasanaethau rydym yn eu darparu. Weithiau ceir un ffi am wasanaeth. Weithiau bydd y swm rydych yn ei dalu'n dibynnu ar faint o incwm a chynilion sydd gennych. Mae'r symiau hyn yn newid bob blwyddyn. Mewn rhai achosion, gellir gofyn i chi gwblhau 'Asesiad Ariannol' fel y gallwn gyfrifo faint y dylech dalu tuag at y gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, a faint y byddwn ni'n ei gyfrannu. Ond ni fydd angen i chi gwblhau asesiad ariannol ym mhob achos. Gofynnwch i'ch rheolwr gofal am ragor o wybodaeth ynghylch
a oes angen asesiad ariannol arnoch neu beidio.
Os yw eich cynilion neu'ch incwm uwchlaw lefel arbennig, ni allwn roi cyfraniad ariannol tuag at eich gofal, ond efallai y byddwn yn gallu'ch helpu gyda threfniadau preifat i gael yr un math o wasanaethau, y byddwch chi'n talu amdanynt.
Taliadau Uniongyrchol
Os ydych yn gymwys am wasanaeth, efallai mai Taliad Uniongyrchol yw'r ffordd fwyaf addas i chi drefnu gwasanaeth sy'n diwallu eich anghenion unigol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud taliad i chi sy'n eich galluogi chi i dalu am eich gwasanaeth unigol. Gofynnwch i'ch rheolwr gofal am ragor o wybodaeth neu gofynnwch am Daflen Ffeithiau 003.
Sut rydym yn trafod eich gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch mewn cofnodion ysgrifenedig a ffeiliau cyfrifiadurol. Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon yn gyfrinachol, ac eithrio pan fydd angen i ni ei rhannu gyda phobl sy'n gofalu amdanoch, neu i ddiogelu pobl eraill.
Mae hawl gennych i weld y cofnodion sydd gennym amdanoch. I gael mwy o wybodaeth am sut rydym yn trafod gwybodaeth bersonol, gofynnwch am Daflen Ffeithiau 002.
Sylwadau a Chwynion
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am ein gwasanaethau – da neu ddrwg. Hoffwn glywed sut gallwn wella pethau, a hoffwn wybod pan fyddwn yn gwneud rhywbeth yn dda.
Os ydych yn anfodlon ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn, dylech gwyno. Ceir manylion llawn yn Nhaflen Ffeithiau 016 'Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol.' I gael mwy o gyngor neu wybodaeth am wneud cwyn, gallwch gysylltu â'n Swyddogion Cwynion ar 01792 637345.
Cymorth Ariannol
Nid yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn delio â cheisiadau am fudd-daliadau na grantiau, er y gallwn roi cyngor i chi am yr hyn y gallech ei hawlio. Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion am rai o'r budd-daliadau a grantiau y gall pobl anabl eu hawlio, a ble i gael mwy o wybodaeth.
Nid yw'n cynnwys pob budd-dâl sydd ar gael. Gallwch gael nifer o gysylltiadau ar-lein i wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau i bobl ag anableddau ar http://www.direct.gov.uk/DisabledPeople
Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol
Os oes gennych broblem iechyd meddyliol neu gorfforol hir dymor sy'n effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd, gallwch hawlio rhai budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol.
Os ydych o dan 65, gallwch hawlio Lwfans Byw i'r Anabl, sydd â dwy ran o'r enw 'cydrannau'. Telir y gydran Ofal ar 3 cyfradd wahanol a'r Gydran Symudedd ar 2 gyfradd wahanol, yn ôl eich anghenion.
Os ydych dros 65 gallwch hawlio Lwfans Gweini, a delir ar 2 gyfradd wahanol yn ôl eich anghenion.
Os ydych ar incwm isel, efallai gallwch hawlio Ategiad Incwm hefyd.
Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-daliadau Anabledd am ddim ar
Ffôn: 0800 882200
Ffôn testun: 0800 243355
E-bost: BEL-Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd hawlio LBA, Lwfans Gweini neu Ategiad Incwm ar-lein yn http://www.dwp.gov.uk/eservice
Budd-daliadau eraill
Nid yw Lwfans Byw i'r Anabl (LBA) a'r Lwfans Gweini'n cael eu hystyried fel incwm wrth asesu a ydych yn gymwys i hawlio
budd-daliadau eraill fel Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth y Cyngor, Ategiad Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Pensiwn neu
Gredyd Treth Plant. Os yw eich cais am LBA neu Lwfans Gweini'n llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i dderbyn
symiau mwy o fudd-daliadau eraill.
I gael gwybodaeth am Fudd-daliadau Tai neu Fudd-dâl Treth y Cyngor, cysylltwch ag Is-adran Budd-daliadau'r
Cyngor yn Neuadd y Ddinas.
Ffôn: 01792 635353
E-bost: benefits@swansea.gov.uk
Gall eich Canolfan Byd Gwaith leol hefyd gynghori ar Gredydau Treth ac Ategiad Incwm.
Ffôn: 0845 300 3900
Ffôn testun: 0845 300 3909
Gall eich Canolfan Byd Gwaith leol hefyd gynghori ar Gredydau Treth ac Ategiad Incwm.
I gael gwybodaeth am Gredyd Pensiwn, cysylltwch â'rnGwasanaeth Pensiynau ar
Ffôn: 0800 99 1234
Ffôn Testun: 0800 169 0133
Grantiau a Chronfeydd
Os oes angen addasiadau i'ch cartref i'ch helpu gyda'ch nam, efallai gallwch wneud cais am Grant Cyfleusterau i'r Anabl.
Gallwch wneud cais os ydych yn berchen ar eich cartref neu os ydych yn ei rentu oddi wrth y Cyngor, Cymdeithas Tai neu
landlord preifat. I fod yn gymwys am y grant, rhaid i Therapydd Galwedigaethol gynnal asesiad o'ch anghenion ac asesu pa
waith sy'n briodol. Rhaid cael prawf modd ar gyfer y grantiau ac yn amodol ar eich amgylchiadau ariannol, efallai bydd rhaid
i chi wneud cyfraniad i'r gwaith.
Cysylltwch ag Adnewyddu ac Addasu Tai
Ffôn: 01792 635330
Mae gan rai pobl anabl sy'n derbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol hawl hefyd i dderbyn taliad o'r
Gronfa Byw'n Annibynnol. Mae nifer o feini prawf cymhwyster y mae'n rhaid eu bodloni, a cheir rhai cyfyngiadau ar yr hyn y
gellir defnyddio'r taliad ar ei gyfer.
Gofynnwch i'ch rheolwr gofal am ragor o wybodaeth neu ewch i wefan y GBA http://www.ilf.org.uk.
Cludiant
Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol drefnu cludiant i bobl anabl fynychu gwasanaethau dydd pan nad oes dewis teithio arall ar gael. Codir tâl bach am hyn. Gofynnwch i staff y gwasanaeth dydd am ragor o wybodaeth.
Mae hawl gan bobl anabl i gael cludiant bws am ddim yn Ninas a Sir Abertawe. Rhaid i chi wneud cais am Docyn Teithio Consesiynol gan y Cyngor.
Ffôn: 01792 636377
E-bost: Transportation.Engineering@swansea.gov.uk
Mae www.BWSTLER.COM yn darparu cludiant cymunedol hygyrch yn Ninas a Sir Abertawe i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus. Codir tâl bach am hyn. I ddefnyddio'r gwasanaeth Dial-a-Ride, rhaid i chi gofrestru gyda nhw i ddechrau.
Ffôn: 01792 463675
E-bost: info@bwstler.com
Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Symudedd a Gwybodaeth am Gerbydau (MAVIS) yn rhoi gwybodaeth a chyngor i yrwyr anabl am yrru, addasiadau i gerbydau a materion symudedd.
Ffôn: 01344 661000
E-bost: mavis@dft.gsi.gov.uk
Canolfan Asesu Gyrwyr Anabl De Cymru
Ffôn: 02920 555130
Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae Mynediad i Bawb yn Abertawe (SAFE) yn gweithio ac yn ymgyrchu dros ddinas sy'n hygyrch i bawb.
Ffôn: 01792 641767
Mae Shopmobility yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yn rhoi benthyg sgwteri trydan a chadeiriau olwyn trydan neu law am
ddim i bobl sy'n ymweld â chanol y ddinas.
Ffôn: 01792 461785
Mae gan y rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus yn Abertawe gyfleusterau i'r anabl. Mae angen allweddi RADAR ar rai
ohonynt, gellir eu prynu o Adran yr Amgylchedd y Cyngor neu o'r Ganolfan Croeso yn Stryd Plymouth.
Ffôn: 01792 636500
I gael mwy o wybodaeth ewch i
http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=3067
Mae gan Gyngor Abertawe Strategaeth Mynediad i bobl anabl. I gael mwy o wybodaeth ewch i http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=2028
Ffynonellau Help Eraill
Mae nifer o sefydliadau gwirfoddol lleol sy'n cynorthwyo pobl anabl. Yn aml, maent yn darparu cefnogaeth i bobl â nam
penodol.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â
Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe
Ffôn: 01792 544000
E-bost: scvs@scvs.org.uk
Gallwch hefyd weld eu Cyfeirlyfr o Sefydliadau Gwirfoddol arlein
http://www.scvs.org.uk/information/p1561.html
Mae CGGA hefyd yn cynnal Fforwm Anabledd Abertawe
Ffôn: 01792 544018
Llinell Gwybodaeth a Chyngor i'r Anabl (DIAL)
Cyngor, cefnogaeth a chymorth lleol ar gyfer pob agwedd ar
fyw gydag anabledd.
Ffôn: 01792 455565 E-bost: dialswansea@excite.com
Canolfan Gofalwyr Abertawe
Ffôn: 01792 653344 Gwefan: http://www.carers.org/swansea
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB)
Llinell gymorth 0845 766 9999
RNIB Cymru Ffôn: 029 2045 0440 Gwefan: http://www.rnib.org.uk
Cyngor Cymru i'r Deillion
Ffôn: 02920 473954 Gwefan: http://www.wcb-ccd.org.uk
Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol i'r Byddar a'r Rhai Trwm Eu Clyw (RNID)
Ffôn: 0808 808 0123
Ffôn testun: 0808 808 9000 (Rhadffôn)
RNID Cymru Ffôn: 02920 333 034
Ffôn testun: 02920 333 036 Gwefan: http://www.rnid.org.uk
Deafblind UK
Ffôn: 01733-358100 (llais/testun) Gwefan: http://www.deafblind.org.uk
Sense Cymru
Sefydliad sy'n cefnogi pobl sy'n fyddar ac yn ddall
Ffôn: 029 2045 7641
Ffôn testun: 029 2046 4125 Gwefan: http://www.sense.org.uk
Comisiwn Hawliau Anabledd
Ffôn: 08457 622 633
Ffôn testun: 08457 622 644 Gwefan: http://www.drc-gb.org
Sefydliad Byw i'r Anabl
Ffôn: 0845 130 9177 Gwefan: http://www.dlf.org.uk
Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth a daflenni ffeithiau.
Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn fformatiau eraill, fel print bras, ar dâp sain, mewn Braille neu'n electronig. Ffoniwch 01792 636693 am gopïau. Mawrth 2007
Diweddariad Diwethaf: 01 Awst 2007
