Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol
01792 637345
Beth yw eich barn…
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio darparu gwasanaethau o ansawdd i’r cyhoedd yn Ninas a Sir Abertawe. Fodd bynnag, gall pethau fynd o chwith ar adegau a gallai defnyddiwr y gwasanaeth, neu rywun sy’n bryderus am ei les, fod eisiau cwyno.
Mae gennych yr hawl i roi eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ôl y gyfraith.
Drwy roi gwybod i ni am yr hyn sy’n eich poeni neu’n eich bodloni, gallwn ni wella’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.
Sut i ganmol neu gwyno am y gwasanaethau cymdeithasol?
Yn gyntaf oll, dylech chi ddweud wrth aelod y staff sy’n rhoi cefnogaeth am yr hyn sy’n eich poeni a rhowch gyfle iddynt gywiro’r sefyllfa.
Os yw’n well gennych, gallwch gysylltu â thîm Cwynion y Cyngor sydd â swyddogion sy’n ymateb i gwynion ynghylch y Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol. Mae eu manylion cyswllt ar waelod y daflen ffeithiau.
Sut mae’r weithdrefn gwyno yn gweithio?
Cam 1 – Penderfyniad lleol
Bydd rheolwr y gwasanaeth perthnasol yn ystyried eich cwyn ac yn rhoi ei ymateb i chi.
Mae modd datrys y rhan fwyaf o gwynion yn ystod y cam yma a gall fod y dull cyflymaf a mwyaf di-drafferth.
Ni ddylai hyn gymryd mwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn, neu 20 diwrnod os ydych chi’n fodlon ar hynny.
Cam 2 – Ymgynghoriad ffurfiol
Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb i’ch cwyn, gallwch ysgrifennu llythyr i ofyn am ymchwiliad ffurfiol o’ch cwyn a gallwch gysylltu â’r Swyddog Cwynion i drafod yr hyn y gallwch ei wneud nesaf.
Bydd y cam yma yng ngofal rhywun sydd heb gysylltiad uniongyrchol â’r gwasanaeth rydych yn cwyno amdano. Bydd y Swyddog Cwynion yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau yn ystod yr ymchwiliad.
Gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol o’r cychwyn cyntaf, os ydych chi eisiau.
Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol anfon ymateb ysgrifenedig atoch o fewn 25 diwrnod ar ôl dechrau’r ymchwiliad ffurfiol.
Cam 3 – Gwrandawiad gan banel
Os byddwch yn parhau'n anfodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch ofyn am gael symud ymlaen i gam tri y weithdrefn gwynion. Nid oes â wnelo’r awdurdod ddim i’w wneud â dethol aelodau na threfniadau’r panel.
Fel arfer, dylech chi ofyn am gael symud ymlaen i Gam 3 o fewn 20 niwrnod wedi i chi dderbyn yr ymateb yr awdurdod i Gam 2.
Os nad yw eich awdurdod wedi cysylltu â chi o fewn 3 mis, gallwch gyfeirio’ch cwyn yn syth i’r panel. Mae gan y Swyddog Cwynion y manylion cyswllt.
Dylai’r panel gwrdd cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais. Dylai’r adroddiad fod ar gael o fewn 5 diwrnod gwaith a dylai’r awdurdod ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn canfyddiadau’r panel.
Pwy arall fyddai’n gallu helpu?
Os ydych chi dal yn anfodlon ar ddiwedd y broses fewnol, gallwch gysylltu ag:
Ombwdsman y Gwasanaethau Cyhoeddus 1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed,
CF35 5LJ
01656 641150
Ffacs: 01656 641 199
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: www.ombudsman-wales.org
Ffynonnellau cymorth eraill
Gallwch chi hefyd gysylltu â’r bobl ganlynol i gael help a chefnogaeth wrth lunio cwyn.
Gwasanaethau Eirioli
Cynrychioli ac Eirioli Plant
NSPCC
Ty Findlay
Heol Tywysog Cymru
ABERTAWE SA1 2EX
01792 456545
Eirioli Iechyd y Meddwl De Cymru
Ysbyty Cefn Coed
Y Cocyd
ABERTAWE SA2 0GH
01792 516665
Cyrff Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru
Swyddfa Ranbarthol De-orllewin Cymru
Uned C, Rhan 3
Pentref Busnes Tawe,
Ffordd Ffenics
Parc Busnes Abertawe
ABERTAWE SA7 9LA
01792 310420
Ffacs: 01792 313038
E-bost csiw_sw@wales.gsi.gov.uk
Cyngor Gofal Cymru
Ty South Gate
Wood Street
CAERDYDD CF10 1EW
029 2022 6257
Gwefan www.ccwales.org.uk
E-bost info@ccwales.org.uk
Eich Cynghorydd lleol neu’ch Aelod Cynulliad
Os ydych yn ansicr pwy ydyw, cysylltwch â:
Gwasanaethau Cefnogi Aelodau
Neuadd y Sir
Abertawe
SA1 3SY
01792 636922/23/24
E-bost: members.support@swansea.gov.uk
Cysylltu â’r Swyddog Cwynion
Gallwch ffonio, e-bostio neu ysgrifennu at:
Swyddog Cwynion (Gwas. Cymdeithasol)
Tîm Cwynion y Cyngor
Rhadbost NAT 3982
Gwasanaethau Cyfreithiol
Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Sir
ABERTAWE SA1 3SN
( 01792 637345
E-bost: corpcomp@swansea.gov.uk
Gwasanaethau Cymdeithaasol Abertawe a gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym yn cadw gwybodaeth amdanoch mewn cofnodion papur neu gyfrifiadurol. Byddwn yn ei chadw’n gyfrinachol oni bai bod rhaid i ni ei rhannu â phobl sy’n gofalu amdanoch neu i ddiogelu eraill. Mae gennych hawl gweld y cofnodion sydd gennym amdanoch.
Gallwn roi rhagor o wybodaeth i chi am sut rydym yn trin gwybodaeth bersonol. Ffoniwch 01792 636693 i gael y ddalen Eich Gwybodaeth Bersonol.
Mae’r wybodaeth yma ar gael yn Saesneg ac mewn diwyg arall megis print mawr, ar dâp sain, mewn Braille neu ar ffurf electronig. Ffoniwch 01792 636693 i gael copïau.
Mae'r daflen ffeithiau hon yn cynnwys yr un wybodaeth â'r daflen o'r un enw.
Taflen ffeithiau 016: Mehefin 2006
