Cyfeiriad: G1 Ystafell, Trydydd Llawr, Dinas A Sir Abertawe, Cyfarwyddaieth Gwasanaethau Cymdeithasol A Thai, 36 Canolfan Oldway, Stryd Y Berllan, Abertawe, SA1 5LD Ffôn: 01792 636273 Ebost: Cathy.Murray@Swansea.gov.uk

Gwasanaethau Preswyl i Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu

Ynghylch y daflen hon

Mae Gwasanaethau Anableddau Dysgu Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe’n darparu amrediad o wasanaethau i oedolion sydd ag anableddau dysgu. Mae’r daflen hon yn rhoi manylion cyffredinol i chi ynghylch y gwahanol wasanaethau preswyl a beth maen nhw’n eu cynnig.

Sut rydw i’n cael mynediad i’r gwasanaethau

I gael mynediad i’r holl wasanaethau a nodir bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Cefnogi Cymunedol. Rydych chi’n gallu cysylltu â nhw ar 01792 614100. Bydd nyrs neu weithiwr cymdeithasol a elwir yn rheolwr gofal yn dod i siarad â chi a’ch gofalwr neu’ch eiriolwr i ganfod beth yw’ch anghenion. Byddan nhw’n treulio amser yn dod i’ch adnabod, i ganfod mwy am yr anawsterau sydd gennych. Gelwir hyn yr asesiad.

Bydd angen cytuno ar eich anghenion, a sut i’ch cefnogi orau, â chi a’ch gofalwr neu’ch eiriolwr. Gwneir cofnod ysgrifenedig o’ch anghenion mewn cynllun gofal. Byddwch chi a’ch gofalwr yn derbyn copi o’r cynllun gofal i’w gadw. Bydd y cynllun gofal yn dweud wrthych pa wasanaeth(au) y gallwch chi ei/eu dd/defnyddio. Efallai bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw hefyd.

Bydd eich anghenion, a sut byddan nhw’n cael eu diwallu, yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

Llety brys a dros dro

 

Mae lle i 10 person gan y gwasanaeth ac mae ar agor ar hyd y flwyddyn.

Mae’r gwasanaeth yn darparu llety dros dro sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw i chi os nad ydych yn gallu aros yn eich cartref eich hunan. Bydd eich sgiliau a’ch galluoedd yn cael eu hasesu i sicrhau y bydd unrhyw lety a glustnodwyd yn briodol i’ch anghenion a’ch gallu.

Mae’r gwasanaeth yn darparu llety brys os byddwch chi’n ddigartref. Bydd y gwasanaeth yn cyflawni asesiad dros bum niwrnod i sicrhau y gall y gwasanaeth ddiwallu’ch anghenion presennol ac wedyn bydd yn cyflawni asesiad pellach o’ch sgiliau a’ch gallu i sicrhau bod unrhyw lety a glustnodwyd yn briodol i’ch anghenion a’ch gallu.

Mae’r rhan fwyaf o unigolion yn cael mynediad i wasanaethau eraill yn ystod y dydd.

Staffio

Mae’r gwasanaeth yn cael ei oruchwylio gan Reolwr Gwasanaethau Preswyl, ac yn cael ei reoli gan 1 Rheolwr, gyda 2 Uwch Swyddog Gofal Preswyl a 430 o oriau ar gyfer Swyddogion Gofal Preswyl.

Tri Gwasanaeth Gofal Seibiant

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig seibiant sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw a seibiant brys am gyfnodau byr i chi yn ogystal â’ch gofalwyr gael seibiant. Mae Gerddi Glanyrafon yn darparu seibiant os oes anableddau synhwyraidd a chorfforol ychwanegol gennych. Fel arall, byddwch chi’n defnyddio naill ai Heol Acacia neu Heol Alexandra, yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Mae pob gwasanaeth yn cynnig amrediad o weithgareddau cymdeithasol yn ystod eich arhosiad - mynediad i weithgareddau a leolir yn y gymuned leol, ymweliadau i dafarndai, caffis, teithiau siopa,  bowlio a snwcer. Drwy’r haf, rydyn ni’n trefnu teithiau i leoliadau penodol neu wibdeithiau i’r traeth hefyd. Mae’r gweithgareddau mewnol yn cynnwys sesiynau harddwch, ymlacio drwy ddefnyddio offer synhwyraidd, fideos, cerddoriaeth etc.

Staffio

Mae’r gwasanaeth yn cael ei oruchwylio gan Reolwr Gwasanaethau Preswyl a rheolir pob gwasanaeth yn ddyddiol gan Uwch Swyddogion Gofal Preswyl gyda 257 o oriau ar gyfer Swyddogion Gofal Preswyl yn Acacia, 298 o oriau ar gyfer Swyddogion Gofal Preswyl yn Glanyrafon  a 280 o oriau ar gyfer Swyddogion Gofal Preswyl yn Heol Alexandra. Mae’r gwasanaethau ar agor ar hyd y flwyddyn, er efallai ceir adegau pan fydd y cartref ar gau am ddiwrnod e.e. ar gyfer hyfforddiant.

Cofrestrir pob un o’r gwasanaethau preswyl o dan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.

Rhagor o wybodaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol a all fod o ddefnydd i chi

Am gopïau o’r taflenni hyn am ddim, gofynnwch i’ch rheolwr gofal neu ffoniwch 01792 636693.

Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe a gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch chi’n cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn ni’n cadw gwybodaeth amdanoch mewn cofnodion ysgrifenedig a ffeiliau cyfrifiadurol. Byddwn ni’n cadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol, oni bai bod yn rhaid i ni ei rhannu gyda phobl sy’n darparu gofal i chi, neu i ddiogelu pobl eraill.

Mae hawl gennych ofyn am gael gweld y cofnodion yr ydym yn eu cadw amdanoch.

Rydyn ni’n gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch sut rydyn ni’n trin gwybodaeth bersonol . Ffoniwch 01792 636693 am y daflen Eich Gwybodaeth Bersonol.

Sylwadau a chwynion

Rydyn ni’n croesawu unrhyw sylwadau am ein gwasanaethau – yn dda neu’n ddrwg. Mae diddordeb gennym glywed sut gallwn ni wneud pethau’n well, ac rydyn ni eisiau gwybod pan rydyn ni’n gwneud yn dda.

Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaethau  yr ydych chi yn eu derbyn, rydyn ni’n eich annog i wneud cwyn. Rhoddir manylion llawn yn y daflen ‘Cyflwyno Sylwadau, Cwynion neu Ganmoliaeth am y Gwasanaethau Cymdeithasol.’ Am ragor o gyngor neu wybodaeth ynghylch gwneud cwyn gallwch chi gysylltu â’n Swyddogion Cwynion ar 01792 637345.

Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn fformatau eraill hefyd, fel print bras, ar dâp sain, mewn Braille neu’n electronig.  Ffoniwch 01792 636693 am gopïau.

Taflen: 024c/Hydref 2006