Ar gyfer pwy mae’r daflen hon?
Mae’r daflen hon ar eich cyfer chi, os oes diddordeb gennych mewn gweithio gartref, drwy ddarparu cartref a chefnogaeth i berson ag anableddau dysgu.
Beth yw cynnwys y daflen hon?
Cynllun Lleoli Oedolyn gyda Theulu ydyw sy’n recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi pobl sy’n darparu gofal yn eu cartrefi ar gyfer rhywun ag anabledd dysgu. Gall hyn fod am dymor hir neu dymor byr.
Beth yw gwaith gofalu am oedolion?
Cynnig llety, prydau bwyd, cyngor a chefnogaeth ar gyfer oedolyn ag anabledd dysgu. Mewn geiriau eraill, derbyn y person dan sylw fel aelod o’ch teulu.
Gall hyn fod yn llawn amser, hir dymor neu seibiannau byr dymor, fel penwythnos neu wythnos neu ddwy.
Pwy all fod yn ofalydd lleoli oedolyn gyda theulu?
Unrhyw un sydd â lle yn eu cartrefi a’u bywydau sy’n fodlon gwneud yr ymrwymiad. Bydd yn rhaid i chi fod yn barod i ymgymryd â phroses asesu. Gallwch fod yn berson sy’n byw ar eich pen eich hun neu rywun gyda theulu.
A fydd angen unrhyw brofiad arna i?
Na. Er y byddai profiad yn ddefnyddiol, byddwn yn darparu hyfforddiant.
Ai dyma’r swydd i chi?
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r amser a’r amynedd i ofalu yn ogystal â’r ymroddiad a’r parodrwydd i ddatblygu eu sgiliau.
Byddwch yn derbyn tâl am ymgymryd â’r swydd werth chweil hon.
Manylion Cyswllt
Swyddog Lleoli Oedolyn gyda Theulu, Tîm Cefnogi Cymunedol, Ty Herbert, Cwrt Siarter, Fforrd Ffenics, Parc Menter, Abertawe, SA7 9FS,Ffôn: 01792 614100 (9am tan 5pm yn ystod yr wythnos)
