Callaw hyfforddi a llyfryn gwaith i denantiaid
Hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid

Canllaw hyfforddi a llyfryn gwaith i denantiaid yw “Byw yn eich cartref” sydd wedi’i anelu at gynyddu nifer y ffyrdd y gellir hysbysu tenantiaid sydd ag anabledd dysgu am eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel tenantiaid.
Nod “Byw yn eich cartref” yw galluogi tenantiaid sydd ag anableddau dysgu I hyfforddi tenantiaid eraill ar hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a darparu llyfryn gwaith ar hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a allai gael ei ddefnyddio gartref gan denantiaid.
Gallwch chi lawrlwytho’r canllaw hyfforddi a llyfryn gwaith i denantiaid ‘Byw yn eich cartref’, oddi ar wefan Cymdeithas Tai First Choice.
Ewch i www.firstchoicehousing.co.uk a chliciwch ar yr adran ‘Cymryd Rhan’.
Adborth gan y rhai hynny a gymerodd ran mewn
hyfforddiant “Byw yn eich cartref”
“Dylai tenantiaid gael eu dysgu gan denantiaid eraill. Maen nhw’n cymryd mwy o sylw oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n fwy cyffyrddus ac nid oes ofn ganddyn nhw ofyn cwestiynau.”
“Mae’n dangos i denantiaid mai eu ty nhw ydyw a bod ganddyn nhw hawliau. Mae bod yn denant yn rhoi hyder a hunan-barch iddyn nhw, rhyw fath o statws!”
“Dylai wneud i staff gael mwy o barch am denantiaid ac i staff gofio eu bod nhw’n gweithio yng nghartref rhywun.”

“Mae hyn oll yn cyfateb yn yr un ffordd i hyfforddwyr. Wrth hyfforddi, mae hyn yn helpu hyfforddwyr tenantiaid i ennill hyder a fyddai’n eu helpu nhw i gymryd rhan mewn pethau eraill sy’n bwysig yn eu bywydau.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nigel Bowen yn Cymdeithas Tai First Choice ar:- 029 2070 3758 neu nigelbowen@firstchoicehousing.co.uk
