Y Tîm Cefnogi Cymunedol ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu
I bwy y mae’r daflen hon?
Mae’r daflen hon ar eich cyfer chis os oes gennych anableddau dysgu. Efallai eich bod yn cael anhawster wrth ddysgu a defnyddio’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywyd arferol heb gymorth pobl eraill.
Byddai’r anawsterau hyn wedi codi yn ystod eich plentyndod ac yn aml byddech wedi cael eicg geni gyda’r anabledd. Efallai bod gennych anabledd arall fel epilepsi, anabledd corfforol, nam synhwyraidd neu salwch meddwl.
Mae’r daflen hon hefyd ar gyfer pobl sy’n gofalu am bobl ag anableddau dysgu.
Beth mae’r daflen hon yn sôn amdano?
Mae’r daflen hon yn s ô n am y Tîm Cefnogi Cymunedol a sut y gallant eich helpu chi i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnoch i fyw mor annibynnol â phosib yn y gymuned.
Pwy yŵr Tîm Cefnogi Cymundedol?
Mae’r t î m yn cynnwys staff y gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithio ie Ddinas a Sir Abertawe a staff iechyd sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwy. Maent yn gweithio yn Nh? Herbert.
Mae’r t î m yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, seicolegwyr, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.Mae’r t î m hefyd yn gweithio’n agos â seiciatregydd ymgynghorol y Gwasanaethau Anableddau Dysgu a’r T î m Ymateb Cymunedol sy’n gweithio yn Ysbyty Llwyneryr.
Pa help a chefnogaeth y gallwn eu rhoi i chi?
Byddwn yn eich helpu chi i nodi eich anghenion a’r ffordd orau i’w diwallu.
Er mwyn gwneud hyn bydd nyrs neu weithiwr cymdeithasol, a elwir yn rheolwr gofal, yn dod i siarad gyda chi a’ch gofalwr neu eich eiriolwr. Byddant yn treulio amser yn dod i’ch adnabod chi. Asesiad yw hwn .Byddwn yn cytuno ar eich anghenion a’r ffordd orau o’ch cefnogi chi gyda chi a’ch gofalwr neu eich eiriolwr. Fe fydd hyn yn cael ei nodi’n ysgrifenedig mewn cynllun gofal. Byddwch chi a’ch gofalwr yn cael copi o’r cynllun gofal i’w gadw.
Byddwn yn cwrdd â chi a’ch gofalwr o leiaf unwaith y flwyddyn i weld sut mae pethau’n mynd ac i wneud yn siwr eich bod yn fodlon ar y gefnogaeth rydych yn ei chael. Cyfarfod adolygu yw hwn.
Sui i gwyno
Byddwn yn filch o drafod unrhyw bryderon sydd gennych yngl?n â ’r gwasanaeth gyda chi neu eich gofalwr. Gallwch gysylltu ag Arweinydd y T î m Gwaith Cymdeithasol neu’r Rheolwr lechyd yn y t îm. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, bydd y tîm yn eich annog i ddefnyddio Gweithdrefnau Cwyno Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol neu Fro Morgannwg.
Rhannu gwybodaeth a chyfrinachedd
Bydd yr holl wybodaeth bersonal amdanoch chi yn cael ei thrin yn gyfrinachol gan y TCC ac yn cael ei rhannu gyda phobl eraill pan fydd yn briodol a chyda’ch caniat âd chi yn unig.
O fewn y TCC, mae staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth er mwny darparu gwasanaeth mwy effeithiol Mae hyn yn cynnwys system wybodaeth gyfrifiadurol ar y cyd a chofnodion papur ar y cyd.
Mae Dinas a Sir Abertawe ac Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn gweithredu polisi mynediad i gofnodion sy’n galluogi pobl i weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanynt.
Manylion Cyswllt
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r can-lynol:
Y Tîm Cefnogi Cymunedol,Ty Herbert, Charter Court Ffordd Ffenics Parc Anturiaeth Abertawe Llansamlet Abertawe SA7 9FS Ffôn: (01792) 614100 Ffacs: (01792) 614101 e-bost: community.support.team@swansea.gov.uk www.swansea.gov.uk/socialcare www.wales.nhs.ukMae’r tîm ar gael:
9 - 5 Dydd Llun i ddydd lau
9 - 4.30 Dydd Gwener
Ar ôl oriau arferol
Am gymorth mewn argyfwng cysylltwch â’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Dyletswydd Brys:
Ffôn: (01792) 775501
